Angen 'mwy o gymorth' i bobl ifanc sy'n cael strôc

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Nia Phillips: "Roedd cael strôc yn erchyll a ches i ddim help"

Mae dynes gafodd strôc yn ei hugeiniau cynnar wedi galw am fwy o help ar gyfer pobl ifanc sydd wedi dioddef o'r cyflwr.

Yn ôl yn 2019 roedd Nia Phillips, sydd bellach yn 24 ac yn wreiddiol o Rydaman, yn astudio Seicoleg yn y brifysgol yn Llundain.

Ond un bore Sadwrn, bythefnos cyn ei phen-blwydd yn 21, fe gafodd hi brofiad wnaeth drawsnewid ei bywyd.

"Pe bai hyn wedi digwydd i fi yn fy 70au rwy'n teimlo buasai fwy o help wedi bod ar gael," meddai.

"O ran cymorth dwi wedi cael dim byd."

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod yn ymrwymedig i wella'r gefnogaeth i'r rhai sydd wedi goroesi strôc, beth bynnag fo oed y claf.

'Dim ond hangover yw e'

"O'n i wedi codi'r bore hwnnw gyda phen tost fel o'n i byth wedi teimlo o'r blaen," meddai Nia, wrth sôn am y diwrnod y cafodd hi'r strôc.

"O'dd y boen yn erchyll - o'n i ffili gweld yn iawn a phrin yn gallu symud o'r gwely.

"Dywedodd y GP mai hangover oedd ar fai ond o'n i yn teimlo bod rhywbeth mawr o'i le."

Wedi i'w mam fynnu bod ei merch yn cael profion yn yr ysbyty, fe ddangosodd y canlyniadau bod Nia wedi cael clot gwaed ar yr ymennydd.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cael gwybod ei bod wedi cael strôc yn sioc i Nia, bythefnos cyn iddi ddathlu ei phen-blwydd yn 21

Yn dilyn y newyddion syfrdanol roedd Nia yn wynebu'r posibilrwydd bod blynyddoedd o wella o'i blaen hi.

Gyda'i bywyd yn y brifysgol ar ben a'i bywyd cymdeithasol ar chwal, mae'n cyfaddef ei bod yn gyfnod tywyll iddi.

"Am tua chwech mis rwy'n credu oedd o heb suddo mewn mai strôc oedd e," meddai.

"O'n i'n teimlo'n flin ac yn rhwystredig achos oedd fy ffrindiau'n dal yn gallu mynd mas a gwneud pethau mae pobl yn eu hugeiniau yn gwneud, ond mwya' sydyn o'n i ddim yn gallu neud hynny."

Angen ymchwil ac arian

O ganlyniad i'r strôc mae Nia Phillips yn dweud ei bod hi wedi dechrau profi cyfnodau o orbryder.

Mae hi'n teimlo byddai'r cyfle i ddod i adnabod pobl o'r un oedran â hi oedd wedi bod trwy brofiad tebyg wedi gwneud iddi deimlo'n llai ynysig.

"Doedd dim byd fel flyers neu daflenni yn cynnig 'dyma grŵp allwch chi fynd i siarad gyda' neu 'dyma sut i ddelio â bywyd gydag effeithiau'r strôc'," meddai.

"Yn sicr mae help mas 'na ond mae o wedi ei deilwra ar gyfer pobl hŷn.

"'Allai ddim helpu teimlo pe bai hyn wedi digwydd i fi yn fy 70au buasai mwy o help wedi bod ar gael... o ran cymorth dwi wedi cael dim byd."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

"Mae nifer o heriau yn wynebu goroeswyr strôc ifanc," medd Nia Phillips

Yn ôl y Gymdeithas Strôc, mae 1.3 miliwn o bobl yn y DU wedi goroesi strôc, gyda bron i 70,000 o rhain yn byw yng Nghymru.

Dywedodd Katie Chappelle, Cyfarwyddwr Cynorthwyol y Gymdeithas Strôc yng Nghymru: "Mae'r Gymdeithas Strôc yma i gefnogi pobl o bob oed i ailadeiladu eu bywydau wedi strôc.

"Mae strôc yn gallu effeithio ar bobl o bob oed. Mae angen ymchwil ac arian pellach fel ein bod ni'n deall be sy'n achosi strôc ymhlith pobl ifanc a chanfod os oes yna fwy o risg i rai grwpiau.

"Ry'n ni hefyd angen cyllid i ariannu triniaeth a gwellhad pobl ifanc sydd wedi goroesi strôc - yn enwedig mewn meysydd sy'n effeithio arnynt fwyaf - fel dychwelyd i waith neu addysg."

Ymchwil pellach

Mae hanes fel un Nia Phillps yn un cyfarwydd i'r elusen Different Strokes sy'n gweithio gyda goroeswyr strôc ifanc.

Yn ôl cyfarwyddwr yr elusen Austin Willet: "Mae'n siomedig clywed am brofiad Nia sydd, yn anffodus, ddim yn anghyffredin i ni.

"Y gwir yw, mae'r profiad o gael strôc yn gallu effeithio pobl be bynnag eu hoedran ac mae'n bwysig bod yna fwy o ymwybyddiaeth o'r ffaith hynny.

"Mae nifer o heriau yn wynebu goroeswyr strôc ifanc - un o'r rheiny yw teimlo'n ynysig a chael hi'n anodd ailymuno â chymdeithas ar ôl gadael yr ysbyty."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry'n yn ymrwymedig i wella'r gefnogaeth i'r rhai sydd wedi goroesi strôc, beth bynnag eu hoed, ac i'w helpu i ailadeiladu eu bywydau a byw'n annibynnol eto mor fuan â phosib - gan gynnwys rhoi cefnogaeth i ddychwelyd i'r gwaith.

"Mae'n datganiad ansawdd ar gyfer strôc, dolen allanol yn amlinellu ein hymrwymiad ac fe fyddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'r Gymdeithas Strôc ac arbenigwyr eraill i sicrhau y cyfleoedd gorau posib."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Nia Phillips na chafodd fawr o gefnogaeth wedi ei strôc yn 2019

Fel un sydd wedi cael strôc yn ifanc, mae Nia Phillips yn croesawu unrhyw ymchwil pellach i strôc ymhlith pobl ifanc.

"Hoffwn weld mwy o gymorth ar gyfer pobl ifanc sydd wedi cael strôc. Mae'n brofiad hynod o traumatic," meddai.

"Fyswn i wedi hoffi cael gwybodaeth yn dweud dyma'r opsiynau sydd ar gael i chi, yr elusennau gwahanol, y clybiau sy'n lleol i ti, tips - pethau bach rwy'n credu fuasai wedi 'neud gwahaniaeth mawr.

"Dwi'n meddwl bod yna fethiant yn y system sydd mewn lle ar hyn o bryd... bod dim cymorth mewn lle i bobl ifanc sydd wedi cael strôc."