'Y Gymraeg yn iaith sy'n gweddu ffilmiau arswyd'
- Cyhoeddwyd
Pan wnaeth Tony ac Aloma ryddhau Dim Ond Ti a Fi yn 1969, ychydig wydden nhw y byddai’n cael ei defnyddio mewn ffilm arswyd 55 mlynedd yn ddiweddarach.
Ond bydd un o ganeuon mwyaf poblogaidd y ddeuawd o Ynys Môn yn cael ei chlywed mewn gŵyl ffilmiau fawr yn Llundain yr wythnos hon.
Y cyfarwyddwr a’r cerddor Griff Lynch sydd tu ôl i’r ffilm - sy’n rhannu’r un teitl a’r gân - ac mae’n credu bod y trac a’r iaith Gymraeg yn effeithiol yn y genre arswyd.
“Mae ‘na rywbeth am gân sydd mor hyfryd a ciwt, a’r sŵn o’r recordiau o’r 60au a’r 70au, y cracl ar y record, sy’n cynnig ei hun i arswyd,” meddai.
Roedd Griff eisoes wedi dechrau sgwennu’r sgript cyn dewis y gân.
Meddai: “Ro’n i’n gwybod mod i eisiau hen drac cariadus i’r agoriad ac i ran arall o’r ffilm a dwi’n ffan o Tony ac Aloma, maen nhw’n wych, yn enwedig pan ti’n gwrando ar finyl o’r cyfnod. Maen nhw’n mor nostalgic.
“Ro’n i’n chwilio am gân - nid gan Tony ac Aloma yn benodol - ond hwnna oedd yr un oedd yn cyd-fynd efo’r thema yn y ffilm.
“Mae’r gân yma yn berffaith a nesh i siarad efo’r ddau ohonyn nhw i gael eu caniatâd i ddefnyddio fo a thrafod y cyd-destun efo nhw ac roedden nhw hapus.”
Ffilm arswyd sy’n defnyddio tensiwn seicolegol yn hytrach na gwaed a thrais i godi braw ydi Dim Ond Ti a Fi.
Mae’n dweud stori Meirion, sy'n dod o’r wlad, yn mynd â’i gariad o’r ddinas, sef Mabli, adref am y tro cyntaf - profiad sy'n troi'n dywyll yn y ffilm.
Mae’r cyfarwyddwr yn credu bod y Gymraeg ynaddas i'r math yma o ffilm, yn enwedig i gynulleidfa dramor.
“Mae’r iaith Gymraeg yn gweddu ei hun yn dda i arswyd. Mae rhywbeth reit arswydus pan ti’n clywed Cymraeg pan ti’m yn ei ddeall o - mae’n benthyg ei hun i arswyd.
"A hefyd yr elfennau traddodiadol, a delweddau Cymreig, a’r gwledig.”
Gŵyl Ffilm Raindance
Dyma ffilm fer gyntaf Griff Lynch, sydd wedi cyfarwyddo rhaglenni dogfen, drama a fideos pop ers blynyddoedd.
Mae’r gwaith eisoes wedi ei dangos yn Focus Wales ac ar 22 Mehefin bydd yng ngŵyl ffilmiau fwyaf Prydain - Raindance. Y gobaith ydi bod cael ei dangos mewn gwyliau adnabyddus yn codi proffil y gwaith - a’r rhai sydd wedi gweithio arni - cyn cael ei rhyddhau i’r cyhoedd.
Fe gafodd Raindance ei sefydlu dros 30 mlynedd yn ôl ac mae’n cael ei gydnabod fel un o’r prif wyliau'r diwydiant ffilmiau. Yno gafodd Pulp Fiction ei dangos am y tro cyntaf ym Mhrydain nôl yn 1994 ac mae ffilmiau byr sy’n cael eu dewis i’r ŵyl yn gymwys i gael eu hystyried ar gyfer enwebiadau Oscar a Bafta.
Dywed Griff: “Dwi’n hapus iawn ei bod hi’n cael ei dangos yno. Un o’r pethau sydd fwya’ pwysig i fi efo creu rhywbeth yn y Gymraeg, os ydi o’n gân neu’n ffilm, ydi bod o’n gallu bodoli tu allan i’r byd Cymraeg.
“Mae’n haws efo ffilm oherwydd is-deitlau, mae’n haws bod yn accessible ar draws y byd. Felly dwi’n falch ei fod o’n cael ei weld mewn gŵyl ar lefel Brydeinig, neu fyd-eang.
“Fel cenedl roedda ni’n arfer cynhyrchu eitha’ lot o ffilm - yn y 70au a’r 80au, efo cyfarwyddwyr fel Endaf Emlyn. Ond tyda ni ddim yn gwneud nhw rŵan, ‘da ni’n gwneud lot o gyfresi ond ddim ffilm, ac mae hynny’n bechod dwi’n meddwl.
“Mae ffilm yn gweithio’n dda yn rhyngwladol dwi’n meddwl, ac mae o’n cael ei weld mewn sinemâu - sy’n wych - a dylai’r Gymraeg fod mewn sinema.”
Mae am fod yn haf prysur i Griff tu hwnt i hyrwyddo’i ffilm fer. Mae o newydd ryddhau sengl a fideo newydd Kombucha, dolen allanol ac mae’n gweithio ar albwm newydd fydd yn dod allan yn ddiweddarach eleni - y cyntaf fel artist unigol.
Bydd prif leisydd Yr Ods hefyd yn perfformio yn Tafwyl ac ar Lwyfan y Maes yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ond fel artist unigol.
“Fydd o’n heriol i fi," meddai. "Dwi wedi arfer perfformio efo’r Ods ac mae hynna fel reidio beic - dwi’n gwybod be' mae pawb arall yn 'neud - ond mae’n gyffrous gwneud rhywbeth hollol wahanol hefyd.”
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd15 Mehefin