Mark Lewis Jones fydd Llywydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam

Mark Lewis Jones oedd enillydd y wobr am yr actor gorau yn seremoni BAFTA Cymru 2016
- Cyhoeddwyd
Yr actor Mark Lewis Jones fydd Llywydd yr Ŵyl yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam eleni.
Mae'n wreiddiol o bentref Rhosllannerchrugog ger Wrecsam, ac fe gafodd ei fagu yn y pentref.
Mae'n cael ei adnabod am sawl rôl adnabyddus gan gynnwys actio mewn sioeau teledu eiconig fel The Crown, Game of Thrones, Chernobyl a Baby Reindeer.
Dywedodd ei fod "mor falch i gael y gwahoddiad i fod yn Llywydd".
"Doeddwn i ddim yn ei ddisgwyl o gwbl ac rwy'n hollol chuffed."

Mae wedi actio mewn cyfresi ar S4C gan gynnwys Dal y Mellt, Con Passionate, Calon Gaeth ac Y Pris
Ymunodd Mark Lewis Jones â'r theatr ieuenctid yn Theatr Clwyd cyn mynd i astudio drama yn y Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd.
Yna, bu'n gweithio yn Theatr Clwyd cyn symud i Lundain am 27 mlynedd, a symud wedyn i Gaerdydd a phriodi ei wraig, Gwenno.
Mae wedi ymddangos hefyd mewn ffilmiau enwog gan gynnwys Star Wars: The Last Jedi a'r ffilm ddiweddar o Ganada, Sweetland.
'Cefnogaeth leol yn hanfodol'
Dywedodd bod y gefnogaeth a'r anogaeth a gafodd gan ei gymuned leol yn hanfodol iddo yn bersonol ac yn ei yrfa fel actor dros y 40 mlynedd ddiwethaf.
Ymhlith llywyddion y gorffennol mae'r cyflwynydd a'r DJ, Huw Stephens, yr hanesydd, Elin Jones a chyn-reolwr cynorthwyol tîm pêl-droed dynion Cymru, Osian Roberts.
Mi fydd Jones yn annerch y gynulleidfa o lwyfan y Pafiliwn yn ystod wythnos yr Eisteddfod yn Wrecsam o 2-9 Awst.
Mi fydd hefyd yn cael ei anrhydeddu gan Orsedd Cymru fore Gwener, 8 Awst.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mehefin
- Cyhoeddwyd31 Mai
- Cyhoeddwyd25 Mai 2018