Beth ddaeth y Rhufeiniaid gyda nhw i Gymru?
- Cyhoeddwyd
Ddwy fil o flynyddoedd yn ôl pan ddaeth y Rhufeiniaid i Gymru, fe adeiladon nhw Sarn Helen - A470 ei dydd.
Hyd heddiw, mae'n bosib mai dyma'r lôn sythaf o'r gogledd i'r de. Mae'r hen ffordd Rufeinig yma'n ymestyn 160 milltir ac yn cychwyn o Gaerhun yn y gogledd i Gaerfyrddin yn y de.
Mewn cyfres newydd ar BBC Sounds, y naturiaethwr Iolo Williams sy'n cerdded rhannau ohoni gan ddysgu am ei hanes yng nghwmni arbenigwyr.
Do, mi ddaeth y Rhufeiniaid â lôn bwysig iawn i Gymru. Ac ers eu concwest, mae eu holion o hyd ar ein tirlun, eu dylanwad ar ein hiaith ac hyd yn oed ar ein ffordd o fyw!
Dyma bum peth ddysgodd Iolo Williams wrth droedio Sarn Helen.
Mae chwareli bychain ar hyd Sarn Helen
Yn ôl yr archeolegydd Rhys Mwyn, un o'r ffyrdd sy'n ein galluogi i adnabod ffordd Rufeinig yw ei bod hi'n mesur pum medr ar draws.
Roedd y Rhufeiniaid yn codi'r tir ac yn adeiladu'r lôn fetr yn uwch na'r ddaear oddi tani. Ac i adeiladu'r lôn roedd angen cerrig, a dyna sy'n egluro pam bod chwareli bychain i'w canfod ar hyd Sarn Helen.
Rhys Mwyn sy'n egluro sut mae modd cadarnhau ffordd Rufeinig drwy dynnu lluniau o'r awyr:
"Petaen ni'n mynd i fyny mewn hofrenydd ac edrych ar y tir be' fasan ni'n ei weld fasa y chwareli bychain yma, pum medr o wyneb y ffordd yn wynebu y ffordd Rufeinig.
"Felly munud wyt ti'n gweld rhain drwy awyrlunia, maen nhw ar hyd Sarn Helen, ti'n gallu cadarnhau wedyn bo' ni'n gywir heb gloddio. Mae rheina yn gliw pwysig iawn."
Y Rhufeiniaid sydd wedi rhoi'r gair 'Pont' i ni
A fo ben bid bont! Dyna ddywedodd Bendigeidfran yn chwedl Branwen wrth iddo orwedd ar draws yr afon i fod yn bont i'w filwyr.
Ond y Rhufeiniaid nid y Celtiaid gyflwynodd y gair pont i'r Gymraeg. Daw 'pont' o'r gair Lladin 'pontis'.
Dr Leona Huey, darlithydd mewn treftadaeth ym mhrifysgol Bangor sy'n egluro sut roedd gan y Rhufeiniaid arbenigwyr i adeiladu ffyrdd a phontydd:
"Mae o'n broject reit anhygoel i adeiladu ffordd yn null y Rhufeiniaid.
"Mae yna bump haen i lôn Rufeinig. Roedd yr haen gyntaf wedi ei greu o dywod a cherrig bach, yna roedd yr ail haen wedi ei wneud o gerrig mwy i wneud yn siŵr fod y ffordd yn sefydlog.
"Y trydydd haen wedyn oedd cymysgedd o galch a rwbel.
"Yna roedden nhw'n isio rhywbeth reit gadarn oedd ddim yn mynd i symud na'i ddinistrio gan ddŵr felly nucleus oedd y pedewerydd haen, sydd fel concrid i ni heddiw.
"Mae hynna yn creu sylfaen reit dda i bumed haen sef cerrig mawr oedd yn cael eu gosod yn dynn at ei gilydd ac yn creu llwybr esmwyth i filwyr gerdded arno."
Yn ôl Leona, roedd ganddyn nhw adrannau arbenigol yn eu byddin i adeiladu ffyrdd ac adran hefyd i adeiladu pontydd.
Eglura: "Cyn i'r Rhufeiniaid gyrraedd doedd ganddon ni ddim gair am bont achos doedd ganddon ni ddim y dechnoleg. Felly mae pont yn air Lladin – nhw sydd wedi dod â'r dechnoleg yna i ni."
