Dedfrydu rheolwr pêl-droed am roi dwrn i lumanwr yn ystod gêm

Disgrifiad,

Rhybudd: Fe allai cynnwys y fideo o'r digwyddiad beri gofid i rai

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-reolwr pêl-droed - a gafodd ei ddal ar gamera yn rhoi dwrn i lumanwr yn ystod gêm ar Ynys Môn - wedi cael dedfryd o garchar wedi ei ohirio.

Digwyddodd yr ymosodiad ym mis Ebrill 2024 yn ystod gêm ar faes Lôn Bach rhwng CPD Penrhyndeudraeth a Thref Amlwch.

Roedd rheolwr Amlwch ar y pryd, Robert Williams-Jones, wedi pledio'n euog i ymosod gan achosi gwir niwed corfforol yn ystod y gêm yng Nghynghrair Bêl-droed Arfordir Gogledd Cymru.

Wrth ymddangos yn Llys Ynadon Caernarfon ddydd Llun fe gafodd Williams-Jones, 44 oed o ardal Llaneilian ger Amlwch, ei ddedfrydu i 24 wythnos o garchar wedi ei ohirio am 12 mis.

Bydd yn rhaid iddo hefyd gyflawni 150 awr o waith di-dâl a thalu £1,000 mewn iawndal.

'Dim lle i hyn mewn pêl-droed'

Roedd fideo o'r ymosodiad wedi ei rannu'n helaeth ar wefannau cymdeithasol yn fuan wedi'r gêm.

Ar ôl hynny, cadarnhaodd CPD Tref Amlwch eu bod wedi torri eu cysylltiadau gyda Williams-Jones, gan ymddiheuro i CPD Penrhyndeudraeth a'r llumanwr.

Mewn datganiad ar y pryd, dywedodd y clwb eu bod wedi'u "tristau'n fawr gan y digwyddiadau dros y penwythnos".

Dywedodd prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney, hefyd fod "dim lle i hyn mewn pêl-droed".