Y Cymro a welodd Vesuvius yn ffrwydro yn 1944
- Cyhoeddwyd
Fis Mawrth 1944 oedd y tro diwethaf i’r llosgfynydd Vesuvius ffrwydro, ac roedd Cymro ifanc – a’i gamera – yn dyst i’r cyfan.
Mae’r lluniau a dynnodd Dafydd Jones o’r ffrwydrad bellach yn nwylo ei fab, Emlyn Penny Jones, sydd yn ddiweddar wedi bod yn ôl i’r ardal yn ne’r Eidal i weld lle’r oedd ei dad yn gweithio yn ystod y Rhyfel.
O Ddinorwig i'r Eidal
Ganed Dafydd (neu David ar ei dystysgrif geni) yn Lerpwl ym mis Medi 1918 i deulu Cymraeg. Arhosodd y teulu yno am ddwy flynedd arall, cyn dychwelyd i Gymru i ardal Dinorwig yn Nyffryn Peris.
Gadawodd Dafydd Ysgol Brynrefail wedi ei Lefel O, a gyda phwysau arno i ennill cyflog, aeth i weithio fel gof ifanc yn y cei yng Nghaernarfon.
Fe ymunodd â'r Llu Awyr Brenhinol (RAF), ym mis Ebrill 1941, eglurodd Emlyn.
“Enlistiodd fel gof a weldar. Oedd o 'di bod yn Sain Tathan ger Y Barri, ac wedi cael bach o hyfforddiant yn fan’na, ac wedyn wedi bod yn Scapa Flow, yn yr Orkneys yng ngogledd yr Alban."
Erbyn ail hanner 1943 cafodd Dafydd ei symud, fel aelod o'r RAF yn y North West African Airforce, a'i leoli ger Napoli yn ne'r Eidal.
“Roedd yn amlwg yn mwynhau ei gyfnod yn yr Eidal ac yn ei waith yn trwsio peiriannau a cherbydau," meddai Emlyn, "ac roedd cyfrifoldeb ganddo dros griw o Eidalwyr a oedd yn gymorth iddo gyda'r gwaith yma."
Ffrwydrad
Roedd Dafydd yn gweithio yn yr ardal yma yn Castellammare, rhwng Napoli a Sorrento, pan fu digwyddiad ym mis Mawrth 1944 a oedd yn anghyffredin ac yn ddychrynllyd yr un pryd. Natur oedd yn gyfrifol, nid y rhyfel; ar 17 Mawrth, ffrwydrodd y llosgfynydd Vesuvius.
Mae’r llosgfynydd fwyaf adnabyddus am y dinistr ofnadwy achosodd pan ffrwydrodd yn 79 AD; mae trefi Pompeii a Herculaneum yn gyrchfannau i dwristiaid hyd heddiw, gan eu bod wedi eu rhewi mewn amser yn dilyn y danchwa.
Roedd y ffrwydrad yn 1944 yn llawer llai, ond roedd yna dal ddinistr mawr yn yr ardal.
“Dyma'r ffrwydrad gwaetha ers 1872," eglurodd Emlyn, "a bu'r fyddin - yr Americanwyr a'r Cynghreiriaid - yn helpu i achub y trigolion lleol.
"Yn ardal San Sebastiano bu'n bwrw cerrig maint peli basged, gyda llif araf o gerrig folcanig, lafa a gwastraff yn claddu a llosgi popeth yn ei lwybr. Lladdwyd 26 o Eidalwyr, a cafodd 12,000 o bobl eu hadleoli.
“Bu farw y rhan fwyaf ger Salerno, gyda disgyniad trwm o ludw oedd yn ormod i doeau'r tai. Fe gafodd nifer helaeth o awyrennau Llu Awyr yr Americanwyr eu dinistrio hefyd."
Tynnodd Dafydd luniau o'r digwyddiad anhygoel. Mae ei luniau yn dangos pa mor agos oedd gwersyll RAF Castellammare at Vesuvius, yn enwedig y lluniau yn y nos o'r llif folcanig; golygfa eithaf brawychus i lanc ifanc o ogledd Cymru!
Nôl i'r Eidal
Bu Dafydd yn yr Eidal am weddill y rhyfel a chafodd ddyrchafiad yn Gorporal, ac fe adawodd yr RAF ym mis Mai 1946.
Wedi'r rhyfel aeth i weithio i Birmingham yn adeiladu trenau ar gyfer yr Underground yn Llundain. Fe briododd Margaret yn y Capel Cymraeg yno, ac wedi cyfnod byr dychwelyd i Sir Gaernarfon.
Dydi Emlyn ddim yn cofio sgyrsiau mawr gyda’i dad am y profiad o weld Vesuvius yn ffrwydro, ond mae’n rhaid fod ambell i stori wedi cael ei basio i lawr dros y blynyddoedd am ei gyfnod yn Yr Eidal, meddai.
“O’dd o wedi sôn dipyn am Sorrento, ond yn anffodus dwi’m yn cofio cael sgyrsiau mawr efo fo am y lle. Mae’n siŵr eu bod nhw’n mynd i lawr ar y trên i Sorrento ac i’r ardal yna."
Yn ddiweddar, aeth Emlyn draw ar wyliau i’r Eidal, a chael mynd am y diwrnod i Castellammare, i gael gweld lle’r oedd ei dad wedi treulio amser yn ystod y Rhyfel.
“Mae o wastad wedi bod yng nghefn fy meddwl i mod i eisiau mynd. Pan es i draw 'na ym mis Medi, es i i Castellammare a chael cerdded rownd. Es i i fyny ar y cable car, ac o’n i’n gallu gweld yr holl ardal, oedd yn drawiadol."
Cafodd sgwrs am y llosgfynydd gydag ambell i berson lleol, meddai; mae’n parhau yn bwnc trafod, gyda rhai yn poeni bod ffrwydrad arall ar y gweill rhywbryd.
“Mae 'na adeiladu wedi digwydd dros y blynyddoedd, yn agos iawn ato fo eto; mae’n amlwg fod yna bobl yn bryderus am hynny," meddai.
“Bellach mae Vesuvius yn cael ei ystyried yn un o'r llosgfynyddoedd sy'n cael ei 'wylio' fwyaf yn y byd, gyda'r sensors yn gallu rhoi rhybudd o bythefnos fod ffrwydrad yn debygol. Mae hynny'n ddigon o amser i symud y 600,000 o bobl sydd fwyaf mewn perygl ac yn byw o fewn 15km i'r llosgfynydd."
Y dyddiau yma, byddai unrhyw luniau o ffrwydrad hyd yn oed yn gliriach na rhai Dafydd, ond gobeithio na fydd neb yn gorfod bod yn dyst i ffrwydrad arall yn y dyfodol agos...
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd
- Cyhoeddwyd5 Mawrth
- Cyhoeddwyd24 Ionawr