Gohirio rownd derfynol y Cwpan Undydd oherwydd glaw trwm

Trent Bridge, Nottingham
Disgrifiad o’r llun,

Mae rownd derfynol y Cwpan Undydd yn Trent Bridge wedi'i ohirio oherwydd glaw trwm

  • Cyhoeddwyd

Bu’n rhaid gohirio rownd derfynol y Cwpan Undydd rhwng cricedwyr Morgannwg a Gwlad yr Haf yn Trent Bridge heb unrhyw chwarae’n bosib o gwbl oherwydd y tywydd.

Fe ddaeth y dyfarnwyr i’w penderfyniad am 14:30 ddydd Sul wedi glaw trwm dywallt yn Nottingham drwy’r bore.

Mi fydd y ddau dîm nawr yn gobeithio dod ynghyd ddydd Llun i drio unwaith eto, ond dyw’r rhagolygon ddim yn argoeli’n dda chwaith.

Os nad oes modd cwblhau’r gêm yna fydd y cwpan yn cael ei rannu rhwng y ddau dîm.

Pynciau cysylltiedig