Cau capel 'hynod hanesyddol' Llanfaches

LLanfaches
Disgrifiad o’r llun,

Yn Llanfaches yn 1639 y "dechreuodd Ymneilltuaeth go iawn yng Nghymru".

  • Cyhoeddwyd

Mae capel Llanfaches rhwng Casnewydd a Chas-gwent yn un o'r llecynnau mwyaf hanesyddol yng Nghymru gan mai yma yn 1639 y "dechreuodd Ymneilltuaeth go iawn yng Nghymru".

Yn y cyfnod hwn fe benderfynodd y Parchedig William Wroth, a oedd bellach yn Biwritan, bod angen diwygio'r yr hyn a oedd yn digwydd yn Eglwys Loegr ymhellach.

"Doedd o a Phiwritaniaid eraill ddim yn credu bod eglwysi o dan goron Lloegr yn adlewyrchu beth oedd i'w weld yn y Testament Newydd," meddai'r Parchedig Geraint Tudur, sy'n hanesydd a chyn-Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.

"Roedden nhw'n gwrthod y syniad o weinidogaeth esgob, offeiriad a diacon.

"Yn Llanfeches be' oedd gynnyn nhw oedd bugail, athro ac henaduriaid llywodraethol - cynulleidfa fach o bobl oedd yn 'neud cytundeb gyda'i gilydd."

Mae capeli presennol enwad yr Annibynwyr yn parhau i ddilyn trefn hunanlywodraethol debyg.

'Balch o'r hanes'

Perthyn i'r Eglwys Ddiwygiedig Unedig y mae capel hanesyddol y Tabernacl bellach ac wrth i'r aelodau heneiddio a'r gynulleidfa leihau bydd yr adeilad yn cau ddechrau Rhagfyr.

Er bod yna rywfaint o dristwch mae'r aelodau yn edrych yn ôl ar yr hanes a gweithgareddau y blynyddoedd diwethaf gyda balchder.

"Ni'n falch iawn o hanes Llanfeches ac yn ddiolchgar am yr hyn a gafwyd," meddai Eirlys Cowdery, un o'r aelodau.

"Pan yn blentyn ro'n i'n mynd i gapel yr Annibynwyr yn Llan-non yng Ngheredigion ac fe fyddai Mam yn sôn yn aml am hanes Llanfaches.

"Na'th hi erioed ddychmygu y bydden i'n byw o fewn tair milltir i'r capel a hynny am hanner can mlynedd."

Ychwanegodd bod cau'r capel yn anorfod.

"Rydyn ni gyd wedi mynd yn hen a dim ond ryw hanner dwsin sy'n gwneud unrhyw beth 'na nawr ac mae oedfa ond yn cael ei chynnal unwaith neu ddwy y mis.

"Ni'n edrych yn ôl gyda diolchgarwch. Byddwn yn sicrhau na fydd trysorau'r capel yn cael eu colli a gobeithio y gallwn gyfarfod i addoli yn anffurfiol.

"Bydd y gyfeillgarwch yn parhau."

"Rhaid cofio nad oedd sefydlu'r eglwys yn Llanfeches yn 1639 yn golygu llonyddwch na bywyd braf i'r bobl yma - mi oedd hi'n fenter ac o'dd y bobl eu hunain yn fentrus ac yn ddewr," ychwanegodd y Parchedig Geraint Tudur.

Y penwythnos nesaf bydd diwrnod i gofio a dathlu hanes Llanfeches a gwasanaeth carolau.

Un o'r trefnwyr yw'r Parchedig Gwilym Wyn Roberts.

"Yn ddios, mae cau'r capel yn achlysur o bwysigrwydd hanesyddol o gofio mai Llanfaches oedd yr achos Annibynnol (Ymneilltuol) cyntaf yng Nghymru.

"Mae hanes William Wroth a'i gyd-arweinwyr yn yr 17g yn ddiddorol ac yn arwyddocaol iawn yn hanes datblygiad Cristnogaeth yng Nghymru.

"Roedd dewrder a safiad William Wroth yn anhygoel - ac mae'n bwysig cofio capel a newidiodd hanes crefydd yng Nghymru."

Bydd mwy am hanes Llanfeches yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg am 12:30 ddydd Sul ac yna ar BBC Sounds

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig