Y Gymraeg: 'Mwy o sgyrsiau dwyieithog yn bwysig'

  • Cyhoeddwyd
Jeremy Miles
Disgrifiad o’r llun,

"Mae sawl un wedi codi gyda fi bod y Gymraeg wedi troi i fod yn iaith cyfieithu," meddai Jeremy Miles

Mae mwy o sgyrsiau dwyieithog yn "rhan bwysig o'r ateb" i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, yn ôl Gweinidog y Gymraeg ac Addysg.

Dywedodd Jeremy Miles "mai'r realiti i'r rhan fwya' ohonon ni ydy bywydau dwyieithog" a bod angen "newid diwylliant".

Yn y Senedd ddydd Mawrth, cyfeiriodd Mr Miles at "siaradwyr goddefol" - pobl sydd wedi cael digon o gysylltiad â'r iaith i gael dealltwriaeth frodorol ohoni, ond heb gael meistrolaeth arni.

Cyfaddefodd eto fod "penawdau'r Cyfrifiad yn siomedig" ond mynnodd bod yn "rhaid i ni barhau i fod yn optimistaidd am ein hiaith ni".

Dywedodd mewn datganiad yn y Senedd ei fod yn "teimlo bod siom y canlyniadau wedi sbarduno brwdfrydedd newydd i weithio mewn ffordd wahanol er lles y Gymraeg".

"Mae siaradwyr newydd yn hollbwysig i ddyfodol ein hiaith ni," meddai.

"A bydden i'n hoffi gweld cydnabyddiaeth bod siaradwyr goddefol yn rhan bwysig o'r ateb ar gyfer y dyfodol - sy'n golygu mwy o sgyrsiau dwyieithog a newid diwylliant.

"Ry'n ni'n adeiladu ar ddegawdau o orfod dewis rhwng Saesneg a Chymraeg lle mai'r realiti i'r rhan fwya' ohonon ni ydy bywydau dwyieithog."

900,000 neu 538,000?

Mynegodd y Ceidwadwr Samuel Kurtz bryder am "brinder athrawon Cymraeg" gan ddweud bod "angen gwelliant mawr mewn polisi recriwtio" er mwyn cyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Rhybuddiodd Heledd Fychan ar ran Plaid Cymru yn erbyn ceisio "diystyru" canlyniadau'r Cyfrifiad, gan eu bod yn "arf pwysig tu hwnt".

Roedd hi'n ymateb i sylwadau'r gweinidog bod Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn dangos bod bron i 900,000 yn gallu siarad Cymraeg, mewn cymhariaeth â'r 538,000 mae Cyfrifiad 2021 yn ei nodi.

Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi ysgrifennu at yr Ystadegydd Gwladol yn gofyn iddo edrych ar sut a pham mae'r gwahanol arolygon am yr iaith yn dangos canlyniadau sy'n amrywio.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru/Dafydd Elfryn
Disgrifiad o’r llun,

Mapiau'n dangos newid yng nghanran y siaradwyr Cymraeg rhwng 2011 a 2021 (glas = dirywiad, melyn = cynnydd), ac ardaloedd yng Nghymru ble mae dros 50% dal yn siarad yr iaith

Dywedodd Mr Miles ei fod, dros y flwyddyn nesaf, eisiau deall mwy am pam nad yw cynifer o blant sy'n derbyn addysg Gymraeg yn hyderus i'w defnyddio hi ar ôl gadael ysgol.

"Ai diffyg cyfle yw'r broblem neu ffurfioldeb iaith addysg, neu'r ddau efallai?" gofynnodd.

"Ond i fynd nôl at ffurfioldeb y Gymraeg, mae hwn yn rhywbeth dwi eisiau edrych arno fe'n fwy manwl.

"Mae sawl un wedi codi gyda fi bod y Gymraeg wedi troi i fod yn iaith cyfieithu, a ddim iaith sy'n eu cyffwrdd nhw fel pobl."

Dywedodd Mr Miles ei bod hi'n "gyfan gwbl amlwg bod angen i ni edrych yn fanwl iawn ar y grŵp oedran 3-15 oed".

Dywedodd y bydd angen dadansoddiadau pellach ac y bydd yn "gweithio ar hyn drwy gydol y flwyddyn".

'Creu esgusodion'

Ymatebodd Robat Idris, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, trwy ddweud bod canlyniadau'r Cyfrifiad yn "gondemniad o strategaeth" y llywodraeth o ran yr iaith.

"Yn hytrach na chreu esgusion a chwestiynu data," meddai, "mi ddylai'r llywodraeth ganolbwyntio ar atal cwymp pellach yn nifer y siaradwyr a'r cymunedau Cymraeg.

"Mae angen gweithredu llawer mwy sylweddol er mwyn sicrhau twf, a chymryd camau fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn fel cyflwyno addysg Gymraeg i bawb, i sicrhau bod pob un plentyn yn gadael yr ysgol yn hyderus yn yr iaith.

"Ar hyn o bryd, mae 80% o'n plant yn gadael yr ysgol yn methu siarad Cymraeg."