Cau atyniad yn Oakwood wedi i nifer o bobl gael eu hanafu

BounceFfynhonnell y llun, Uri Baruchin
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Bounce ei gau yn 2016 cyn ailagor yn 2022 ar ôl gwaith adnewyddu gwerth £400,000

  • Cyhoeddwyd

Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal wedi i nifer o bobl gael eu hanafu ar ôl digwyddiad ar atyniad ym mharc Oakwood yn Sir Benfro.

Daeth yr atyniad o'r enw Bounce i stop yn sydyn ddydd Mercher, gyda phobl oedd arno yn dweud iddo gwympo'n gyflym i lefel y ddaear.

Mewn datganiad, mae perchnogion Oakwood wedi dweud "bod sawl person wedi cael triniaeth gan swyddogion cymorth cyntaf".

Mae Bounce wedi cau wrth i ymchwiliad gael ei gynnal.

Yn y datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Park Oakwood bod swyddogion wedi ymateb wrth i Bounce ddod i stop.

"Fe aeth gweithwyr y parc yno ac fe wnaethon nhw ddod â'r reid i'r llawr fel bod pobl yn gallu dod oddi arni.

"Fe ddywedodd sawl cwsmer bod ganddyn nhw boen yng ngwaelod eu cefn yn syth ar ôl y digwyddiad ac fe aeth gweithwyr cymorth cyntaf atyn nhw i'w helpu nhw.

"Fe aeth un grŵp i gael triniaeth ychwanegol yn lleol, ac fe benderfynodd y gweddill barhau â'u diwrnod yn y parc.

"Rydyn ni wedi cau Bounce wrth i ni ymgynghori gyda'r cwmni wnaeth greu'r atyniad."

Cafodd Bounce ei gau yn 2016 cyn ailagor yn 2022 ar ôl gwaith adnewyddu gwerth £400,000.

Roedd Oakwood yn y penawdau ym mis Hydref 2022 wrth i ddyn gael triniaeth mewn ysbyty yn dilyn digwyddiad ar atyniad Treetops.

Ond fe ddaeth y Gweithgor Iechyd a Diogelwch i'r casgliad nad oedd nam ar yr offer ac na fyddai camau pellach yn erbyn y parc.

Ac ym mis Ebrill 2004, bu farw Hayley Williams, 16 o Bontypŵl, ar ôl syrthio 100 troedfedd o atyniad Hydro yn Oakwood.

Galwodd ei theulu am wella diogelwch mewn parciau hamdden.

Pynciau cysylltiedig