Ateb y Galw: Elin Tomos

Elin TomosFfynhonnell y llun, Elin Tomos
  • Cyhoeddwyd

Mae Elin Tomos yn enw cyfarwydd i ddarllenwyr erthyglau hanes BBC Cymru Fyw.

Mae hi hefyd yn awdur ac wedi cyflwyno tair cyfres ar hanes i BBC Radio Cymru.

Yn wreiddiol o Nant Peris mae Elin bellach yn gweithio fel cynhyrchydd i Cwmni Da.

Yn ddiweddar cafodd Elin ei henwi ar restr 30 o dan 30 y cylchgrawn History Extra. Rhestr yw hon sy'n cydnabod cyfraniad sylweddol pobl dan 30 oed i hanes.

Dyma gyfle i ddod i 'nabod Elin ychydig yn well.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Cael fy mhigo gan wenyn ar wylia’ yn Llydaw a Gwen (fy chwaer fawr) yn trio fy nghysuro.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Dw i wrth fy modd hefo traeth Porth Ceiriad ym Mhen Llŷn ond does ‘na ddim dwywaith mai yn Dyffryn Peris ma’ ‘nghalon i: cerdded wrth yr afon yn Nantperis, nofio yn Llyn Padarn, crwydro Chwarel a choedlan Dinorwig a does ‘na ddim curo’r olygfa o fynyddoedd Eryri o ‘Sbyty Chwarel Dinorwig. Dw i’n ffeindio ryw lonyddwch rhyfeddol ym mhob un o’r llefydd ‘ma.

Ffynhonnell y llun, Elin Tomos
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r olygfa mae Elin yn ei disgrifio fel un o'i hoff rai yng Nghymru

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Pan es i hefo criw coleg i Magaluf yn 2019 a thaflu hen-do ffug i Mirain un o fy ffrindia’ er mwyn cael diodydd am ddim!

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Doeth. Dwl. Sentimental.

Ffynhonnell y llun, Elin Tomos
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y gwyliau yn Magaluf yn 2019 yn un fythgofiadwy i Elin a'i ffrindiau

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Pasio fy mhrawf gyrru o’r diwedd ar ôl y 5ed tro!

Dw i erbyn hyn yn gallu chwerthin ar y troeon nes i fethu hefyd.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Ar drip ysgol ym Mlwyddyn 10 i ochra’ Harlech nes i ddisgyn mewn i gors ofnadwy o fwdlyd a dwfn!

O’n i fatha Dawn French yn y bennod ‘na o Vicar of Dibley pan mai’n neidio yn y pylla’ dŵr.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Wythnos diwethaf yn gwrando ar Desert Island Discs yr actor Jamie Dornan yn trafod am ei fagwraeth yn Belfast yn ystod y Troubles ac am golli ei fam yn ifanc.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Syrthio i gysgu tra’n gwylio ffilm!

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Dw i’n gwrando ar lot o bodlediadau – rhai bwyd a hanes yn bennaf. Dw i’n licio Dish a Comfort Eating with Grace Dent o ran bwyd a You’re Dead to Me, Afterdark, A Short History of… o ran hanes.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?

Uwchben fy nesg adra’ mae gen i ffotograff o’n hen, hen, hen Nain a Taid – John a Betsan Roberts – a’u plant gan gynnwys fy hen, hen Nain, Magi wedi’w fframio.

Mi fyswn i wrth fy modd yn cwrdd â nhw! Mae’r ffotograff wedi cael ei dynnu tua canol y 1890au dw i'n meddwl. Mi fyswn i’n licio eu holi am eu bywyd a gweld os ydw i yn debyg iddyn nhw.

Ffynhonnell y llun, Elin Tomos
Disgrifiad o’r llun,

Dyma lun o deulu Elin gafodd ei dynnu yng nghanol y 1890au

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dw i’n licio casglu hen ddarna o blatia’ pan dw i’n mynd am dro.

Ffynhonnell y llun, Elin Tomos
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elin wrth ei bodd yn casglu darnau o hen blatiau wrth fynd am dro

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Mynd i nofio ar y traeth, cael llwyth o fwyd yn y tŷ hefo’n nheulu a’n ffrindia’ a gorffen y noson rownd tafarndai Caernarfon.

Ffynhonnell y llun, Elin Tomos
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r llun mae Elin yn ei drysori fwyaf o'i chasgliad, llun o'i diweddar nain a'r colomenod

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Llun o Nain wedi ei gorchuddio mewn colomennod! Mi o’dd Nain yn dynnwr coes heb ei hail ac yn licio g’neud i bobol chwerthin.

Dw i’n teimlo bod y llun yma yn crynhoi ei phersonoliaeth hwyliog i’r dim. Mi nes i golli Nain yn ystod y cyfnod clo a dw i’n cael lot o gysur yn sbïo ar y llun yma ohoni.

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Taylor Swift.

Pynciau cysylltiedig