Yr heriau i lywodraeth newydd Syr Keir Starmer

Syr Keir Starmer yn annerch aelodau ei gabinet ar ei ddiwrnod llawn cyntaf fel Prif Weinidog y DU
- Cyhoeddwyd
Tirlithiad. Hanesyddol. Y Ceidwadwyr wedi colli bob sedd yng Nghymru.
Buddugoliaeth gyntaf Llafur mewn etholiad cyffredinol ers bron i 20 mlynedd.
Am y tro cyntaf ers 14 mlynedd fe fydd Llywodraeth Lafur y DU yn gweithio gyda Llywodraeth Lafur Cymru.
Ond pa heriau fydd yn wynebu Llafur?
Tata Steel

Mae Tata Steel ym Mhort Talbot bellach wedi diffodd un ffwrnais chwyth
Mae’r fflamau wedi’u diffodd yn Tata Steel ym Mhort Talbot, wrth i un ffwrnais chwyth gael ei diffodd fel rhan o’r newid i ddur gwyrddach.
Mae miloedd o swyddi yn y fantol.
Yn ystod yr ymgyrch fe addawodd Syr Keir Starmer i ymladd dros bob un, ac mae ganddo gronfa ddur gwerth biliynau o bunnoedd.
Ond beth fydd hyn yn ei olygu yn ymarferol, gyda'r ail ffwrnais chwyth i fod i gau yn ddiweddarach eleni, a Tata yn dweud na fyddan nhw'n newid eu meddyliau?
Costau byw

Daeth costau byw i’r amlwg dro ar ôl tro wrth siarad â phleidleiswyr ac roedd teimlad nad oedd yr un o’r pleidiau yn deall sut beth yw bywyd i bobl gyffredin.
Mae Llafur wedi dweud na fyddan nhw'n cael gwared ar y terfyn budd-dal lles dau blentyn ac mae disgwyl i filiau ynni godi eto yn yr hydref.
Beth all Llafur ei wneud er mwyn rhoi hwb i'r economi ac i'r cyhoedd?
Y GIG

Er bod penderfyniadau ar y gwasanaeth iechyd yn cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru, nid San Steffan, mae unrhyw wariant ychwanegol yn Lloegr yn golygu mwy o gyllid i Gymru.
Fe wnaeth ymgyrch Gymreig Llafur addo cwtogi'r amseroedd aros mwyaf erioed yng Nghymru.
Mae'n debyg eich bod ar restr, neu'n adnabod rhywun sy'n aros am driniaeth. Beth all Llafur ei wneud i ddelio â rhestrau aros?
Perthynas Llafur â'i hun

Mae Llafur Cymru eisiau i fwy o bwerau gael eu datganoli i'r Senedd ym Mae Caerdydd, gan gynnwys dros blismona a chyfiawnder.
Dydy Llafur y DU ddim am i hynny ddigwydd.
Mae gweinidogion Cymru hefyd eisiau cyfran Cymru o gyllid HS2. Mae Ysgrifennydd newydd Cymru, Jo Stevens, wedi mynd mor bell â dweud nad yw’r arian yno.
Beth bynnag yw’r ffigwr – byddai hyd yn oed yr amcangyfrifon isaf o gwmpas £300m – yn gwneud gwahaniaeth enfawr i gyllideb Llywodraeth Cymru.
Beth all llywodraeth newydd Syr Keir ei roi i Gymru sy’n gwobrwyo’r gefnogaeth gan bleidleiswyr yma?
Etholiadau'r Senedd yn 2026

Nid yw'r arolygiadau barn yn edrych yn dda i Lafur am 2026, yn rhannol oherwydd yr anawsterau sy'n wynebu Vaughan Gething.
O ystyried hefyd bod cwymp sylweddol yn y gyfran o'r bleidlais i'r blaid yn yr etholiad cyffredinol, a llwyddiant Plaid Cymru a Reform UK, mae'r dasg yn anoddach fyth i'r blaid.
Ac mae yna arwyddion clir fod pleidleiswyr wir yn dechrau gwahaniaethu rhwng y ddwy senedd.
Rydyn ni newydd weld etholiad lle'r oedd pleidleiswyr yn ffoi o un blaid yn hytrach na heidio i un arall.
Ymateb pleidleiswyr

"Mae gogledd Cymru ar ei cholled a bob dim yn mynd i dde Cymru," meddai Lynne Jones
Roedd barn gymysg ymhlith pleidleiswyr ym Mangor yn dilyn yr etholiad cyffredinol.
"Mae gogledd Cymru ar ei cholled a bob dim yn mynd i dde Cymru," meddai Lynne Jones.
"Rydan ni'n dal i golli cysylltiadau trafnidiaeth yma. Does gennym ni ddim dinas fawr ac rydyn ni'n dal i wynebu heriau...
"Dwi'n meddwl mai'r gorau o beth oedd ar gael gafon ni gyda Llafur - gobeithio byddan nhw'n gwneud rhywbeth."

"Mae'n anodd, anodd iawn i gael apwyntiad gyda'r meddyg yma," meddai Alison Doo
Dywedodd Alison Doo: "Dwi'n hapus iawn, hapus iawn - dwi'n edrych ymlaen i gael apwyntiad efo'r meddyg.
"Mae'n anodd, anodd iawn i gael apwyntiad gyda'r meddyg yma neu yn Lloegr - dwi ddim yn siŵr sut mae o i hen bobl achos mae'n anodd.
"Dwi'n caru Bangor, ond mae'r stryd fawr yn drist iawn a gobeithio fydd rhywbeth yn digwydd i ddod â phobl yma."

Dywed Dafydd Owen nad yw'n ymddiried yn Syr Keir Starmer
Dywedodd Dafydd Owen: "Iechyd, gwaith yng Nghymru a ddim yn rhoi dim byd i ffarmwrs... dwi ddim yn trystio fo [Starmer], mae o'n deud pethau gwahanol o hyd."

Mae camau i adfywio cymunedau lleol yn flaenoriaeth i Olive Williams
Dywedodd Olive Williams: "Dwi'n hapus iawn, ond mae angen mwy o bethau i'w gwneud yn Bethesda yn enwedig y rhai ifanc i ddeud y gwir - does 'na ddim byd i ni wneud yma.
"Mwy o siopau fyddan ni'n hoffi yn Bethesda a phethau i bobl ifanc 'neud yn lle bod nhw'n cerdded y stryd.
"Mae'n rhaid gadael Bethesda i ddod i lefydd fel Bangor neu Gaernarfon."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2024