Dirgelwch murluniau 'Banksy' gogledd Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae pum murlun sy'n cael eu cymharu â gwaith yr artist 'Banksy' wedi ymddangos mewn mannau gwahanol yng ngogledd-ddwyrain Cymru.
Ddechrau'r wythnos fe wnaeth murluniau o fuwch, marchog a thyllan ymddangos ar adeiladau yn Sir Ddinbych a Sir y Fflint o fewn 24 awr i'w gilydd.
Ers i'r darnau o gelf ddod i'r amlwg, mae galwadau wedi bod ar yr awdurdodau lleol i'w gwarchod.
Dywedodd Cyngor Sir Ddinbych wrth y Daily Post nad oes modd iddyn nhw ymyrryd gan fod y gwaith celf ar dir preifat.
Y murlun o fuwch godro oedd y cyntaf i ymddangos - a hynny ar wal hen dafarn 'Derwen' yng nghanol Yr Wyddgrug ddydd Llun.
Erbyn nos Fawrth, roedd adroddiadau bod murlun o dylluan hefyd wedi ymddangos ar ochr arhosfan bws yn Nhrefnant, a murlun o farchog ar gefn ceffyl mewn maes parcio yn Rhuthun.
Yn ôl rhai pobl leol, mae murlun y fuwch ar wal yn gyfeiriad at farchnad da byw Yr Wyddgrug.
Mae rhai yn credu bod y gwaith celf o farchog ar gefn ceffyl, sydd i'w weld ym maes parcio Crispin's Yard ger Parc Cae Ddol yn Rhuthun, yn gyfeiriad posibl at Owain Glyndŵr.
Mae'r artist 'Banksy' yn enwog am ei waith anhysbys sy'n ymddangos mewn gwahanol fannau cyhoeddus, ar hap ar draws y DU.
Fe greodd 'Banksy' gyfres o ddarluniau o anifeiliaid y llynedd o'r enw 'Beastly London', ac mae rhai yn credu mai'r artist byd enwog sydd, o bosib, yn gyfrifol am y murluniau yng ngogledd Cymru.
Nid dyma'r tro cyntaf i furluniau ymddangos yn anhysbys yn yr ardal.
Yn 2024 cafodd colomen, cwningen a phâr o forgrug eu peintio ar adeiladau ac mewn twnnel yn Ninbych.
Er i rai dybio mai 'Banksy' oedd yn gyfrifol, cafodd y gwaith yna ei hawlio gan yr artist DNZ, sy'n wreiddiol o ogledd Cymru ond sydd bellach wedi'i leoli yn Llundain.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Medi 2021
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd7 Mai 2024