'Methiannau difrifol' yn achos mab a laddodd ei dad
- Cyhoeddwyd
Mae crwner wedi dod i'r casgliad bod methiannau difrifol gan awdurdodau wedi cyfrannu at lofruddiaeth meddyg gan ei fab, oedd wedi dianc o uned iechyd meddwl.
Cafodd Daniel Harrison, 37, ei gadw'n gaeth am gyfnod amhenodol o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl am ddynladdiad ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll.
Fe wnaeth ymosod ar ei dad, Dr Kim Harrison, 68, yng nghartref y teulu yng Nghlydach ym mis Mawrth 2022.
Cofnododd y crwner reithfarn naratif, gan nodi bod methiannau lluosog yng ngofal Daniel Harrison wedi cyfrannu at y farwolaeth.
Dywedodd mam Daniel, Dr Jane Harrison, fod y cwest wedi “datgelu methiannau niferus” yng ngofal ei mab.
Mae Bwrdd Iechyd Bae Abertawe wedi "ymddiheuro yn ddiamod am ein methiannau yn yr achos yma".
- Cyhoeddwyd4 Ebrill
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2022
Dywedodd crwner cynorthwyol y de-orllewin, Kirsten Heaven, fod swyddogion Bwrdd Iechyd Bae Abertawe a Chyngor Abertawe wedi mabwysiadu "meddylfryd cadarn" ac agwedd "amddiffynnol" pan roedd teulu Harrison wedi gofyn am gymorth gyda chyflwr iechyd meddwl eu mab, oedd yn dirywio.
Clywodd yr ymchwiliad yn Neuadd y Dref Abertawe ddydd Mawrth am "gyfleoedd a gafodd eu colli" i helpu Daniel Harrison ar ôl iddo roi'r gorau i gymryd meddyginiaeth gwrthseicotig tua 2019 a gwrthod trafod gyda gwasanaethau iechyd.
Yn ôl y crwner, roedd asesiad iechyd meddwl yng ngorsaf Heddlu Abertawe ym mis Ebrill 2021, a ganfu nad oedd modd ei gadw o dan y ddeddf iechyd meddwl, yn "ddiffygiol ofnadwy" oherwydd na chafodd gwybodaeth ychwanegol am feddyliau paranoid a chynyddol ymosodol Daniel Harrison am ei rieni eu harchwilio.
Dywedodd bod y seiciatrydd dan sylw, yr Athro Peter Donnelly yn "rhy barod i dderbyn bod Daniel yn rhoi atebion rhesymol yn hytrach na chamargraffiadau paranoid".
Dywedodd y crwner hefyd fod yr Athro Donnelly wedi ymddwyn mewn modd "hynod ddi-hid" wrth ganiatáu Daniel Harrison yn ôl i'r gymuned, ar ôl dweud wrth y cwest ei fod yn poeni am ei ddiogelwch ei hun wrth ystyried y risg o wneud ymweliad cartref.
"Dylai clychau larwm fod wedi canu i'r Athro Donnelly," meddai.
Fe wnaeth hi hefyd ganfod "methiannau sylweddol gan uwch reolwyr y bwrdd iechyd oedd ar rybudd am gyflwr Daniel, oedd yn dirywio".
Eglurodd nad oedd ganddyn nhw "gynllun cadarn" ar waith i geisio cael Daniel Harrison yn ôl ar y feddyginiaeth oedd wedi bod yn ei helpu i reoli ei sgitsoffrenia rhwng 2007 a 2019.
Daeth y crwner i'r casgliad bod methiant Bwrdd Iechyd Bae Abertawe i "ymrwymo’n bendant" â Daniel Harrison yn y gymuned wedi caniatáu iddo syrthio’n ôl i mewn i ymddygiad seicotig wnaeth "o bosibl gyfrannu" at farwolaeth ei dad.
Ychwanegodd mai ffactor arall a gyfrannodd oedd methiant y bwrdd iechyd i fynd i'r afael â "diffygion" yn y system ddiogelwch yn ysbyty Castell-nedd Port Talbot.
