Tocyn bws £1 i bobl dan 21 oed yng nghytundeb Llafur-Dem Rhydd

Bysiau CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd pobl ifanc o dan 21 oed yn gallu teithio i unrhyw le ar unrhyw daith am £1, gyda theithio anghyfyngedig am £3

  • Cyhoeddwyd

Bydd pobl ifanc 21 oed ac iau yn gallu teithio am £1 ar fysiau ledled Cymru fel rhan o gytundeb cyllideb rhwng Llafur Cymru ac arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru Jane Dodds.

Bydd y cytundeb, sy'n werth mwy na £100m, hefyd yn darparu arian ychwanegol ar gyfer gofal plant, cynghorau lleol, gofal cymdeithasol a threnau yng nghanolbarth Cymru.

Mae'n golygu y bydd cynlluniau gwario £26bn Llywodraeth Cymru ar gyfer y GIG, addysg a gwasanaethau cyhoeddus eraill yn cael eu pasio yn y Senedd fis nesaf, ac yn dilyn wythnosau o drafodaethau.

Mae'r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru wedi dweud y byddan nhw'n pleidleisio yn erbyn y gyllideb hon.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi £4.4m ar gyfer y celfyddydau – sydd ddim yn rhan o'r cytundeb gyda Jane Dodds – ar gyfer y "celfyddydau, diwylliant, treftadaeth, cyhoeddi, creadigol a chwaraeon i adlewyrchu'r sefyllfa heriol y mae'r sector wedi'i hwynebu yn ddiweddar".

Roedd angen i Lafur daro bargen gydag un o'r pleidiau eraill yn y Senedd ar y gyllideb gan mai dim ond hanner y seddi sydd ganddyn nhw.

Mae'r cytundeb yn cynnwys ymrwymiad i symud tuag at wahardd rasio milgwn yng Nghymru, gafodd ei gyhoeddi yn gynharach yr wythnos hon.

O dan y gyfraith roedd gweinidogion yn wynebu colli mwy na £4bn o gyllid pe bai trafodaethau'n methu.

'Helpu gymaint'

Keri Lloyd-Jones a Kayleigh Coates
Disgrifiad o’r llun,

Mae Keri a Kayleigh yn astudio trin gwallt yng Ngholeg Menai ac yn croesawu'r newid

O dan gynllun peilot gwerth £15m, bydd pobl ifanc 16 i 21 oed yn gallu teithio i unrhyw le ar unrhyw daith am £1, gyda thocyn diwrnod anghyfyngedig am £3.

Mae Keri Lloyd-Jones yn defnyddio bysus bob dydd i gyrraedd Coleg Menai ym Mangor, lle mae hi'n astudio trin gwallt.

Dywedodd bydd gostyngiad yn y pris yn "helpu gymaint".

"Dwi'n cymryd chwe bws y dydd, felly byddai'r £1 yma yn gymaint o help...byddai £3 y dydd yn arbed hyd yn oed mwy o arian i mi" meddai.

Yn ôl Kayleigh Coates, sydd hefyd yn fyfyriwr trin gwallt yng Ngholeg Menai, byddai tocyn bws am £1 yn "ddefnyddiol" iddi hi.

Dion Dobson
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dion yn dweud iddo wario hyd at £30 yr wythnos ar fysiau

Mae prisau bws yn rhy ddrud ar hyn o bryd, medd Llewelyn Parry, myfyriwr cerdd yng Ngholeg Menai,

"Dwi'n talu £3.50 o Gaernarfon i Bwllheli, ac yn fy marn i mae hynny ychydig yn ddrud i fyfyriwr. Rwy'n credu bod lleihau'r pris i lawr i £1 yn anhygoel."

Yn rhannu'r un farn yw Dion Dobson.

"Dwi'n meddwl fy mod i'n gwario hyd at £30 yr wythnos ar fysiau'r wythnos felly mae'n adio fyny.... Rwy'n credu y gallai helpu llawer gyda'r costau y mae'n rhaid i bobl ein hoedran ddelio â nhw.

"Er enghraifft, cynilo ar gyfer ceir, cael tŷ neu fflat. Rwy'n credu y byddai'n help enfawr i fyfyrwyr yng Nghymru."

Jane Dodds Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Jane Dodds ydy unig aelod y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Senedd

Mae elfennau allweddol ar gytundeb y gyllideb yn cynnwys:

  • £30m yn ychwanegol ar gyfer gofal plant, a fydd yn sicrhau cyllid ar gyfer y rhaglen Dechrau'n Deg i ddarparu gofal plant i blant dwy flwydd oed yng Nghymru. Bydd y gyfradd fesul awr hefyd yn cael ei chynyddu i £6.40 yr awr i gefnogi darparwyr gofal plant ymhellach.

  • £30m yn ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol, i'w ddefnyddio i dargedu oedi wrth ryddhau cleifion o'r ysbyty ac i ddarparu rhagor o ofal a chefnogaeth mewn cymunedau lleol "fel na fydd pobl yn cael eu derbyn i'r ysbyty yn ddiangen".

  • Cyllid gwaelodol wedi'i ddiogelu ar 3.8% ar gyfer pob awdurdod lleol, gan gostio £8.24m. Bydd hyn yn cynyddu'r cyllid a fydd ar gael i naw awdurdod lleol – Sir Fynwy, Powys, Gwynedd, Bro Morgannwg, Sir y Fflint, Sir Benfro, Ynys Môn, Ceredigion a Chonwy.

