Hywel Pitts: Sut i sgwennu sioe gerdd
- Cyhoeddwyd
Branwen: Dadeni, ail-lwyfannu Nia Ben Aur, Welsh of the West End a chystadlu brwd yn yr Eisteddfod Genedlaethol bob blwyddyn - mae'r sioe gerdd wedi dod yn fwyfwy poblogaidd yng Nghymru yn ddiweddar.
Nawr mae Hywel Pitts wedi ysgrifennu ei sioe gerdd gyntaf ac wrth i Croeso i Baradwys agor, yma mae'r cerddor a'r digrifwr yn rhannu'r hyn mae o wedi ei ddysgu gyda darllenwyr Cymru Fyw.

Mae Hywel Pitts wedi ysgrifennu'r sioe ar gyfer Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn, a bydd yn cael ei pherfformio yn Galeri, Caernarfon ar 24, 25 a 26 Ebrill
Ydych chi awydd sgwennu sioe gerdd? Ddim yn gwybod lle i ddechrau? Wel, dyna lwcus! Dw i wedi sgwennu un, ac mi oedd o'n eithriadol o hawdd.
Gan fy mod i bellach yn arbenigwr, cysylltodd Cymru Fyw i holi faswn i'n fodlon rhannu rhywfaint o fy noethineb... a sut 'seleb' fyswn i taswn i'n gwrthod y cyfle i gael 'chydig o sylw?
Felly dyma fy nghyngor ar sut i greu sioe gerdd o'r newydd, gam wrth gam (sylwch: dydy pob cam ddim yn angenrheidiol, ac mae profiad pawb yn wahanol).
1: Gwylio sioeau cerdd eraill am ysbrydoliaeth
Os dw i'n onest, nes i ddim mwynhau'r cam yma. Am bob sioe gerdd dda, mae 'na 20 sioe gerdd wael. Ond gwyliwch gymaint ag y gallwch chi, achos mae ysbrydoliaeth yn gallu dod o unrhyw le.
Yn bersonol, dw i'n cael fy ysbrydoli lawer yn fwy gan gelfyddyd wael nag ydw i gan unrhyw gelfyddyd werth chweil. Mae "galla i wneud yn well na hyn!" yn syniad pwerus dros ben sydd wedi sbarduno llawer o artistiaid da dros y blynyddoedd (a sawl un gwael hefyd... sydd yn eu tro yn ysbrydoli mwy o artistiaid da!).
Mae uchelgais yn bwysig, ond os mai'ch nod ydy creu rhywbeth o safon, mae osgoi'r pethau sydd yn gwneud rhywbeth yn ansafonol yn ffordd dda o fynd o'i chwmpas hi.

Hywel efo rhai o gast Croeso i Baradwys yn ystod un o'r ymarferion
2: Meddwl am syniadau cerddorol
Eisteddwch i lawr efo'ch hoff offeryn (os nad ydych chi'n chwarae offeryn, ella y bydd y cam yma'n un anodd i chi) a neilltuwch ychydig o oriau i fyrfyfyrio syniadau. Anelwch am ystod eang o arddulliau, themâu a theimladau os yw'n bosib, achos mae awr a hanner o ganeuon sydd i gyd yr un fath yn mynd i fod yn eithriadol o ddiflas.
Cadwch gofnod o'r holl syniadau (mae'r ap recordio ar eich ffôn yn hen ddigon da i hyn), ac ar hyn o bryd, peidiwch â beirniadu eich allbwn. Gwnewch yn siŵr bod gennych chi ormod o syniadau o bell ffordd ar gyfer un sioe, a chofiwch y bydd rhai, os nad y rhan fwyaf, ohonyn nhw'n cael eu sgrapio'n llwyr.
3: Sgwennu'r stori
Mae'r rhan fwyaf ohonom ni wedi dysgu beth ydy seiliau stori dda yn yr ysgol: mae'n rhaid cael cychwyn, canol a diwedd. Dw i'n meddwl bod hi'n ddefnyddiol cychwyn efo'r cymeriadau.
Hyd yn oed os nad ydyn nhw'n "bobl" o reidrwydd, rhowch rinweddau, emosiynau a chymhellion iddyn nhw. Dyna mae pobl eisiau ei weld: eu hunain yn cael eu hadlewyrchu ar lwyfan. Heb hyn, fyddan nhw ddim yn teimlo unrhyw gysylltiad efo'r cymeriadau, nac yn mwynhau'r sioe.
Yna, rhowch benderfyniadau iddyn nhw: penderfyniadau sy'n gyrru'r stori yn ei blaen.
Yn fy marn i, mae dwy elfen i bob penderfyniad: yn gyntaf, mae pob penderfyniad yn cael ei wneud efo'r bwriadau gorau. Yr ail ydy nad oes yr un penderfyniad yn ddi-fai, ar sail diffyg gwybodaeth.
Gadewch i'ch arwr wneud camgymeriadau, a gadewch i'ch dihiryn ddangos ochr y gall y gynulleidfa gydymdeimlo â hi. Does dim rhaid i'r broses o greu cymeriadau cymhleth fod yn gymhleth.

