Rhybudd i gapeli wirio yswiriant wedi siom gorfod talu am ddifrod storm

Soar y MynyddFfynhonnell y llun, Lynwen Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Dyw hi ddim wedi bod yn bosib paentio capel Soar y Mynydd eleni yn sgil gorfod talu am y difrod

  • Cyhoeddwyd

Wrth i gapel Soar y Mynydd - un o gapeli mwyaf eiconig Cymru - agor ei ddrws ar gyfer oedfaon eleni mae'r swyddogion yn rhybuddio capeli eraill i wirio eu polisi yswiriant.

Yn ystod Storm Darragh fe gafodd to'r capel, sydd wedi'i leoli yn y bryniau rhwng Tregaron a Llyn Brianne, ddifrod sylweddol ac fe gwympodd nifer o'r coed gerllaw.

Wedi iddi anfon amcan bris o'r gost o'i drwsio i gwmni yswiriant Congregational - cwmni sydd wedi bod yn darparu yswiriant i eglwysi am dros 130 mlynedd - fe gafodd Margaret Evans siom o wybod na fyddai'r cwmni yn talu am y gwaith.

"Ychydig o aelodau ydyn ni i gyd a does yna ddim lot o arian yn y coffrau ond ni wedi cael gaeaf anoddach nag arfer," meddai Mrs Evans wrth siarad â Cymru Fyw.

"Roedd yna £2,800 o ddifrod i'r to wedi Storm Darragh ac yn ychwanegol at hynny mae drws y toiled wedi'i ddwyn.

"Wedi i fi ffonio'r cwmni yswiriant fe wedon nhw wrtha i am anfon yr amcan bris o'i drwsio ac roedd rhaid bwrw 'mlaen â'r gwaith er mwyn diogelu'r capel bach ond yna fe gawson ni wybod nad oedd yr yswiriant yn covero'r difrod am nad oes oedfaon yn y capel o ganol Hydref tan ganol Mai.

"Roedd hynny'n siom fawr a ninnau yn talu am yswiriant yn flynyddol ac fe fydden i'n annog capeli eraill i wirio eu polisi yn enwedig wrth i lai o oedfaon gael eu cynnal yng nghapeli cefn gwlad."

Dim yswiriant os nad oes defnydd cyson

Ategu yr alwad honno mae Nan Wyn Powell-Davies, Ysgrifennydd Cyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru.

"Y capeli yn lleol sy'n gyfrifol am eu polisi yswiriant ac yn sicr mae angen i bawb wirio eu polisi a dod i drefniant gyda'r cwmni yswiriant os yw defnydd o'r adeilad wedi newid.

"Ers Covid mae llawer o gapeli yn cynnal llai o gyfarfodydd ac mae rhai capeli wedi cau ond ddim eto wedi'u datgorffori," meddai.

Doedd y cwmni yswiriant ddim am ymateb ond nododd Ms Powell-Davies fod "cymal 13 yn nodi'n glir nad yw nifer o bethau yn gynwysedig yn y polisi os nad yw'r adeilad yn cael ei ddefnyddio yn amlach nag unwaith y mis - heblaw bod y capel a'r cwmni yswiriant wedi dod i gytundeb".

Soar y MynyddFfynhonnell y llun, Lynwen Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Bydd gwasanaethau yn y capel tan y cwrdd diolchgarwch ym mis Hydref

Os nad yw capel neu eglwys yn cael ei ddefnyddio fwy nag unwaith y mis does yna ddim yswiriant ar gyfer difrod storm, dŵr a rhew, difrod bwriadol, lladrad, malu ffenestri na difrod damweiniol.

Yn ddiweddar fe wnaeth Eglwys Bresbyteraidd Cymru gynnal cynhadledd ar ddyfodol capeli.

"Ry'n ni'n berchen ar dros 800 o adeiladau gan gynnwys capeli a thai a dyw hi ddim yn deg bod y cyfrifoldeb o edrych ar ôl yr adeiladau a sortio yswiriant yn disgyn ar lai a llai o aelodau hŷn a ffyddlon o fewn y gynulleidfa.

"Allwn ni ddim parhau fel hyn. Mae hi'n amser rŵan ar gyfer breuddwydion newydd a chynlluniau dewr wrth i nifer yr aelodau ac oedfaon ostwng," ychwanegodd Ms Powell-Davies.

Allt DduFfynhonnell y llun, Lynwen Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Aelodau teulu a gafodd eu magu yn Allt Ddu sydd yn cynnal a chadw'r capel ers blynyddoedd llawer

11 aelod sydd bellach yng Nghapel Soar y Mynydd - y cyfan, fwy neu lai, yn perthyn i hen deulu Allt Ddu gerllaw.

Yn ystod yr wythnos mae nifer ohonynt wedi bod yn glanhau y capel sydd wedi ysbrydoli sawl artist - yn eu plith Ogwyn Davies a Karen Pearce.

"Mae dechrau Mai yn gyfnod cyffrous wrth i ni baratoi Soar ar gyfer oedfaon yr haf," meddai Lynwen Hughes.

"Ni wrth ein bodd yn gwneud y gwaith - gwaith a arferai ein rhieni a'n hewythr John Brynambor ei wneud.

"Ond eleni gan fod trwsio'r to wedi costio bron i dair mil o bunnau, ni ddim wedi gallu paentio'r capel a ni'n arfer gwneud hynny bob blwyddyn fel ei fod yn edrych ar ei orau i groesawu ymwelwyr.

"Mae ymwelwyr wrth eu bodd yn dod yma yn yr haf - weithiau bydd llond bws yn dod ac mae'n braf eu croesawu."

Y newyddiadurwr a'r awdur Lyn Ebenezer fydd yn agor y tymor eleni ac yna bydd oedfaon yn cael eu cynnal ar brynhawniau Sul yn ddi-dor tan y Cwrdd Diolchgarwch ar 5 Hydref.

"Mae'r cyfan wedi bod yn siom, wrth gwrs," ychwanegodd Margaret Evans, "ond rydym yn barod i groesawu pawb, boed yn bregethwyr, cyd-addolwyr ac ymwelwyr."

Pynciau cysylltiedig