Mae hefyd yn cynnwys cyllid pellach ar gyfer llywodraeth leol:

  • £5m i wella meysydd chwarae a chyfleusterau chwarae i blant.

  • £5m yn ychwanegol i gefnogi canolfannau hamdden i arbed ynni.

Mae'r gyllideb hefyd yn cynnwys cymorth ychwanegol i greu cynllun gwerth £120m i'r awdurdodau lleol ar gyfer trwsio ffyrdd a phalmentydd, cyllid i adfer y pumed gwasanaeth trên ar reilffordd Calon Cymru, a £500,000 o gyllid cyfalaf i wella toiledau ar brif ffyrdd ar draws Cymru.

Mark Drakeford Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford ei gyllideb ddrafft gwerth £26bn ym mis Rhagfyr

Dywedodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: "Mae'r cytundeb hwn yn dangos beth allwn ni gyflawni pan fydd Llywodraeth Cymru ac Aelodau o'r Senedd yn gweithio'n adeiladol gyda'i gilydd mewn meysydd lle rydyn ni'n rhannu'r un diddordeb".

"Bydd y buddsoddiad ychwanegol yn gwneud gwahaniaeth mawr i gymunedau ym mhob cwr o Gymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

"Mae'r buddsoddiad hwn a'r £1.5bn ychwanegol sydd wedi'i gyhoeddi yn ein Cyllideb Ddrafft yn becyn cadarnhaol o gyllid ychwanegol ar gyfer pob rhan o Gymru."

Dywedodd Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru: "Mae'r cytundeb hwn yn gam cadarnhaol tuag at wneud Cymru yn wlad decach a mwy llewyrchus – yn union fel rydw i am iddi fod".

"Rydw i wrth fy modd ein bod ni wedi sicrhau'r arian sydd ei angen i gyflawni blaenoriaethau allweddol fy mhlaid o wella gofal cymdeithasol, cynyddu gofal plant o safon, mynd i'r afael â llygredd dŵr, gwella'r ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus a diogelu'r gwasanaethau hanfodol sy'n cael eu rhedeg gan y cynghorau."

'Ddim yn trwsio Cymru'

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Sam Rowlands na fydd cyllideb Llafur yn trwsio Cymru.

"Ni fydd yn mynd i'r afael â blaenoriaethau pobl, gyda chanlyniadau truenus fel rhestrau aros gormodol a safonau addysgol isel yn siarad drostynt eu hunain," meddai.

"Byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn hytrach yn canolbwyntio ar roi arian yn ôl ym mhocedi pobl Cymru, gan ddechrau gyda chreu Lwfans Tanwydd Gaeaf Cymru i gymryd lle'r toriad gan Keir Starmer, ac ariannu hynny trwy dorri gwariant chwyddedig ar fiwrocratiaid Llywodraeth Cymru."

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros gyllid a diwylliant, Heledd Fychan, na fydd y blaid yn cefnogi'r gyllideb am ei bod "yn methu mynd i'r afael yn ddigonol â'r heriau sy'n ein hwynebu fel cenedl".

"Mae elfennau o'r gyllideb i'w croesawu ond ni ellir anwybyddu'r bylchau enfawr, a slogan wag ydi'r bartneriaeth mewn grym' fel y'i elwir rhwng Llywodraethau Llafur Cymru a'r DU – dim arian HS2, dim fformiwla ariannu teg a dim datganoli Ystad y Goron," meddai.

"O lywodraeth leol i'r gwasanaeth iechyd, mae angen llywodraeth fydd â syniadau ffres er mwyn gwario'r gyllideb yn well, fydd ddim yn ildio wrth fynnu chwarae teg i Gymru - dyna addewid Plaid Cymru i bobl Cymru."

Mae disgwyl pleidlais derfynol ar y gyllideb yn y Senedd ar 4 Mawrth.

Fe gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford ei gyllideb ddrafft, gwerth £26bn, ym mis Rhagfyr.

Yn ôl y cynlluniau bydd pob adran o Lywodraeth Cymru yn gweld cynnydd i'w chyllideb yn 2025-26, yn wahanol iawn i'r sefyllfa y llynedd pan mai'r adran iechyd oedd yr unig adran i osgoi toriad i'w chyllideb.

Mae'r gyllideb newydd yn elwa o arian ychwanegol gan y llywodraeth Lafur newydd yn San Steffan.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ennill pleidlais ar ei chyllideb ddrafft yn gynharach y mis hwn ar ôl i arweinydd y Ceidwadwyr ac aelod arall o'i blaid fynd i'r Unol Daleithiau ar gyfer cyfarfod gweddi yn Washington DC.

Roedd Llafur wedi wynebu dod i gytundeb newydd ar y gyllideb ar ôl i'r cytundeb cydweithredu gyda Phlaid Cymru ddod i ben yn yr haf.

Nid oedd Plaid Cymru wedi diystyru gweithio gyda llywodraeth Lafur Cymru eto ond wedi gwneud galwadau sylweddol ar y llywodraeth Lafur yn San Steffan, gan gynnwys datganoli Ystâd y Goron ac arian yn sgil rheilffordd cyflymder uchel HS2 yn Lloegr.

Yn ôl Plaid Cymru does dim trafodaethau wedi bod am y gyllideb gyda Llafur.

Mae Llafur wedi bod mewn trafodaethau gyda Jane Dodds ers i'r gyllideb ddrafft gael ei chyflwyno ym mis Rhagfyr.

Yn y cyfamser, addawodd y Ceidwadwyr bleidleisio yn erbyn y gyllideb.