Danny Wilson yn gadael Harlequins i ymuno â thîm hyfforddi Cymru

Mae Danny Wilson wedi bod yn hyfforddi gyda Harlequins ers 2023
- Cyhoeddwyd
Mae Danny Wilson wedi cael ei benodi yn hyfforddwr cynorthwyol i Steve Tandy, prif hyfforddwr newydd tîm rygbi dynion Cymru.
Fe wnaeth Wilson, 49, weithio gyda'r tîm cenedlaethol ar y daith i Japan yn ystod yr haf fel hyfforddwr blaenwyr ond mae bellach wedi ei benodi yn aelod parhaol o'r tîm rheoli.
Mae Wilson yn gyn-brif hyfforddwr ar dîm dan-21 Cymru a fo yw penodiad cyntaf Tandy ers iddo gamu i'r swydd.
Bu Wilson hefyd yn hyfforddi gyda'r Alban rhwng 2018 a 2020.
"Mae hwn wedi bod yn benderfyniad anodd iawn i mi ei wneud gan fy mod i wedi mwynhau fy amser gyda Quins yn fawr, ond roedd y cyfle i ymuno â Chymru a dychwelyd i rygbi rhyngwladol yn gyfle rhy dda i'w wrthod," meddai.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl