Gyrrwr tractor peryglus yn osgoi mynd i'r carchar

Y tractor a'r difrod i gerbydFfynhonnell y llun, Gwasanaeth Erlyn y Goron
Disgrifiad o’r llun,

Plediodd Martin Roch yn euog i gyhuddiad o yrru'n beryglus

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 51 oed a yrrodd dractor mewn modd peryglus trwy bentref yn Sir Benfro, gan achosi i yrrwr arall ofni am ei bywyd, wedi osgoi carchar.

Fe dynnodd Martin Roch drelar trwy bentref Maiden Wells ger Penfro, oedd wedi ei orlwytho gyda ffrâm sied fetel oedd "fetr bob ochr" yn lletach na'r cerbyd.

Wrth basio car yn teithio i'r cyfeiriad arall, fe ddifrododd y llwyth ffenestr y cerbyd gan achosi i'r gwydr fynd dros y gyrrwr a'i theithiwr.

Wrth roi dedfryd o 24 wythnos o garchar wedi ei gohirio am 12 mis, dywedodd y Barnwr Paul Thomas KC y dylid wedi bod yn "amlwg" bod y trelar yn beryglus.

Ffynhonnell y llun, Gwasanaeth Erlyn y Goron
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y trawst "fetr bob ochr" yn lletach na'r trelar

Clywodd Llys y Goron Abertawe bod Roch yn symud y ffrâm rhwng dwy fferm tua thair milltir ar wahân.

Mewn datganiad i'r llys dywedodd y gyrrwr, Janice Wilson, 67, ei bod wedi ceisio tynnu i un ochr i osgoi'r trelar, cyn iddo daro'r piler rhwng ffenestr flaen ei char a drws y gyrrwr.

Dywedodd petai'r ffrâm wedi bod "ychydig fodfeddi'n hirach dwi'n teimlo y byddai'r trawst metel wedi torri fy mhen i ffwrdd oherwydd ni arafodd o gwbl".

Clywodd yr achos bod Roch wedi aros am hanner awr wedi'r digwyddiad, ond ei fod wedi gadael cyn i'r heddlu gyrraedd, gan fynd ati gyda pherchennog y tractor i'w symud o'r ffordd.

Ffynhonnell y llun, Gwasanaeth Erlyn y Goron
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid sgrapio'r car - fe gafodd y gyrrwr a'i theithiwr fân anafiadau

Dywedodd bargyfreithiwr yr amddiffyn bod Roch wedi pledio'n euog i gyhuddiad o yrru'n beryglus mewn gwrandawiad blaenorol, ac yn derbyn ei fod wedi "camfarnu nad oedd y trelar wedi ei orlwytho'n beryglus y diwrnod hwnnw".

Ychwanegodd nad oedd wedi gadael y safle mewn ymgais i "amharu" ar ymchwiliad i'r achos.

Dywedodd y barnwr: "Dylid wedi bod yn hollol amlwg i chi y byddai gyrru'r tractor a'r trelar yna yn creu risg i ddefnyddwyr eraill y ffordd."

Ar ben y ddedfryd o garchar wedi ei gohirio, bydd yn rhaid i Roch wneud 100 o oriau o waith heb dâl.

Mae hefyd wedi ei wahardd rhag gyrru am 12 mis, er i'r amddiffyn ddweud y byddai methu cael gyrru'n effeithio ar ei allu i weithio fel gyrrwr tractor ac ar ei deulu.

Bydd yn rhaid iddo basio prawf gyrru cyn cael trwydded eto.

Pynciau cysylltiedig