Galw am ymchwiliad i ddigwyddiad ym mharc Oakwood

OakwoodFfynhonnell y llun, Uri Baruchin
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Bounce ei gau yn 2016 cyn ailagor yn 2022 ar ôl gwaith adnewyddu gwerth £400,000

  • Cyhoeddwyd

Mae’r Aelod Seneddol dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro wedi galw am ymchwiliad llawn i ddigwyddiad ym mharc antur Oakwood ddydd Mercher, lle cafodd nifer eu hanafu.

Yn ôl Sam Kurtz, mae e wedi ysgrifennu at y parc yn uniongyrchol, gan ofyn am sicrwydd bod holl atyniadau’r parc wedi derbyn archwiliadau diogelwch llawn a gwaith cynnal a chadw cyson.

Daw hyn wedi i atyniad Bounce gau ddydd Mercher ar ôl dod i stop yn sydyn.

Mae’r parc yn dweud eu bod yn ymgynghori â gwneuthurwr y reid.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gweithgor Iechyd a Diogelwch eu bod “yn ymwybodol o’r digwyddiad ac yn gwneud ymholiadau".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sam Kurtz bod yn rhaid i'r "materion gael eu datrys ar frys cyn i dymor twristiaeth prysur yr haf ddechrau”

Dywedodd yr Aelod Seneddol dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro ei fod wedi "tristáu" wrth glywed am y digwyddiad, lle cafodd nifer o ymwelwyr fân anafiadau.

“Mae Oakwood yn rhan werthfawr o arlwy twristiaeth Sir Benfro ac mae ganddo le arbennig yng nghalonnau llawer o bobl.

“Mae’n bwysig bod digwyddiad ddoe yn cael ei ymchwilio’n llawn a bod materion yn cael eu datrys ar frys cyn i dymor twristiaeth prysur yr haf ddechrau,” meddai.

Aeth ymlaen i ddweud ei fod wedi ysgrifennu at reolwyr y parc, yn galw am ymchwiliad llawn i atyniad Bounce ac am sicrwydd ynghylch diogelwch atyniadau eraill y parc.

Mae Henry Tufnell, aelod newydd etholedig Canol a De Penfro yn San Steffan hefyd wedi ymateb i’r digwyddiad.

Dywedodd bod y newyddion am anafiadau nifer o bobl yn "bryderus iawn", gan ddymuno gwellhad buan i’r rheiny sydd wedi eu hanafu.

“Mae’n bwysig bod ymchwiliad trylwyr yn digwydd er mwyn canfod atebion” meddai.

Penderfynodd Ysgol Aberdaugleddau barhau â’u taith i’r parc antur ddydd Iau, er gwaetha’r newyddion am atyniad Bounce.

Mewn neges ar eu cyfryngau cymdeithasol, dywedodd yr ysgol: “Mae diweddariad i’r asesiad risg wedi digwydd y bore 'ma a pe bai’r reid yn ailagor yn ystod ein hymweliad heddiw, bydd staff profiadol sy’n bresennol yn cymryd mesurau i sicrhau na fydd disgyblion yn cael mynediad at y reid.”

Dywedodd Cyngor Sir Penfro mai cyfrifoldeb ysgolion unigol yw teithiau ysgol ac mai uwch arweinwyr ysgolion sy’n penderfynu os yw tripiau yn mynd yn eu blaen yn seiliedig ar y wybodaeth sydd ar gael.

Mewn datganiad ddydd Iau, dywedodd Parc Oakwood bod swyddogion wedi ymateb wrth i Bounce ddod i stop.

"Fe aeth gweithwyr y parc yno ac fe wnaethon nhw ddod â'r reid i'r llawr fel bod pobl yn gallu dod oddi arni.

"Fe ddywedodd sawl ymwelydd bod ganddyn nhw boen yng ngwaelod eu cefn yn syth ar ôl y digwyddiad ac fe aeth gweithwyr cymorth cyntaf atyn nhw i'w helpu nhw.

"Fe aeth un grŵp i gael triniaeth ychwanegol yn lleol, ac fe benderfynodd y gweddill barhau â'u diwrnod yn y parc.

"Rydyn ni wedi cau Bounce wrth i ni ymgynghori gyda'r cwmni wnaeth greu'r atyniad."

Pynciau cysylltiedig