Roedd Daniel Harrison wedi gallu gwthio heibio nyrs oedd yn dal drws agored ar y ward - drws oedd fel arfer dan glo.
Nododd Ms Heaven nad oedd y bwrdd iechyd wedi ymateb yn ddigonol i ddigwyddiadau blaenorol o ddianc drwy'r un drws ac nad oedd staff wedi cael hyfforddiant diogelwch priodol.
'Codi pryderon yn gyson'
Fe wnaeth rhieni Daniel Harrison "godi pryderon yn gyson gyda'r bwrdd iechyd a'r awdurdod lleol," meddai Ms Heaven, ond "doedd clinigwyr ddim wedi rhoi sylw digonol i wybodaeth atodol gan y rhieni".
Dywedodd y crwner y byddai'n cyflwyno adroddiad atal marwolaethau yn y dyfodol yn ystod y saith diwrnod nesaf, gan godi pryderon nad oedd meddygon, oedd ddim yn cael eu cyflogi gan y bwrdd iechyd, yn gallu cael gafael ar gofnodion a bod gofyn iddyn nhw gymryd nodiadau meddygol ar ôl gweld cleifion.
Fe wnaeth Bridget Dolan KC, oedd yn cynrychioli’r teulu, ddiolch ar eu rhan i'r crwner am ei gwaith a'i hymchwiliad trylwyr wrth wrando a dadansoddi'r dystiolaeth, gan ychwanegu eu bod yn gwerthfawrogi ei sensitifrwydd wrth gynnwys Daniel Harrison yn y cwest.
Mewn datganiad dywedodd mam Daniel, Dr Jane Harrison, fod y cwest wedi “datgelu methiannau niferus” yng ngofal ei mab.
“Ni allai ein teulu fod wedi gwneud mwy i geisio cael cymorth ar gyfer iechyd meddwl dirywiol Dan gan uwch seiciatryddion, gweithwyr cymdeithasol a rheolwyr," meddai.
Dywedodd fod eu pryderon difrifol wedi cael eu codi sawl gwaith, “ac eto hyd heddiw nid oes gennym unrhyw esboniad pam y cafodd ein galwadau eu hanwybyddu".
Cyhuddodd yr awdurdodau o fod yn “ddall i’w methiant i estyn allan ac ymgysylltu” â’i mab, gan honni bod diwylliant o'r fath yn parhau yn y gwasanaethau iechyd meddwl.
“Mae ein teulu yn parhau wedi'n syfrdanu gan y diffyg tosturi... gan y bwrdd iechyd a dinas a sir Abertawe.
“Cymerodd farwolaeth Kim yn y pendraw i gael y gofal a’r driniaeth yr oedd [Daniel] dirfawr eu hangen."
'Ymddiheuro yn ddiamod am ein methiannau'
Dywedodd Bwrdd Iechyd Bae Abertawe mewn datganiad: "Mae'r achos yma yn ddirdynnol ac yn gwbl drasig, ac ry'n ni'n cydnabod yr effaith ofnadwy ar deulu a ffrindiau Dr Harrison yn llawn.
"Ry'n ni'n ymddiheuro yn ddiamod am ein methiannau yn yr achos yma, ac yn benderfynol o ddysgu a gwneud popeth o fewn ein gallu i osgoi achos tebyg yn y dyfodol.
"Ry'n ni'n cydnabod bod gwybodaeth sy'n cael ei roi gan aelodau o'r teulu am gleifion yn hanfodol wrth gynllunio a darparu gofal, ac ry'n ni bellach wedi cryfhau ein prosesau i sicrhau bod yr wybodaeth bwysig yma yn cael ei gofnodi a'i rannu gyda thimau clinigol.
"Yn ogystal, mae mesurau diogelwch yn cael eu cryfhau yn Ward F Ysbyty Castell-nedd Port Talbot fydd yn golygu bod ardaloedd ychwanegol o amgylch allanfeydd y bydd modd eu cloi.
"Fe fyddan ni nawr yn ystyried canfyddiadau'r crwner yn llawn, ac yn cyflwyno unrhyw fesurau ychwanegol sydd eu hangen."