Pennaeth iechyd yn ymddiswyddo ar ôl gwallau cyfrifo 'bwriadol'

Bydd Sue Hill yn ymddiswyddo'n swyddogol fel cyfarwyddwr gweithredol cyllid Betsi Cadwaladr ym mis RhagfyrFfynhonnell y llun, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Sue Hill yn ymddiswyddo'n swyddogol fel cyfarwyddwr gweithredol cyllid Betsi Cadwaladr ym mis Rhagfyr

  • Cyhoeddwyd

Bydd un o benaethiaid bwrdd iechyd y gogledd yn ymddiswyddo fis nesaf ar ôl i gyfrifon anghywir “bwriadol” gael eu darganfod yn ei hadran ddwy flynedd yn ôl.

Mae Sue Hill, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), wedi bod ar gyfnod o absenoldeb o’r gwaith ers mis Rhagfyr 2022 ar ôl i ymchwilwyr arbenigol gael eu galw i edrych ar gyllid y sefydliad.

Mae’r bwrdd yn dweud na fydd Ms Hill yn derbyn setliad ariannol pan fydd yn gadael ei swydd ym mis Rhagfyr 2024.

Roedd ei chyfnod o absenoldeb yn cynnwys 12 mis oherwydd salwch.

Mae aelodau eraill o staff yn dal yn destun ymchwiliad.

Dechreuodd absenoldeb Ms Hill wrth i ymchwiliadau ddigwydd i “wallau sylweddol” gafodd eu darganfod gan archwilwyr yng nghyfrifon y bwrdd iechyd.

Cafodd cyfrifwyr allanol EY eu galw i ymchwilio ymhellach gan ddod o hyd i “fethiannau diwylliannol systemig” yn nhîm cyllid y sefydliad, gyda staff yn gwneud cofnodion anghywir “bwriadol” yn eu cyfrifon.

Dywedodd adroddiad EY ym mis Ionawr 2023 fod y Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid ac aelodau eraill o'r tîm cyllid wedi dweud wrthyn nhw nad oeddent “yn ymwybodol” o gofnodion a bostiwyd i’r flwyddyn ariannol anghywir, ond roedd hyn yn “anghyson” â thystiolaeth ddogfennol, yn ôl EY.

Doedd dim tystiolaeth bod unrhyw un wedi elwa'n bersonol.

Daeth ymchwiliadau gan asiantaeth Atal Twyll y GIG a Heddlu Gogledd Cymru i ben heb unrhyw gamau'n cael eu cymryd.

Cyfnod o salwch

Cychwynnodd BIPBC ymchwiliad mewnol ym mis Mai 2023 ac mae’r bwrdd yn dweud bod yr ymchwiliad hwnnw bellach “wedi ei gwblhau” mewn perthynas â Sue Hill.

Dywedodd Jason Brannan, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Pobl BIPBC: “Mae Sue Hill wedi hysbysu’r bwrdd iechyd o’i bwriad i ymddiswyddo a bydd yn gadael ym mis Rhagfyr 2024.

“Mae Sue ar gyfnod o absenoldeb ar hyn o bryd ar ôl cael llawdriniaeth a thriniaeth sylweddol yn ystod y 12 mis diwethaf ac mae ein meddyliau gyda hi wrth iddi ganolbwyntio ar ei hiechyd a’i hadferiad parhaus.”

Dywedodd Ms Hill wrth y bwrdd iechyd ddiwedd mis Medi eleni ei bod yn bwriadu ymddiswyddo.

Yn ôl adroddiad blynyddol y sefydliad, mae'r Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid ar gyfanswm cyflog o £195,000 yn cynnwys buddion pensiwn.

Disgrifiad o’r llun,

"Does dim esgus" bod y broses wedi cymryd mor hir, yn ôl Llyr Gruffydd

Dywedodd Llyr Gruffydd, yr Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros ogledd Cymru, ei fod yn synnu at y canlyniad.

“Does dim esgus bod hyn wedi cymryd dwy flynedd. Mi ddylai hwn fod wedi cael ei ddatrys mewn cyfnod byr iawn," meddai.

“Ac mae ‘na gwestiynau mawr i Lywodraeth Cymru yn hyn o beth achos eu llaw nhw sydd wedi bod ar y llyw tra bod y bwrdd iechyd wedi bod mewn mesurau arbennig.

“Dyw e ddim yn ddigon da. Mi ddyle hyn fod wedi cael ei ddelio ag e yn lawer cynt na chaniatáu i’r person yma adael ddwy flynedd ar ôl i hyn ddigwydd.”

'Cost' i drethdalwyr

Gan gyfeirio at y staff sy’n dal yn destun ymchwiliad dywedodd Darren Millar, yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros ogledd Cymru: "Bydd llawer o bobl yng ngogledd Cymru'n synnu ein bod ni bron i ddwy flynedd ers i'r sgandalau yma dorri ac mae'n ymddangos nad oes unrhyw un wedi ei gael atebol am y methiannau sydd wedi digwydd.

“Nid yw’n ddigon da, mae angen i ni ddatrys pethau’n gyflymach, ac wrth gwrs, Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am hyn o ystyried bod y bwrdd iechyd mewn mesurau arbennig.”

Cafodd BIPBC eu rhoi yn ôl o dan fesurau arbennig, y lefel uchaf o oruchwyliaeth gan Lywodraeth Cymru, yn fuan ar ôl ymadawiad Ms Hill.

Dywedodd y bwrdd iechyd wrth BBC Cymru nad oedden nhw na Sue Hill eisiau ymateb i sylwadau Llyr Gruffydd a Darren Millar ac nad oedd ganddyn nhw sylw pellach.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae hwn yn fater cyflogaeth ac felly mater i’r bwrdd iechyd ydy hyn.”

Pynciau cysylltiedig