Edrych yn ôl ar gyfnod Eluned Morgan fel Gweinidog Iechyd

Eluned Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Eluned Morgan yw arweinydd newydd y Blaid Lafur

  • Cyhoeddwyd

Fe gafodd Eluned Morgan ei phenodi'n Weinidog Iechyd Cymru ym mis Mai 2021 - ar ddiwedd ail don Covid.

Erbyn hynny roedd tua dwy ran o dair o unigolion wedi derbyn eu brechiadau Covid cyntaf felly roedd bygythiad uniongyrchol y firws i fywyd yn gostwng.

Ond roedd ôl-effeithiau anferth tonnau cynta'r pandemig ar y gwasanaeth iechyd yn dod yn fwyfwy amlwg.

Roedd y staff oedd wedi blino'n lân yn wynebu rhestrau aros oedd wedi tyfu'n sylweddol oherwydd bod cymaint o driniaethau wedi cael eu gohirio.

Yn ogystal roedd y straen ar fin cynyddu ymhellach gyda chleifion, oedd efallai wedi dewis cadw draw oherwydd Covid, yn dychwelyd i'r system.

Dyma i chi amgylchiadau gyda'r anoddaf y gallai unrhyw weinidog iechyd newydd eu hwynebu.

Yn fuan ar ôl cymryd yr awenau fe wnaeth Eluned Morgan gydnabod maint digynsail yr her - ond nododd y byddai gostwng rhestrau aros yn flaenoriaeth iddi.

Ychydig ar ôl hynny cyhoeddodd gynllun yn cynnwys cyfres o dargedau - sydd wedi'u methu eisoes neu yn debygol o gael eu methu.

Y targedau

Ddylai neb fod yn aros yn hirach na blwyddyn am ei apwyntiad cyntaf fel claf allanol - erbyn diwedd 2022

  • Ddeunaw mis yn ddiweddarach mae 70,299 o achosion yn dal i fod lle mae rhywun wedi bod yn aros yn hirach na hynny.

Ddylai neb fod yn aros yn hirach na dwy flynedd am driniaeth yn y mwyafrif o arbenigeddau erbyn Mawrth 2023

  • Dros flwyddyn yn ddiweddarach mae 22,455 o achosion lle bu rhywun yn aros yn hirach na hyn, ac ar ôl gwella am ddwy flynedd ma'r ffigwr bellach yn codi eto.

Ddylai neb fod yn aros yn hirach na blwyddyn am ei apwyntiad cyntaf fel claf allanol - erbyn diwedd 2022

  • Ym mis Mai eleni roedd 154,872 o achosion lle bo rhywun wedi bod yn aros dros flwyddyn. Ac mae'n edrych yn fwyfwy tebygol y caiff y targed hwn ei fethu oherwydd yn ôl yr ystadegau diweddaraf mae’r ffigwr hwn wedi bod yn codi am 4 mis.

Delio â phroblemau sylweddol y gwasanaeth iechyd

Ym mis Mai eleni roedd 154,872 o achosion lle bo rhywun wedi bod yn aros dros flwyddyn.

Mae'n edrych yn fwyfwy tebygol y caiff y targed hwn ei fethu oherwydd yn ôl yr ystadegau diweddaraf mae’r ffigwr hwn wedi bod yn codi am bedwar mis.

Y tu hwnt i fethu â chyflawni'r hyn yr oedd hi wedi gobeithio o safbwynt lleihau rhestrau aros, fel ei rhagflaenwyr, fe fu'n rhaid i Eluned Morgan ddelio â phroblemau sylweddol yn y gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru.

Fe osododd fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr dan 'fesurau arbennig' - dyma'r eilwaith i'r sefydliad fod o dan y lefel uchaf o oruchwyliaeth gan Lywodraeth Cymru.

Ond yn ystod y broses fe orfododd aelodau annibynnol y bwrdd i ymddiswyddo gan achosi ffrae fawr o ganlyniad.

Disgrifiad o’r llun,

Fe lwyddodd Eluned Morgan i ddod i gytundeb ar gyflogau nyrsys, gweithwyr ambiwlans ac yn fwy diweddar meddygon

Ond mewn agweddau eraill o'r swydd mae modd dadlau fod Eluned Morgan wedi cael rhywfaint yn rhagor o lwyddiant.

Ar adeg pan oedd nifer o fyrddau iechyd yn gorwario'n sylweddol oherwydd cynnydd yng nghostau cyffuriau ac ynni - llwyddodd Eluned Morgan i ddadlau y dylid symud cannoedd o filiynau o bunnau o adrannau eraill Llywodraeth Cymru a gwario'r arian ar y gwasanaeth iechyd.

Ac er i waith y gwasanaeth iechyd gael ei amharu'n sylweddol, yn ystod ei chyfnod, gan gyfres o streiciau - fe lwyddodd Eluned Morgan, yn y pen draw, i ddod i gytundeb ar gyflogau nyrsys, gweithwyr ambiwlans ac yn fwy diweddar meddygon.

A fydd hi'n fodlon â'r hyn y mae wedi ei gyflawni?

Fel gwleidydd sydd am gael ei hystyried fel rhywun sy'n barod i gorddi'r dyfroedd, dywedodd Eluned Morgan wrthyf yn fuan ar ôl ei phenodiad, y byddai hefyd am brocio'r gwasanaeth iechyd.

Yn aml byddai'n ymweld yn ddirybudd ag unedau brys.

Ac ar un achlysur clywais iddi ddewis mynd i weld uned lawfeddygol oedd wedi cael cyllid ychwanegol i geisio gostwng rhestrau aros.

Pan aeth yno cafodd ei synnu cyn lleied o weithgarwch oedd yn digwydd. Rhoddodd bryd o dafod i benaethiaid y bwrdd iechyd yn fuan wedyn.

Ond mae problemau a gwendidau'r gwasanaeth iechyd yr un mor amlwg nawr, os nad yn amlycach nawr na phan gymerodd Eluned Morgan yr awenau, gyda'r galw yn parhau i gynyddu gan boblogaeth ar y cyfan sy’n hŷn, salach a thlotach na gweddill y DU.

Disgrifiad o’r llun,

Yn y gwanwyn awgrymodd Eluned Morgan fod y swydd yn cael effaith ar ei bywyd personol

Ond does dim amheuaeth fod bod yn Weinidog Iechyd yn cynnig hyfforddiant gwerthfawr i rywun sy'n llygadu bod yn Brif Weinidog.

Ma’ bod yn gyfrifol am iechyd yn golygu rhedeg adran sy'n gwario dros hanner holl gyllideb Llywodraeth Cymru a bod yn atebol am wasanaeth sy'n cyflogi degau o filoedd ac sy'n cael effaith ar fywydau cymaint yn rhagor.

Mae'r penderfyniadau sy'n rhaid eu gwneud yn aml yn anodd a chymhleth.

Yn y gwanwyn awgrymodd Eluned Morgan fod y swydd yn cael effaith ar ei bywyd personol gan awgrymu na fyddai'n arbennig o awyddus i aros fel Gweinidog Iechyd yng nghabinet y Prif Weinidog newydd.

Ond yn y pen draw cafodd ei pherswadio i aros fel gweinidog, a nawr mae ar fin cael ei dyrchafu'n brif weinidog.