Roedd Trawsfynydd yn ardal o bwys i'r Rhufeiniaid
Ar safle caer Rufeinig Tomen y Mur ger Trawsfynydd mae olion gwersylloedd martsio, amffitheatr, beddau ac olion vicus (anedd).
Mae'n amlwg i Domen y Mur fod yn safle pwysig i'r Rhufeiniaid. Wrth i Iolo gamu oddi ar Sarn Helen i ymweld â'r safle, Rhys Mwyn sy'n egluro pam:
"Tu allan i'r gaer mae yna ddau beth - mae'r amphitheatr ger y ffordd lle oeddan nhw yn ymarfer fel milwyr a wedyn yn y darn yma yn y caeau naill ochr i'r sarn, mae yna be' maen nhw yn ei alw yn vicus sef pentref brodorol.
"Felly deud bod yna 500 o filwyr yn fan hyn – mae yna ddigon o reswm i rai o'r Celtiaid lleol, entrepreneurs ddod yma i werthu ac i fasnachu efo nhw a falla bo' nhw yn paratoi belts, sandals, dillad...
"Mae'n rhaid hefyd fod milwyr Tomen y Mur yn delio efo'r ffermwyr lleol i gael eu bwyd yn dydyn – i gael eu grawn.
"Dydi o ddim jest yn goncwest Rufeinig – roedd y Rhufeiniaid yn ddibynnol ar bobl leol i'w bwydo nhw."
'Gwisg genhinen yn dy gap a gwisg hi yn dy galon' - diolch i'r Rhufeiniaid!
Yn ôl pob sôn roedd Dewi Sant yn byw ar gennin, y llysieuyn â gysylltwn gyda Chymreictod.
Ond roedd y Rhufeiniaid yn bwyta cennin cyn y Celtiaid, fel mae Dr Leona Huey yn egluro:
"Mi oedd y Rhufeiniaid yn bwyta lot o betha gwahanol i'r bobl Celtaidd Oes Haearn ac nathon nhw ddod â lot o fwydydd newydd i Gymru ac i Brydain yn gyffredinol.
"Mae'r holl syniad o gig game hefyd - roedd y ceirw yma'n barod ond yr hen Rufeiniaid ddaeth â chwningod, ffesantod a sgwarnogod yma.
"Maen nhw hefyd yn dod â lot o lysiau newydd – nionyn, cennin, moron.
"Maen nhw'n dod â gwin hefyd – mi oedd yna gwrw yma ond dim gwin felly wnaethon nhw ehangu ar be' oedd pobl Oes Haearn yn ei fwyta a'i yfed.
"Cyn iddyn nhw gyrraedd roedd y rhan fwyaf o fwyd yn wrawnfwyd, pys a ffa. Ac o ran cig - moch a defaid fyddai'r Celtiaid yn ei fwyta. Doedden nhw ddim yn bwyta llawer o wartheg."
O dai crwn i ystafelloedd sgwâr
Lonydd, bwyd a rŵan ystafelloedd... rhywbeth arall wnaeth y Rhufeiniaid ei gyflwyno i ni. Cyn i'r Rhufeiniaid gyrraedd Cymru, byddai'r hen Gymry'n byw mewn cytiau crwn ac yn cyd-fyw â'i gilydd o flaen y tân:
"Rwbath mae'r Rhufeiniaid yn gyfrifol amdan ydy newid yr holl syniad ar sut 'dan i'n defnyddio gofod yn ein bywydau dydd i ddydd," meddai Dr Leona Huey.
"Cyn iddyn nhw gyrraedd roedd pawb yn byw mewn cytia crwn – oedd popeth yn cael ei wneud yn yr un ystafell, cysgu, coginio, hyd yn oed mynd i'r tolied os ti'n edrych ar be' 'dan i'n ffeindio yn y pridd.
"Ar ôl iddyn nhw gyrraedd 'dan i'n symud i dai sgwâr efo ystafelloedd gwahanol am wahanol bwrpas - dyna ydi'r model 'dan ni'n ei ddefnyddio heddiw yn ein bywyda'.
"Ond os ti'n edrych yn fwy eang yn anthropolegol, mae lot o bobl dal yn byw yn y tai crwn yna. Dyna lle mae ein gwreiddiau ni, yn yr un gofod efo'n gilydd.
"Nid plant i fyny grisiau yn chwara playstation, a rhieni i lawr grisiau yn gwylio teledu – 'dan ni gyd yn yr un 'stafell o gwmpas y tân a dwi'n teimlo bod yna rwbath wedi ei golli yn fan'na yn anffodus."
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd