Ymgyrch £500,000 i roi bywyd newydd i hen ysgol Abersoch
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrch wedi ei lansio i droi hen ysgol bentref a gaeodd ei drysau dair blynedd yn ôl yn ganolfan gymunedol gwerth £500,000.
Er gwaethaf ymgyrch i'w chadw ar agor fe gaeodd Ysgol Babanod Abersoch yn 2021 wedi i nifer y disgyblion syrthio i lai na 10.
Gydag Abersoch yn adnabyddus fel cyrchfan i dwristiaid ond hefyd â chyfran uchel o ail gartrefi, roedd pryder byddai cau'r ysgol yn cael effaith negyddol ar yr iaith Gymraeg.
Ond bwriad Menter Rabar yw adfywio'r adeilad - a agorodd fel ysgol union 100 mlynedd yn ôl - at ddiben y pentref a'r cymunedau cyfagos.
Pe bai'r cynllun yn cael ei wireddu fe fyddai'r ganolfan newydd yn cynnwys caffi a theras, gardd, arddangosfa ar dreftadaeth Abersoch ac unedau busnes i’w rhentu.
Agorodd yr ysgol bren ei drysau ym mis Ionawr 1924 yn dilyn ymgyrch leol gan yr Henadur Abel Williams o Siop Talafon, y cyn-brifathro, Owen Williams, Belmont a William Williams, Tyddyn Callod, a oedd yn ffermwr a dyn busnes.
Rhoddwyd tir i’r pentref gan Syr William Winterbotham, tra bu Frank Charles Minoprio o Stad Haulfryn yn darparu’r cyllid ac yn cyflenwi’r deunyddiau adeiladu, a bu ei frawd, Arthur Minoprio, yn goruchwylio’r gwaith adeiladu.
Ond welodd yr ysgol ddim ei chanmlwyddiant, wedi iddi gau ddiwedd 2021.
Dim ond chwe disgybl oedd yn mynychu Ysgol Abersoch pan gaeodd, gyda'r ysgol yn darparu addysg i blant hyd at ddiwedd blwyddyn tri.
Ond dair blynedd yn ddiweddarach mae grŵp cymunedol Menter Rabar - fel yr adnabyddir Abersoch gan lawer yn lleol - yn benderfynol o ddefnyddio canmlwyddiant agor yr ysgol fel man cychwyn i sicrhau ei dyfodol.
Wedi gosod targed o £500,000 i wireddu'r cynllun yn ei gyfanrwydd, maen nhw'n gobeithio cynnal sesiynau ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia a darparu clybiau ar ôl ysgol i blant y cylch.
Dywedodd Einir Wyn, ysgrifennydd Menter Rabar mai'r bwriad ydy "adfywio'r ysgol er bydd y gymuned" ac y bydd diwrnod agored yn cael ei drefnu i drafod y cynlluniau gyda thrigolion y pentref.
"Oedd cau'r ysgol yn golled enfawr, yn enwedig o ran yr iaith Gymraeg," meddai.
"Mae pawb yn gwybod, ma' hi'n gwanio yma dros y blynyddoedd, ac oedd y plant yn cael sylfaen arbennig o dda, a chalon y gymuned ydy ysgol ac yn sicr mi oedd hon."
Ychwanegodd fod pryder bydd yr adeilad yn cael ei golli os nad yw eu cynllun yn llwyddiannus.
"Mae 'na hen ddigon o dai yma sy'n wag neu yn dai haf yn barod. Mae o am fod yn bositif iawn gobeithio," meddai.
"'Da ni wedi cael tan ddiwedd y flwyddyn gan Gyngor Gwynedd i brofi'n bod yn gallu cael caniatâd cynllunio a bod 'na arian i drosi.
"'Da ni yn y broses o roi cais i fewn i'r llywodraeth am £300,000.
"Mae o'n mynd i gostio tua hanner miliwn i ni i gyd a 'da ni wedi lansio cynilo torfol ac mae pobl wedi dechrau cyfrannu."
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2023
Roedd Anna Jones yn brifathrawes ar Ysgol Babanod Abersoch ar ddiwedd y 1990au, ac mae bellach yn aelod o'r fenter.
Dywedodd ei fod yn "bwysig dros ben" fod defnydd positif yn cael ei wneud o'r adeilad, rŵan fod yr ysgol wedi cau.
"Mae Abersoch yn cael rhyw enw gwael, hyd yn oed gan bobl ym Mhen Llŷn weithia, fod neb yn siarad Cymraeg a ballu," meddai Mr Jones.
"Ond mae'n hen adeilad, ac yn un pren. Fe ddywedwyd am Abersoch - pentref hefo ysgol bren ac eglwys tin.
"Mae'n bwysig iawn fod y lle ar agor i bobl yn lle fod 'na rhyw hen fflatiau a'i chwalu'n rhacs.
"Mae 'na lawer yn parcio yn y maes parcio yma a fydd y caffi'n handi iawn i bobl fynd am baned."
Ychwanegodd fod yr ymateb i'r fenter yn lleol wedi bod yn "ardderchog".
"Mi agorwyd yr ysgol yn 1924 a fydda hi wedi dathlu canmlwyddiant eleni ac mae hi mor drist bod hi ar gau," meddai Mr Jones.
"Felly drwy wneud hyn fyddwn ni'n dathlu canmlwyddiant mewn ffordd gadarnhaol iawn, iawn, iawn."
Cyn cwblhau'r cynllun busnes roedd Menter Rabar wedi sicrhau £20,000 mewn grantiau i ariannu’r astudiaeth ddichonoldeb a chynlluniau pensaernïol.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd eu bod yn cefnogi'r cais.
“Yn dilyn derbyn cynllun busnes gan Menter Rabar i gefnogi eu cais am drosglwyddiad cymunedol o safle Ysgol Abersoch, mae Cyngor Gwynedd wedi darparu ymrwymiad i gefnogi’r cais," meddai.
"Mae’r ymrwymiad hwn yn amodol ar allu’r fenter i sicrhau ymrwymiad o ffynonellau ariannu ar gyfer gwireddu’r cynllun, ac ar dderbyn sêl bendith Cabinet y Cyngor i’r trosglwyddiad.
"Mae Gwasanaeth Cefnogi Cymunedau y Cyngor yn cefnogi’r Fenter gyda’r gwaith o ddatblygu cyfleodd posib.”