Caffi'r Ogia yn gyfle i ddynion siarad am iechyd meddwl
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Gallai'r erthygl hon beri gofid. Mae'n cyfeirio at ddibyniaeth a hunanladdiad
Mae stigma yn dal i atal nifer o ddynion rhag siarad am broblemau iechyd meddwl, yn ôl grŵp newydd sydd wedi'i sefydlu ym Mhen Llŷn.
Nod Caffi'r Ogia ydy cynnig gofod a chyfle i ddynion o bob oed siarad yn agored am eu heriau iechyd meddwl.
Yn ôl sylfaenydd y grŵp, Chris Rees o Forfa Nefyn, mae 'na le o hyd i helpu dynion siarad am broblemau sy'n effeithio arnyn nhw.
Mae'n gobeithio ehangu'r grŵp dros y misoedd nesaf er mwyn cynnig gweithgareddau a chyfleoedd newydd i bobl.
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd19 Mehefin
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd
Am flynyddoedd roedd Chris Rees, sy'n 50, yn ddibynnol ar alcohol ac fe sefydlodd grŵp ar-lein sy'n dod â phobl â dibyniaeth debyg at ei gilydd.
Tra bod gan y grŵp yna filoedd o aelodau erbyn hyn, roedd yn teimlo bod angen grŵp oedd yn rhoi cyfle i bobl siarad wyneb yn wyneb yn eu hardal
Ar ôl derbyn negeseuon gan ddynion lleol, sefydlodd Caffi'r Ogia ac mae'r grŵp yn mynd o nerth i nerth.
"Mae merched yn reit dda am siarad am eu problemau... yn lot gwell na dynion," meddai Chris Rees.
"Dros yr haf, dwi 'di cael rhyw bump neu chwech o ddynion yn cysylltu efo problemau fel smocio gormod o canabis a phroblemau iechyd meddwl a rhai yn suicidal.
"'Da ni 'di cwrdd fyny ac mae 'di helpu dipyn ohonyn nhw.
"Mae hwn 'di bod yn rhywbeth o'n i isho 'neud ers blynyddoedd - cael grŵp jest i'r hogia' i ddod at ei gilydd i siarad mewn lle saff a siarad am ein problemau.
"Ma'n anodd i gael dynion i siarad," meddai.
Er bod y grŵp yn weddol newydd, y gobaith ydy trefnu digwyddiadau awyr agored a gwneud gwaith gwirfoddol fel cerdded, garddio a nofio.
Un sy'n dod i'r grŵp ydy Ethan Evans, sy'n 22 oed.
Treuliodd gyfnod yn yr ysbyty eleni gydag anhwylder iechyd meddwl.
Wrth drafod ei brofiad, mae'n dweud iddo weld canfod cymorth proffesiynol yn heriol ar adegau gyda gwasanaethau dan bwysau.
'Gallu bod yn anodd cael help'
Mae'n dweud bod Caffi'r Ogia wedi cynnig cyfle newydd iddo.
"Dwi'n gwybod bod o'n gallu bod yn anodd cael help," meddai.
"A hefyd, doeddwn i ddim eisiau siarad oherwydd o'n i'n teimlo bo fi'n cael fy mhwshiad i bob cyfeiriad heb yr help oeddwn i eisiau.
"'Swn i'n licio deud does 'na ddim stigma... a dwi'n meddwl bod ni'n dechrau sylwi fel dynion a fel cymdeithas nad ydan ni'n siarad."
Mae'n dweud fod y grŵp wedi cynnig cefnogaeth hollbwysig iddo.
Mae William Hughes Jones, sy'n 50 oed, yn dweud ei fod wedi cael problemau iechyd meddwl ers iddo fod yn blentyn.
Ar ôl i berthynas ddod i ben yn gynharach eleni, mi benderfynodd ofyn am help a dod o hyd i Caffi'r Ogia yn lleol.
"O'n i 'di bod yn smocio canabis ers 35 o flynyddoedd," meddai.
"Nes i sylweddoli bod gen i broblem canabis a bo' fi angen help i stopio."
Megis dechrau mae Caffi'r Ogia, ond gobaith Chris Rees yn y pen draw ydy cynnig mwy o weithgareddau ac ehangu'r ddarpariaeth.
"'Di o ddim jest am ffocysu ar y problemau ond 'da ni eisiau clywed gan bobl sy'n byw bywyd positif hefyd."
Os ydy cynnwys yr erthygl wedi effeithio arnoch chi, ewch i BBC Action Line
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2023