Rhybudd am beryglon yr afon ger y Sioe Frenhinol
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n rhybuddio pobl i fod yn ofalus o amgylch Afon Gwy ger y Sioe Frenhinol ar ôl i ddyn gael ei achub o'r dŵr.
Cafodd y dyn ei ganfod gan fugeiliaid stryd mewn perygl o gael ei ysgubo i ffwrdd yn y cerrynt cryf nos Sul.
Fe gafodd y dyn ei achub o'r dŵr dwfn gan chwe swyddog heddlu, gan ddefnyddio rhaff o ddyfais diogelwch cyfagos.
Bu farw dyn ifanc o'r enw James Corfield yn yr afon yn Llanfair-ym-muallt ar noson gyntaf y Sioe Frenhinol yn 2017.
'Atgoffa pobl i gymryd gofal'
Dywedodd y Prif Arolygydd Gareth Grant o Heddlu Dyfed-Powys: “Heb os, roedd y diolch i’r bugeiliaid stryd a’n rhybuddiodd am y digwyddiad, ac ymateb cyflym ein swyddogion a rwystrodd y dyn yma rhag cael niwed.
“Yn dilyn y digwyddiad, rydym yn cymryd y cyfle i atgoffa pobl sydd yn yr ardal ar gyfer Sioe Frenhinol Cymru i gymryd gofal wrth gerdded i faes y sioe ac oddi yno.
“Efallai nad yw ymwelwyr â’r ardal yn ymwybodol o beryglon y rhan hon o Afon Gwy, lle mae darnau dwfn a cherrynt cryf, sy’n ei gwneud hi’n anodd iawn dod allan ohono.
“Mae llwybr gwyrdd wedi’i nodi rhwng y sioe, pentref y bobl ifanc, Fferm Penmaenau a thref Llanfair-ym-muallt.
"Defnyddiwch hwn, yn hytrach nag unrhyw lwybr arall rhwng y lleoliadau hyn, er eich diogelwch eich hun.”