Sherratt yn gadael Caerdydd i fod yn hyfforddwr ymosod Cymru

Matt SherrattFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Matt Sherratt bod cyfle i herio'i hun ar lefel ryngwladol yn un rhy dda i'w wrthod

  • Cyhoeddwyd

Mae prif hyfforddwr Rygbi Caerdydd Matt Sheratt yn gadael y clwb rhanbarthol i ymuno â thîm hyfforddi Cymru.

Mae wedi cael penodiad llawn amser fel hyfforddwr ymosodwyr y tîm cenedlaethol.

Sherratt, 47, oedd prif hyfforddwr dros dro Cymru ar gyfer tair gêm olaf Cymru yn y Chwe Gwlad eleni, yn dilyn ymadawiad Warren Gatland.

Roedd hefyd wrth y llyw ar gyfer taith Cymru i Japan ym mis Gorffennaf.

Mae bellach yn rhan o dîm cynorthwyol cyn-hyfforddwr y Gweilch, Steve Tandy, a ddechreuodd ar ei waith fel prif hyfforddwr Cymru ddechrau Medi.

"Roedd hwn yn amlwg yn benderfyniad anodd oherwydd mae Caerdydd wir yn glwb sy'n golygu llawer i mi a fy nheulu, ac mae hefyd yn glwb sy'n mynd i'r cyfeiriad cywir," dywedodd Sheratt.

"Er hynny, dyw cyfleoedd yn y gêm ryngwladol ddim yn codi'n aml ac mae'r cyfle i herio fy hun ar y lefel uchaf, er yn dychwelyd i rôl mwy ymarferol, yn rhywbeth na allwn ei wrthod."

Bydd hyfforddwyr cynorthwyol Sherratt yng Nghaerdydd - Corniel van Zyl, Jonny Goodridge, Scott Andrews a Gethin Jenkins - yn rheoli'r rhanbarth dros dro, wrth i'r tîm chwarae eu gêm gyntaf yn nhymor newydd y Bencampwriaeth Rygbi Unedig (URC) yn erbyn y Lions ddydd Sadwrn.

Mae proses adolygu ar droed, medd y clwb, er mwyn penodi hyfforddwr parhaol.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.