Gwerth £150,000 o feiciau trydan wedi'u dwyn yn Aberystwyth

Cafodd pedwar o ddynion eu gweld yn llwytho'r beiciau i fan ar Stad Ddiwydiannol Glan yr Afon nos Sadwrn
- Cyhoeddwyd
Mae gwerth dros £150,000 o feiciau trydan wedi cael eu dwyn o stad ddiwydiannol yn Aberystwyth.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod "nifer fawr o e-feiciau" wedi eu cymryd o adeilad ar Stad Glan yr Afon yn ardal Llanbadarn Fawr tua 21:30 nos Sadwrn.
Cafodd pedwar o ddynion yn gwisgo mygydau eu gweld yn llwytho'r beiciau i fan arian.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw, yn ogystal ag unrhyw un sydd â lluniau CCTV neu dashcam all fod o ddefnydd i'r ymchwiliad.