Deintyddion yn poeni am effaith costau cynyddol ar gleifion
- Cyhoeddwyd
Mae deintyddion yn rhybuddio y gallai costau uwch am driniaeth Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru olygu y bydd rhai teuluoedd yn ystyried peidio defnyddio'r gwasanaeth.
O 1 Ebrill bydd apwyntiad gyda deintydd y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn cynyddu o £14.70 i £20, gyda'r driniaeth i lenwi dant yn codi o £47 i £60.
Yn ôl y Gymdeithas Ddeintyddol Brydeinig yng Nghymru, dyma'r cynnydd mwyaf o ran costau deintyddiaeth yn hanes y Gwasanaeth Iechyd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod cymorth ariannol ar gael i nifer, gan ychwanegu bod cyllid ychwanegol gwerth £2m y flwyddyn wedi ei roi i gynorthwyo byrddau iechyd gyda heriau penodol.
Y gred yw y bydd dannedd gosod yn costio £60 yn ychwanegol - yn cynyddu o £203 i £260.10 - tra bydd costau am driniaeth frys ar gyfer problemau fel poen dannedd yn fwy na dyblu o £14.70 i £30.
Mae'r Gymdeithas Ddeintyddol wedi awgrymu y gallai'r newid olygu bod Llywodraeth Cymru yn cyfrannu £6 tuag at y driniaeth, gyda'r cleifion yn talu tua 85% o'r gost.
Mae rhai oedolion sy'n derbyn incwm isel yn cael eu heithrio o'r costau hyn, ond mae'r gymdeithas wedi rhybuddio y bydd nifer ar incwm "gweddol fach" yn wynebu gorfod talu'r pris llawn.
Pobl yn tynnu eu dannedd eu hunain
Yn ôl Russell Gidney, Cadeirydd Pwyllgor Deintyddol Cymru, mae adroddiadau o bobl yn gorfod tynnu eu dannedd eu hunain gan eu bod nhw'n methu cael triniaeth.
"Ni'n mynd i weld mwy a mwy o'r straeon yma wrth i gostau gynyddu," meddai Mr Gidney, sy'n trin pobl yn breifat ac yn cynnig triniaeth ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghas-gwent.
Yn ogystal â'r effaith posib ar gleifion, mae e'n credu y bydd deintyddion yn troi eu cefnau ar gytundebau Gwasanaeth Iechyd yn y dyfodol.
"Mae pobl yn credu wrth dalu deintydd Gwasanaeth iechyd, eu bod nhw'n talu ni. Yn y bôn, ry'n ni'n casglu trethu."
Mae Huw Geraint Ifan, sy'n ddeintydd yn Hwlffordd, yn poeni fod prisiau uwch yn ei gwneud hi'n anoddach i bobl gael mynediad at ddeintydd.
"Mae o'n ofid bod lot o gleifion methu gweld deintydd o gwbl, boed hynny yn breifat neu ar y gwasanaeth iechyd, a ma' hynny'n ofid mawr i ni o ran beth fydd iechyd deintyddol ein plant ni."
Aeth ymlaen i sôn am effaith costau byw cynyddol ar brisiau o fewn y maes: "Ma' costau wedi mynd fyny, costau stoc, costau staffio, costau cynnal a chadw adeilad, offer".
Dywedodd ei bod hi'n "bwysig" i bobl "flaenoriaethu eu gofal deintyddol" a bod "pris gwasanaeth iechyd deintyddol yng Nghymru dal dipyn yn rhatach na'r hyn fysa claf yn ei dalu yn Lloegr".
'Byth yn gallu cael apwyntiad'
Un sy'n deall y pryder am ofal deintyddol ydy Sarah Dickinson, 56 oed o Gaernarfon, sydd wedi bod yn ceisio cael lle ar restr aros y Gwasanaeth Iechyd ers symud i'r ardal.
Ar ôl iddi hi a'i gwr golli eu busnes yn ystod y pandemig, doedd talu i drin eu dannedd yn breifat ddim yn opsiwn rhagor.
"Dydw i ddim yn gweld sut y gall y llywodraeth godi'r prisiau ar gyfer y GIG pan na allwch chi byth gael apwyntiadau beth bynnag," meddai Mrs Dickinson, sydd hefyd wedi gorfod ymddeol yn sgil heriau iechyd.
Ar strydoedd Caerfyrddin, mae nifer yn teimlo'n rhwystredig am y sefyllfa.
Fe ddisgrifiodd Carys Jones y sefyllfa fel un "gwarthus" gan ychwanegu: "Ble ma' nhw'n meddwl bo' ni'n cael yr arian o? Pensiynwr ydw i... sut ydw i'n gallu fforddio fe a trial byw... mae'n warthus".
Wrth sôn ei fod wedi gofod troi i gael deintydd preifat, dywedodd Mike "s'dim choice 'da fi o gwbl, ma' rhaid i fi".
"Ni ffili cael e nawr, fi'n nabod lot o bobl sydd ffili cael e nawr, falle bo' nhw mas o waith neu mewn jobyn sy' ddim yn talu'n dda".
Bu'n rhaid i Olwen Thomas fynd at ddeintydd preifat ar ôl symud i Gaerfyrddin i fyw oherwydd diffyg mynediad at ddeintyddion y gwasanaeth iechyd.
"Fi'n bersonol wedi gorfod cael deintydd preifat ers blynyddoedd, ac yn anffodus wedi gorfod talu costau mawr," meddai.
"Y peth yw ma' gymaint bobl yn ei ffeindio hi mor amhosib i ffeindio deintydd gyda'r gwasanaeth iechyd beth bynnag, felly mae'n sefyllfa ofnadwy rili".
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae costau triniaeth ddeintyddol yng Nghymru yn llai nag yn Lloegr, er gwaetha'r cynnydd mewn costau.
Ychwanegodd y Llywodraeth bod buddsoddiad yn parhau "er gwaetha'r pwysau" ar gyllidebau, gan ddweud bod cyllid ychwanegol gwerth £2m y flwyddyn wedi ei roi i gynorthwyo byrddau iechyd gyda heriau penodol ac y bydd "unrhyw refeniw ychwanegol o'r cynnydd mewn ffioedd deintyddiaeth yn cael ei ail-fuddsoddi yng ngwasanaethau deintyddol y GIG".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2018