'Mor braf gweld eraill sydd â chyflwr fel Arthur'

Arthur
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Arthur ei eni heb waelod ei fraich chwith

  • Cyhoeddwyd

Mae teulu bachgen a gafodd ei eni heb ei law chwith wedi dweud eu bod nhw wedi'u "syfrdanu" gan yr holl gefnogaeth wrth gynnal y digwyddiad cyntaf o’i fath yng ngogledd Cymru i bobl sydd â rhan o’r corff yn wahanol.

Fe gafodd Arthur, sydd bellach yn ddeg mis oed, ei eni heb waelod ei fraich chwith.

Ym mis Chwefror fe ddywedodd ei rieni Elliw Williams ac Ilan Roberts, y ddau yn 25, wrth y BBC eu bod nhw’n bwriadu codi ymwybyddiaeth o’r cyflwr a dangos i Arthur mai "nid fe yw’r unig un".

Ddydd Sul, daeth dros 30 o bobl o bob rhan o ogledd Cymru a thu hwnt, sydd gyda chyflwr tebyg i Arthur, at ei gilydd ym Mharc Glynllifon ger Caernarfon i ddathlu’r pethau sy’n gwneud pob unigolyn yn arbennig.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y digwyddiad yng Nglynllifon ei drefnu gan Elliw ac Ilan, rhieni Arthur

Dywedodd Ilan: “’Dan ni mor falch bod cymaint o bobl wedi troi allan i gefnogi hwn. Dwi 'di syfrdanu gyda’r niferoedd i fod yn onest, ac mae pawb mor glên a charedig.

"Mae Arthur mor ifanc a dydan ni ddim yn gwybod beth sydd o’n blaenau ni ond ma' gwybod bod 'na bobl eraill yn mynd trwy’r un peth yn ein bro ni yn anhygoel.”

Ychwanegodd Elliw: “Mae jyst gweld yr holl blant yma, rhai sydd â’r un cyflwr ag Arthur a rhai sydd ddim, yn rhedeg i chwarae efo’i gilydd syth bin yn grêt. Mae angen mwy o ddigwyddiadau fel hyn yng ngogledd Cymru.”

Chwarae yn Gymraeg 'yn arbennig'

Un o’r rheini a benderfynodd fynd i'r digwyddiad oedd Lois Jones o bentref Lanllyfni yng Ngwynedd ar ôl iddi weld nodyn Ilan ar y cyfryngau cymdeithasol.

Cafodd ei mab Alun, sy’n 10 oed, ei eni heb ei fraich dde heibio’r penelin.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Lois, mam Alun, bod y digwyddiad wedi bod o help mawr iddi

“Dwi’n meddwl bod Alun wedi wirioneddol mwynhau gweld plant ac oedolion sydd yr un fath â fo. Dwi’n meddwl bod hynna’n bwysig.

"Ond mae 'di bod yn help mawr i fi fel rhiant hefyd. Dwi 'di cael sawl syniad o bethau i wneud i helpu Alun gan rieni eraill yma,” meddai Lois.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Alun ei fod yn falch gweld plant eraill tebyg iddo fe

Mae Lois ac Alun wedi bod i ddigwyddiadau tebyg gydag elusen yn Lloegr yn y gorffennol. Ond ei gobaith hi nawr yw bod yna mwy o gyfleoedd yn lleol.

“Mae Alun yn iaith gyntaf Cymraeg ac felly pan 'dan ni wedi bod i’r digwyddiadau 'ma yn Lloegr, mae’n gallu bod yn anodd iddo gymdeithasu efo’r plant eraill.

"Felly mae gallu cyfarfod pobl leol a chwara' yn y Gymraeg wedi bod yn arbennig iawn. Dwi wir yn gobeithio am fwy o ddigwyddiadau tebyg, ac yn diolch i Ilan ac Elliw am drefnu hwn.”

Dywedodd ei mab, Alun: “Dwi di ffeindio heddiw’n rili hwyl, dwi di cael gweld plant sydd fel fi a dwi methu gwneud hynna yn aml. Mae’n rili cyfforddus a neis cael y cyfle.”

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd elusen LimbBo ei sefydlu gan rieni Tommy

Mae Elliw ac Ilan wedi derbyn cefnogaeth gan elusen o’r enw LimbBo wrth drefnu’r cyfarfod yng Ngwynedd. Wedi'i lleoli yn Barnsley, nod yr elusen yw cefnogi plant â gwahaniaethau corfforol a'u teuluoedd.

Cafodd ei sefydlu gan ŵr a gwraig, Adam a Katie Dengel, ar ôl iddyn nhw ddarganfod bod eu mab Tommy yn mynd i gael ei eni gyda’r cyflwr.

“Mewn un o’r sganiau cynnar pan o’n i’n feichiog gyda Tommy dywedodd y doctor ei fod yn mynd i gael ei eni heb ei fraich dde," meddai ei fam.

"Cawsom ein tywys yn gyflym i ystafell arall a dywedodd y doctor mai dim ond hyn a hyn o wythnosau oedd gennym ni i ddewis os oedden ni am derfynu’r beichiogrwydd.

"Roedden ni'n gwybod nad oedden ni byth yn mynd i wneud hynny, ac roedden ni'n teimlo bod yna ddiffyg cefnogaeth ar gael.

"Does dim byd o’i le ar y plant hyn ac roedden ni eisiau bod yno i eraill sy’n mynd trwy rywbeth tebyg.”

“Mae’n anhygoel gweld y gefnogaeth honno’n tyfu a gweld digwyddiad yn cael ei gynnal yng ngogledd Cymru,” ychwanegodd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae teulu Arthur yn gobeithio y bydd modd cynnal digwyddiad fel hyn yn gyson

Ers sefydlu’r elusen yn 2018 mae nifer y bobl sy’n mynychu eu prif wersyll blynyddol yn Barnsley wedi tyfu o tua 20 i dros 600.

Mae Ilan ac Elliw yn bwriadu mynd i'r gwersyll eleni, ond maen nhw hefyd yn gobeithio parhau i gyfarfod yng ngogledd Cymru.

Dywedodd Elliw: “Byddai gallu gwneud hwn yn beth blynyddol, neu hyd yn oed ychydig yn amlach, yn wych. Byddai’n grêt pe bai Arthur yn cael cyfleoedd rheolaidd i chwarae gyda phlant eraill fel fo.”

Ychwanegodd Ilan: “Dyma’r tro cyntaf i ni gyd gyfarfod a rŵan bo' ni 'di gwneud hynna, bydd hi’n haws codi’r ffôn, neu ofyn i’n gilydd am gyngor, a chynnal y digwyddiadau yma yn fwy rheolaidd. Dyna yn sicr ydi’r nod beth bynnag.”

Pynciau cysylltiedig