'Siarad Cymraeg yn well na Saesneg ar ôl cael strôc'

Disgrifiad,

Yn ôl Sian Teagle, roedd ei Chymraeg hi'n well na'i Saesneg wedi'r strôc

  • Cyhoeddwyd

Mae dynes a dreuliodd dri mis yn yr ysbyty ar ôl cael strôc yn dweud fod prinder gwasanaethau ar gael iddi hi yn y Gymraeg.

Fe gafodd Sian Teagle, 50 oed o Fargoed yn Sir Caerffili, strôc ym mis Rhagfyr 2022.

Dywedodd ei bod yn gwerthfawrogi’r gofal a'r gefnogaeth yn ystod ei chyfnod yn yr ysbyty.

Ond mae'n poeni na chafodd hi gynnig gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, maen nhw wedi ymrwymo i wella cefnogaeth i’r rhai sydd wedi goroesi strôc, ac mae darparu gwasanaethau yn Gymraeg yn rhan allweddol o hyn.

Eglurodd Ms Teagle fod y salwch wedi ei tharo yn gwbl annisgwyl.

"Es i’r gwely gyda phen tost, ac wedyn wnaeth larwm fynd ffwrdd fel yr arfer er mwyn i fi fynd i’r gwaith ond o'n i ffili symud," meddai.

"Ffoniodd fy merched yr ambiwlans ac fe wnaethon nhw ddweud bo' fi wedi cael strôc.

"Roedd yn amser hir. Fe ges i Ddolig yn yr ysbyty.

"Ar ôl dod adref fe wnaeth physios ddod mewn ac fe ddaeth pobl eraill hefyd i helpu.

"Roedd yna gyfarfod bob wythnos i wneud ymarferion a hynny ar y we."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sian Teagle bod ei Chymraeg yn well na'i Saesneg ar ôl y strôc

Doedd Ms Teagle ddim wedi gofyn am help yn y Gymraeg, meddai, am nad oedd hi'n sylweddoli ei fod ar gael.

Ond mae'n credu bod cynnig therapi lleferydd ac iaith yn Gymraeg yn hanfodol i siaradwyr yr iaith.

Wrth edrych yn ôl, mae hi'n bendant y byddai cymorth o'r fath wedi bod yn help iddi wrth wella.

"Yr unig bobl oedd yn siarad Cymraeg oedd fy nheulu," meddai. "Doedd neb arall yn siarad Cymraeg gyda fi."

Ychwanegodd Ms Teagle bod ei Chymraeg yn well na'i Saesneg ar ôl y strôc.

"Fy merch hynaf wnaeth sylweddoli bod fy Nghymraeg yn well na fy Saesneg.

"Hi ddywedodd ei bod hi'n sylwi bo fi yn slurrio yn Saesneg yn enwedig pan bo' fi 'di blino.

"Ond roedd fy Nghymraeg wastad yn glir."

Disgrifiad o’r llun,

Mae gwasanaethau strôc ddwyieithog yn "ychydig o loteri cod post", meddai Llinos Wyn Parry

Mae'r Gymdeithas strôc yn dweud y dylid "cynnig gwasanaeth Cymraeg i oroeswyr strôc sy'n siarad Cymraeg er mwyn sicrhau cydraddoldeb".

Comisiynodd yr elusen waith ymchwil gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd i ganfod anghenion a phrofiadau goroeswyr strôc sy'n siarad Cymraeg a phwysigrwydd cefnogaeth yn eu hiaith gyntaf, sef Cymraeg.

Dywedodd Llinos Wyn Parry, Arweinydd Ymgysylltu ar gyfer y Gymdeithas Strôc yng Nghymru, fod y sefyllfa yn amrywio o ardal i ardal ar hyn o bryd.

"Os ydyn nhw'n byw yng Ngwynedd a Môn mae’r ddarpariaeth yn dda iawn o safbwynt gwasanaethau dwyieithog," meddai.

"Ond os yn byw mewn ardaloedd eraill, mae yn gallu bod yn ychydig bach o loteri cod post."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ms Teagle yn dweud ei bod hi'n "berson hollol wahanol" ers cael strôc

Mae Sian Teagle yn dal i wella o'r strôc, ond awgrymodd y byddai ei theulu hefyd wedi elwa yn fawr o gael gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Bydde fy mhlant a fy chwaer wedi bod yn fwy hyderus i siarad gyda’r nyrsys a'r doctoriaid yn Gymraeg," meddai.

"A bydde hyd yn oed rhywbeth syml fel cael pawb sydd yn medru'r Gymraeg i wisgo bathodyn a logo iaith gwaith, byddai hynny yn ffantastig."

Gwasanaethau Cymraeg yn 'allweddol'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i gefnogi goroeswyr strôc ac i’w helpu i ailadeiladu eu bywydau. Mae gwasanaethau Cymraeg yn rhan allweddol o hyn.

Mae therapi iaith a lleferydd yn flaenoriaeth i'r cynllun 'Mwy na geiriau', meddai, gan ychwanegu eu bod yn croesawu'r ymchwil i brofiadau goroeswyr strôc sy'n siarad Cymraeg.

"Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi ariannu cwrs therapi Cymraeg ym Mhrifysgol Wrecsam i wella gwasanaethau ar draws Cymru," meddai.

Ychwanegodd fod y llywodraeth wedi buddsoddi mewn adsefydlu ac i gynyddu gweithwyr iechyd proffesiynol, gan gynnwys therapyddion iaith.

Pynciau cysylltiedig