£300,000 i ymgyrch gymunedol adfywio Ysgol Abersoch

Er gwaethaf ymgyrch i'w chadw ar agor fe gaeodd Ysgol Abersoch yn 2021
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrch i droi hen ysgol bentref yng Ngwynedd a gaeodd ei drysau dair blynedd yn ôl yn ganolfan gymunedol wedi derbyn arian er mwyn gallu parhau â'r nod.
Yn dilyn misoedd o ymgyrchu, mae Menter Rabar wedi derbyn £298,340 gan Raglen Cyfleusterau Cymunedol, Llywodraeth Cymru er mwyn adfywio hen ysgol fabanod Abersoch at ddiben y pentref a'r cymunedau cyfagos.
Dywedodd y grŵp bod y swm yn golygu bod modd dechrau ar y gwaith, ond eu bod yn gobeithio denu mwy o gyllid i wireddu'r cynllun yn llwyr.
Wrth siarad â Cymru Fyw, dywedodd Einir Wyn, ysgrifennydd y fenter ei bod yn "hynod o falch" fod y fenter wedi derbyn yr arian ac yn "edrych ymlaen" at weld yr adeilad yn cael ei ddefnyddio gan y gymuned leol.
Wrth edrych ymlaen at y camau nesaf, dywedodd eu bod "mewn proses o drosglwyddo'r les gyda'r cyngor, 'da ni'n gobeithio bydd hynny wedi cwblhau tua Chwefror fel y medrwn ni ddechrau adnewyddu'r ysgol".

Cafodd yr ysgol ei hagor yn 1924, felly byddai wedi dathlu canmlwyddiant eleni
Wrth sôn am y broses o ymgyrchu, dywedodd fod y criw wedi cael gwybod eleni fod Cyngor Gwynedd yn "cytuno mewn egwyddor i drosglwyddo'r safle ar les o 99 mlynedd ar yr amod bod ni'n gallu sicrhau caniatâd cynllunio a'r cyllid".
"Da ni wedi gweithio'n galed fel criw bach," meddai, gan ychwanegu eu bod wedi parhau i gynnal digwyddiadau yn y misoedd diwethaf er mwyn "codi ymwybyddiaeth pawb ac i gael cyfraniadau".
Gydag Abersoch yn adnabyddus fel cyrchfan i dwristiaid ond hefyd â chyfran uchel o ail gartrefi, roedd pryder byddai cau'r ysgol yn cael effaith negyddol ar yr iaith Gymraeg.
Cafodd y criw wybod eu bod wedi derbyn yr arian ddydd Mawrth diwethaf.
Mae'r criw hefyd yn gobeithio gwneud dau gais arall am gyllid pellach er mwyn gallu gwireddu'r cynllun yn ei gyfanrwydd.
Gyda'r arian yn eu pocedi, y bwriad yw datblygu'r ganolfan newydd i gynnwys caffi a theras, gardd, arddangosfa ar dreftadaeth Abersoch ac unedau busnes i'w rhentu.
Yn gynharach eleni, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd eu bod yn cefnogi'r cais gan y fenter.
"Yn dilyn derbyn cynllun busnes gan Menter Rabar i gefnogi eu cais am drosglwyddiad cymunedol o safle Ysgol Abersoch, mae Cyngor Gwynedd wedi darparu ymrwymiad i gefnogi'r cais," meddai.
"Mae'r ymrwymiad hwn yn amodol ar allu'r fenter i sicrhau ymrwymiad o ffynonellau ariannu ar gyfer gwireddu'r cynllun, ac ar dderbyn sêl bendith Cabinet y Cyngor i'r trosglwyddiad."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Awst 2024
- Cyhoeddwyd2 Awst 2024