Teithwyr sy'n mynd ar drenau heb docyn i gael dirwy

Tren Trafnidiaeth Cymru, 'Cymru a'r Gororau'
Disgrifiad o’r llun,

Mae teithwyr wedi cael eu rhybuddio i brynu eu tocyn cyn teithio er mwyn osgoi dirwy

  • Cyhoeddwyd

Bydd pobl sy’n mynd ar drên heb docyn yn derbyn dirwyon o ddydd Llun ymlaen, ar wasanaethau lle'r oedd teithwyr yn arfer gallu prynu tocyn ar fwrdd y trên.

Fel rhan o gynllun Ymestyn Parth Tâl Cosb Trafnidiaeth Cymru (TC), gall teithwyr ar linellau De Cymru a’r Gororau dderbyn dirwy o £20, neu ddwbl pris eu tocyn - pa bynnag un sydd fwyaf - os ydyn nhw’n cael eu dal yn osgoi’r talu.

Yn ôl TC, mae’r parth estynedig yn ceisio mynd i’r afael â’r broblem o beidio talu, sy’n costio “miliynau bob blwyddyn” i’r cwmni.

Mae’r parth tâl cosb eisoes yn cynnwys teithiau rhwng Cyffordd Twnnel Hafren a Chaerfyrddin, lle mae’r ddirwy yn £20, ac ar y gwasanaeth rhwng Amwythig a Birmingham, sydd â thâl tipyn mwy o £100, yn unol â gweithredwyr trenau yn Lloegr.

Bydd y gwasanaethau Metro De Cymru newydd sy’n cael eu hychwanegu i'r parth yn cynnwys llinellau Treherbert, Aberdâr a Merthyr, yn ogystal â Rhymni, Glyn Ebwy, Y Barri a llinell Bro Morgannwg.

Mae teithwyr yn cael eu cynghori i brynu tocyn cyn teithio, naill ai ar-lein, yn yr orsaf, neu trwy’r system pay as you go.

'Adnabod twyll bwriadol'

Mae TC yn rhedeg 248 o orsafoedd trenau, gan gynnwys y 223 yng Nghymru, a sawl un dros y ffin yn Lloegr.

Os yw pobl yn dechrau eu taith mewn gorsaf lle nad oes cyfleusterau er mwyn prynu tocyn, ni fyddai dirwy iddynt.

Yn ôl Alexia Course, prif swyddog masnachol TC, y nod ydy ceisio “adnabod twyll bwriadol”, yn hytrach na chosbi pobl yn annheg.

Pynciau cysylltiedig