'Ramadan yn bwysicach i mi na chwarae rygbi'

  • Cyhoeddwyd

Mae hi’n fis Ramadan i Fwslemiaid ar draws y byd, sef cyfnod o ymprydio rhwng y wawr a’r machlud.

Ym Mhrydain, mae hynny’n golygu ymprydio am tua 14 awr bob dydd, a hynny am 30 diwrnod.

Dyma argraffiadau Iesu Williams, sy'n 14 oed ac yn gwneud ei ymgais gyntaf i ymprydio am y mis cyfan:

Ffynhonnell y llun, Shereen Williams
Disgrifiad o’r llun,

Iesu (8fed o'r dde) wedi sesiwn hyfforddi gyda'i dîm rygbi

Ymprydio drwy'r dydd

Dyma’r drydedd flwyddyn i mi 'neud e. 'Nes i ymprydio gyntaf ddwy flynedd yn ôl. 'Nes i ddim gwneud y mis cyfan, falle hanner y mis, ond ddim gyda'i gilydd; fasen i’n ymprydio un diwrnod, yna eto mewn ‘chydig o ddyddiau.

O’n i’n meddwl fase fe’n anodd iawn, dim bwyta nac yfed. A mae e mor anodd â 'nes i feddwl – mae e’n dipyn o her.

Ond eleni, dwi bendant yn gwneud y mis cyfan. Dwi wedi arfer mwy ag e nawr, mae e bendant yn haws na thair blynedd yn ôl.

Ffynhonnell y llun, Shereen Williams
Disgrifiad o’r llun,

Iesu (dde) yn dathlu Eid gyda'i fam, Shereen a'i frawd, Selyf ychydig flynyddoedd yn ôl

Mae Mam a Dad yn ymprydio hefyd, ond mae mrawd i yn naw oed felly mae ond yn gwneud rhai dyddiau. Pan ti’n cyrraedd puberty, ti’n gwneud yr un fath â dy rieni.

Mae e’n bwysig i’w wneud, pan ti’r oed ti’n gallu ei 'neud e. Mae ymprydio yn un o Bum Colofn Islam ac yn gwneud i ni ddeall a chydymdeimlo gyda phobl sydd ddim yn gallu bwyta ac yfed, a phobl digartref.

Mae fy nhad neu mam yn fy neffro i’n gynnar i fwyta cyn y wawr. Ar ôl i ti fwyta, ti falle’n gweddio, yna’n mynd nôl i’r gwely. Dwi weithiau’n teimlo fel mod i methu bod yn bothered i godi, ond dwi wastad yn ‘neud e.

Ar ôl y machlud, dwi fel arfer yn bwyta eitha’ dipyn ac yn ceisio cael llawer mewn i fy mol gan mod i’n llwgu. Dwi’n hoffi unrhyw beth gyda chyw iâr, a dwi’n hoffi carbs!

  • Ramadan - Cyfnod o ymprydio am 29 neu 30 diwrnod (yn dibynnu ar y lleuad). Mae pryd mae Ramadan yn digwydd yn newid o flwyddyn i flwyddyn, yn unol â'r calendr Mwslemaidd

  • Suhur - Pryd sydd yn cael ei fwyta cyn i'r wawr dorri

  • Iftar - Pryd i dorri'r ympryd ar ôl i'r haul fachlud

  • Eid-al-fitr - Dathliad i nodi diwedd y mis o ymprydio

Heriau

Mae’n anodd ar ddiwrnod poeth, pan ti’n gweld pobl yn yfed o dy gwmpas di, achos ti’n mynd yn eitha’ sychedig! Ac hefyd yn y boreau pan ti ddim wedi cael dy frecwast, ac mae dy fol di’n rwmblan.

Ar YouTube, mae 'na lawer o fideos o bobl yn bwyta fast-food, felly dyna dwi’n ei cravio fel arfer – chips, cyw iâr, byrgyrs. Mae gen i ddant melys, ond dim pethau fel yna dwi eisiau, ond bwyd go iawn!

Mae fy holl ffrindiau i yn bwyta, felly dwi’n aros tu fas i’r ffreutur amdanyn nhw amser cinio yn yr ysgol. Ond fel arfer dim ond brechdan maen nhw’n ei gael felly ry’n ni’n chwarae pêl-fasged gyda’n gilydd wedyn – maen nhw’n gefnogol iawn.

Chwaraeon yn ystod Ramadan

Ffynhonnell y llun, Shereen Williams
Disgrifiad o’r llun,

Iesu (ar y dde) yn hyfforddi gyda'i dîm rygbi

Dwi’n chwarae rygbi, yn mynd i’r gampfa ar ôl ysgol ac yn chwarae pêl-fasged gyda fy ffrindiau.

Am y tro cynta', y diwrnod o'r blaen 'nes i chwarae gêm rygbi gyda fy nghlwb i tra’n ymprydio, ac o’n i’n ddi-egni. 'Nes i gynhesu lan, a phan o’n i yn y gêm, o’n i mor flinedig. Yn y sesiynau hyfforddi dwi ddim rhy ddrwg, ond mae gemau yn anodd.

Wrth gwrs, byddai bwyta ac yfed mwy yn y boreau yn helpu, ond ti ddim yn teimlo’n llwglyd iawn weithiau, pan mae hi mor gynnar â hynny. A ti ddim eisiau gwthio dy hun i fwyta gormod, achos fyddi di’n teimlo’n sâl.

Ffynhonnell y llun, Shereen Williams
Disgrifiad o’r llun,

Iesu a Selyf yn cael cyfarfod rhai o chwaraewyr y Dreigiau

Dwi ddim am chwarae mwy o gemau tan i mi stopio ymprydio, achos o’n i’n teimlo reit rubbish. Mae ymprydio’n bwysicach i mi na chwarae.

Ar ôl i Ramadan ddod i ben, yn ystod cyfnod Eid, bydda i’n cael cyfle i weld teulu a chael hwyl.

Pynciau cysylltiedig