Steve Tandy yn cael ei enwi yn brif hyfforddwr nesaf rygbi Cymru

Mae cytundeb Steve Tandy yn parhau hyd at Gwpan Rygbi'r Byd 2027 yn Awstralia
- Cyhoeddwyd
Mae Undeb Rygbi Cymru (URC) wedi cyhoeddi mai cyn-hyfforddwr y Gweilch, Steve Tandy, fydd prif hyfforddwr nesaf tîm rygbi dynion Cymru.
Roedd URC yn chwilio am olynydd parhaol i Warren Gatland, ar ôl i Matt Sherratt gymryd y llyw dros dro yn ystod y Chwe Gwlad a'r daith i Japan dros yr haf.
Tandy oedd y ffefryn am y swydd wedi iddi ddod i'r amlwg ym mis Ebrill ei fod yn cael ei dargedu gan yr Undeb.
Dywedodd URC y byddai Tandy yn dechrau yn ei rôl ar 1 Medi ac yn arwain Cymru i Gwpan Rygbi'r Byd 2027 yn Awstralia.
'Braint enfawr'
Bydd Tandy yn etifeddu tîm sy'n 12 ar restr detholion y byd ac sydd newydd ddod â rhediad o 18 gêm heb ennill i ben.
Ar hyn o bryd Tandy, 45, yw hyfforddwr amddiffyn yr Alban ac mae wedi creu cryn argraff yno dros y chwe blynedd diwethaf.
Roedd y gŵr o ardal Tonmawr yng Nghastell-nedd Port Talbot yn rhan o dîm hyfforddi Warren Gatland ar gyfer taith y Llewod i Dde Affrica yn 2021.
Fe dreuliodd gyfnod fel hyfforddwr amddiffyn i dîm y Waratahs yn Awstralia hefyd.
"Mae dod yn brif hyfforddwr fy ngwlad yn anrhydedd ac yn fraint enfawr," meddai Tandy.
"Rwy'n edrych ymlaen at chwarae rhan yn y cyfnod ailadeiladu o fewn rygbi Cymru a dod â'r tîm cenedlaethol yn ôl i gystadlu gyda'r timau gorau yn y byd.
"Rwy'n gyffrous am botensial rygbi Cymru a'r grŵp o chwaraewyr ifanc, gweithgar sydd gennym.
"Mae'r gemau yn yr hydref yn gyfle enfawr ac yn rhoi cyfle i ni brofi ein hunain yn erbyn rhai o dimau gorau rygbi'r byd."

Bydd Tandy yn arwain Cymru am y tro cyntaf yn erbyn yr Ariannin yn yr hydref, cyn wynebu Japan, Seland Newydd, a De Affrica
Cafodd ei ddiswyddo fel prif hyfforddwr y Gweilch yn 2018 ar ôl cael ei benodi i'r swydd yn 2012 yn 32 oed.
Roedd y cyn-flaenasgellwr, chwaraeodd dros 100 o gemau i'r Gweilch, wedi ennill teitl y Pro12 yn ei dymor cyntaf fel hyfforddwr.
"Rydym yn falch iawn o benodi Steve fel prif hyfforddwr newydd Cymru," meddai prif weithredwr URC, Abi Tierney.
"Ar ôl proses benodi fanwl a thrylwyr, daeth Steve i'r amlwg fel yr ymgeisydd gorau, ac rydym yn gwybod ein bod wedi sicrhau'r hyfforddwr gorau posibl ar gyfer y swydd.
"Mae hon yn benodiad allweddol i ni ac yn rhan annatod o'n strategaeth bum mlynedd wrth i ni geisio llwyddiant cynaliadwy i'n tîm dynion hŷn.
"Mae Steve yn addas iawn o ran y berthynas y gall ei chreu gyda grŵp ifanc o chwaraewyr talentog, ond hefyd yr effaith gadarnhaol y gwyddom y gall ei chael ar ecosystem gyfan rygbi fel Cymro balch.
"Ein tasg nawr yw sicrhau bod gan Steve y gefnogaeth a'r adnoddau sydd eu hangen arno i lwyddo yn y rôl hon."
Bydd Tandy yn arwain Cymru am y tro cyntaf yn erbyn yr Ariannin yn Stadiwm Principality ar 9 Tachwedd, cyn wynebu Japan, Seland Newydd, a De Affrica yng ngweddill gemau'r hydref.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd13 Chwefror
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf