Cyfrifon Betsi Cadwaladr: 'Cofnodion anghywir yn fwriadol'

  • Cyhoeddwyd
Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr

Fe wnaeth swyddogion cyllid ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wneud cofnodion anghywir bwriadol i'w cyfrifon eu hunain, meddai adroddiad a ddangoswyd i BBC Cymru.

Dywedodd ymchwiliad gan gwmni cyfrifeg EY fod y bwrdd wedi rhoi cyfrifon anghywir am filiynau o bunnoedd.

Roedd EY yn honni bod eu gwaith wedi ei "rwystro" gan newid i ddogfen, a'r ffaith bod cofnod o gyfarfod wedi ei ddileu.

Dywedodd bwrdd iechyd gogledd Cymru eu bod yn delio â materion a godwyd gan EY.

'Methiannau'

Dywedodd EY fod "methiannau diwylliannol systematig" yn nhîm cyllid y sefydliad.

Fe wnaeth eu cyfrifwyr fforensig ganfod bod y bwrdd iechyd wedi cofnodi trafodion yn eu cyfrifon ar gyfer 2021/22 oedd yn ymwneud â gwaith doedd contractwyr heb ei wneud eto, neu offer meddygol wnaeth ddim cyrraedd tan fisoedd wedyn.

Cafodd ymchwiliad twyll troseddol i'r mater ei ollwng yn gynharach eleni, er bod adolygiad mewnol o'r hyn a ddigwyddodd yn parhau.

Dechreuodd ymchwiliad EY ym mis Medi 2022 ar ôl i'r corff rheoleiddio Archwilio Cymru ddod o hyd i'r hyn gafodd eu galw'n "wallau sylweddol" yng nghyfrifon 2021/22 Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Siaradodd ymchwilwyr ag uwch reolwyr y bwrdd iechyd a chlywed eu bod dan bwysau i wario'r holl arian a roddwyd iddynt gan Lywodraeth Cymru, ac i fantoli'r cyfrifon.

Ond wrth i flwyddyn ariannol 2021/22 ddirwyn i ben, ysgrifennodd y bwrdd iechyd at Lywodraeth Cymru yn rhagweld y byddai'n gwario £10.2m yn llai na'r disgwyl.

Mae'r adroddiad yn disgrifio sut y gwnaed cofnodion cyfrifyddu anghywir yn fwriadol i ddefnyddio rhywfaint o'r gyllideb oedd heb ei wario yn 2021/22.

Roedd hyn ar gyfer eitemau "yn ymwneud â gwariant neu wasanaethau ar ôl diwedd y flwyddyn", neu ar eitemau "na ddylent fod wedi cael eu cydnabod yn ddilys" fel treulia'r flwyddyn honno.

Roedd y llywodraeth wedi dweud wrth fyrddau iechyd nad oedden nhw'n bwriadu cymryd arian oedd heb ei wario yn 2021/22 yn ôl.

Dywedodd EY nad oedden nhw wedi gweld unrhyw dystiolaeth bod Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth y bwrdd am roi cofnodion cyfrifyddu yn y flwyddyn anghywir.

'Bwriadol'

"Rydym wedi darganfod bod costau wedi'u cofnodi i'r flwyddyn ariannol anghywir neu wedi'u cyfrifo'n anghywir," meddai EY.

"Rydym wedi nodi tystiolaeth bod y cofnodion hyn yn fwriadol, ac nad oedd y camddatganiadau wedi'u cyfyngu i un unigolyn neu dîm."

Dywedodd yr adroddiad: "Mae methiannau diwylliannol systematig wedi bod yn y tîm cyllid ac arweinyddiaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a bydd angen rhaglen o newid."

Fe wnaeth ymchwilwyr ganfod bod eitemau o offer meddygol fel cadeiriau olwyn a phympiau ar gyfer diferion mewnwythiennol wedi'u harchebu a'u cynnwys yng nghyfrifon 2021/22, er na wnaethon nhw gyrraedd tan ymhell i'r flwyddyn ariannol ganlynol.

Pwysleisiodd awduron yr adroddiad nad oedden nhw'n gweld "unrhyw dystiolaeth o fudd personol uniongyrchol o ganlyniad i'r camddatganiadau hyn".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y bwrdd iechyd eu bod nhw'n delio gyda'r materion a godwyd yn adroddiad EY

Roedd adroddiad EY hefyd yn honni bod eu gwaith nhw ac Archwilio Cymru wedi'i rwystro oherwydd bod "dogfen wedi'i newid a ffeil wedi'i dileu".

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Mae rheolaeth y materion a godwyd yn adroddiad EY yn symud ymlaen yn unol â gweithdrefnau a pholisïau presennol.

"Mae hyn yn dilyn casgliad ymchwiliad Atal Twyll GIG Cymru yn ymwneud â barn amodol yr Archwilydd Cyffredinol ar gyfrifon ariannol 2021-22 y bwrdd iechyd.

"Mae'n amhriodol gwneud sylw ar statws unrhyw weithwyr ar hyn o bryd."

Cafodd Betsi Cadwaldr eu dychwelyd i fesurau arbennig ym mis Chwefror yn dilyn cyfres o fethiannau, gan gynnwys ar wasanaethau brys a fasgiwlar.

Bu adroddiad hefyd oedd yn hynod feirniadol o'r ffordd yr oedd yn cael ei redeg.