Cofio'r canwr a'r ffermwr poblogaidd Tom Bryniog

Tom BryniogFfynhonnell y llun, Llun teulu
  • Cyhoeddwyd

Mae'r canwr a'r ffermwr poblogaidd Tom Bryniog o Felin-y-coed ger Llanrwst wedi marw yn 89 oed.

Bu Tom 'Bryniog' Davies yn canu fel bariton ers ei arddegau gan ennill nifer fawr o wobrau eisteddfodol.

Wedi dechrau cystadlu, daeth yn fuddugol deirgwaith yn olynol yng Ngŵyl Fawr Aberteifi, ac enillodd gystadleuaeth y Princeps Cantorum yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn 1969.

Yn Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Lliw, 1980, fe enillodd y Rhuban Glas gyda chanmoliaeth uchel.

Roedd yn ganwr oratorio arbennig ac fe ganodd unawdau'r Meseia ddegau o weithiau - gan gynnwys gyda Chymdeithas Gorawl Cymry Lerpwl o dan arweiniad Caleb Jarvis.

Roedd hefyd yn adnabyddus am berfformio unwadau o weithiau y Greadigaeth a Samson ac Elias.

Bu'n unawdydd gyda nifer o gorau meibion ar deithiau tramor - yn eu plith corau Llanddulas, Trelawnyd, Rhosllannerchrugog, Maelgwn a'r Brythoniaid ac mae wedi ymddangos ar y teledu droeon.

Bu hefyd yn canu gyda chorau eraill gan gynnwys Betws-yn-Rhos, Côr Cymysg Dyffryn Conwy a Chymdeithas Gorawl Dinbych.

'Cantor ardderchog'

Wrth roi teyrnged iddo dywedodd y cerddor, Trystan Lewis: "Roedd Tom Bryniog yn ganwr graenus a phoblogaidd.

"Roedd yn gantor ardderchog i ganu oratorio, yn enwedig Handel.

"Bu'n rhannu llwyfan gyda nifer o'n hartistiaid ni - Margaret Williams, Marian Roberts, Glyn Borth-y-Gest, Richie Thomas, Dai Jones Llanilar ac eraill.

"Roedd yn ymgorfforiad o'r cantorion amatur yng Nghymru ar y pryd, oedd cystal, os nad gwell weithiau, na chantorion proffesiynol."

Yn 1981 recordiodd LP a chasèt o'i ganeuon i gwmni Sain ac yn 2015 cafodd yr un record ei rhyddhau eto i gyd-fynd a phen-blwydd Mr Davies yn 80 oed.

Yng Ngorsedd y Beirdd roedd yn cael ei adnabod fel Tom Bryniog.

Heblaw am gyfnod yn byw yn Llangernyw treuliodd ei oes yn ffermio ym Melin-y-coed.

Mae'n gadael ei weddw Nan, a thri o blant - Jac, Siân ac Elgan a'u teuluoedd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.