Stefanie Jones, fel Mary Poppins - cymeriad sy'n un o'r clasuron hyd heddiw
Nesaf, rhowch y cymeriadau yma mewn sefyllfa sy'n mynd i hoelio sylw pobl, a gwnewch yn siŵr bod pwrpas i bob penderfyniad o'r dechrau i'r diwedd, er mwyn symud y stori yn ei blaen. Mae hyn yn wir am unrhyw gelfyddyd sydd â naratif, yn enwedig sioeau cerdd. Dylai fod yna ryw fath o wrthdaro ym mhob cam o'r plot.
Dywedwch eich bod chi wedi cael syniad am gân: mae eich prif gymeriad, Joni Bach, yn gwneud brechdan. Pam mae o'n gwneud brechdan? Ydy o'n trio creu argraff ar ddarpar gariad? Ydy o'n gweithio tuag at fod yn frechdan-wneuthurwr seren Michelin? Ydy o'n ceisio gwenwyno ei dad-yng-nghyfraith cas?
Dylai bob cân gyfleu gweithred, cymhelliant, neu'r ddau.
4: Gosod eich syniadau cerddorol yn y stori; sgwennu geiriau'r caneuon
Ym mha ran o'r stori ddylai'r gân bop optimistaidd fod? Ble allwn ni roi'r waltz sinistr? Beth am y faled angylaidd? Dyma pryd mae'r stori a'r caneuon yn cydblethu, a gall y naill helpu'r llall.
Ar y cam yma, mae'n hollbwysig peidio â bod yn rhy gyndyn o ollwng gafael ar eich syniadau. Os ydych chi'n hapus efo'r stori, ond bod gennych chi gân wych a nunlle i'w rhoi, addaswch y stori, neu sgrapiwch y gân. Gallwch chi bob amser ddefnyddio eich syniadau da ar gyfer prosiectau eraill yn y dyfodol.

Peidiwch â bod ofn addasu, meddai Hywel
5: Sgwennu'r sgript
Os mai chi sy'n gyfrifol am y sgript hefyd, mae angen i chi ystyried beth ellid ei ddweud yn y golygfeydd i arwain y stori at y gân nesaf? Gallwch chi ychwanegu emosiwn dirdynnol neu hiwmor ysgafn i ategu'r caneuon yma hefyd.
Mae'n iawn cael rhai cymeriadau sy'n dweud nonsens llwyr - a dweud y gwir, mi faswn i'n argymell hynny. Ond mae angen ambell linell glir ym mhob golygfa sy'n dweud wrth y gynulleidfa i ble mae'r stori'n mynd.
Dylai hyn deimlo'n naturiol bob amser. Os oes cymeriad yn canu cân yn hiraethu am ei gath, a bod yr un cymeriad yna'n canu am ddeintydd dieflig sy'n lladd ei gleifion, dylai'r sgript ei gwneud yn amlwg sut aeth o un peth i'r llall. Efallai fod y gath yn arfer byw yn y ddeintyddfa - dwn i'm, eich sioe chi ydy hi...
6: Amau eich hun a chwestiynu pob penderfyniad hyd yma
Bydd hyn yn rhan anochel o'r broses. Mae'n iawn, mi basith. Trystiwch eich hun.
7: Tacluso a phrawf ddarllen
Gwnewch yn siŵr bod pob gair a phob nodyn yn ei le (mae'n help garw cael gwraig sy'n gerddorol ac yn gyfieithydd yn fy achos i).
8: Dod â phob dim at ei gilydd ac anfon y cwbl
Y sgôr, y sgript, demos, crynodeb o'r cymeriadau - rhowch gymaint o wybodaeth ag y gallwch chi i'r bobl sy'n llwyfannu'r sioe. Weithiau bydd amserlenni tynn a bydd yn rhaid i chi anfon y gwaith fesul dipyn. Os mai dyma'r sefyllfa, mae'r cam nesaf yn bwysicach fyth.

Hywel yn cyd-weithio gyda chyfarwyddwr y sioe, Lowri Mererid
9: Cyfathrebu'n gyson, ac ymddiried yn eich cydweithwyr
Rydw i wedi bod yn ffodus iawn i weithio gyda thîm a chast gwych sydd wedi deall fy ngweledigaeth fel rhan o'r broses yma. Bydd pethau'n siŵr o newid rhwng yr adeg rydych chi'n rhoi'r gwaith yn eu dwylo nhw a diwrnod y perfformiad, a bydd gan bobl gwestiynau.
Cofiwch mai eich sioe chi ydy hi, gallwch chi wneud penderfyniadau wrth fynd, mae hynny'n iawn. Cyn belled â bod y cymeriadau'n ddiddorol, y stori'n dal dŵr a bod modd perfformio'r sioe'n ymarferol, hwyl a phleser ydy popeth arall.
10: Bod yn glên efo chi'ch hun
Sgwennu sioe gerdd ydych chi, nid rhoi llawdriniaeth ar y galon i rywun! Y peth gorau i'w wneud ydy bod yn hyblyg, a pheidio â gorfeddwl pethau - gwnewch benderfyniadau a chadw atyn nhw. Pan ydych chi'n creu rhywbeth o'r newydd, does dim atebion anghywir.
A dyna ni! Llongyfarchiadau ar ddilyn y camau hyn a sgwennu eich sioe gerdd gyntaf ar gyfer y llwyfan. Gobeithio yr aiff popeth yn iawn i chi.
Os hoffech chi gael mwy o gyngor, dwi'n ddyn hawdd siarad ag o; jyst anfonwch neges ata i drwy fy asiant, ac ar ôl i fy nghyfreithwyr gymeradwyo popeth, mi wnaiff fy nghynorthwyydd personol ddod yn ôl atoch chi.
Ewch i wefan Galeri, dolen allanol am fwy o wybodaeth am Croeso i Baradwys, sy'n cael ei pherfformio yno rhwng 24-26 Ebrill.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2021