Negeseuon llawn rhegfeydd honedig gan gyn-uwch swyddog S4C yn rhan o ddogfennau llys

Llun o Llinos Griffin-WilliamsFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llinos Griffin-Williams yn gwadu honiadau o gamymddwyn difrifol

  • Cyhoeddwyd

Mae negeseuon testun llawn rhegfeydd a gafodd eu hanfon yn honedig gan gyn-uwch swyddog S4C sydd yn ceisio hawlio dros £500,000 gan y darlledwr wedi dod i'r amlwg mewn dogfennaeth o'r Uchel Lys.

Mae cyfres o ddogfennau hirfaith wedi eu rhannu gyda Newyddion S4C yn ymwneud â hawliad gan gyn-brif swyddog cynnwys S4C, Llinos Griffin Williams, sydd yn dwyn achos yn erbyn ei chyn-gyflogwr a'r cyn-gadeirydd Rhodri Williams.

Cafodd Llinos Griffin-Williams ei diswyddo wedi honiadau iddi ymosod yn eiriol ar gyn-fewnwr Cymru Mike Phillips tra'n feddw wedi gêm Cymru yn erbyn Georgia yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn Nantes.

Mae Ms Griffin-Williams yn gwadu camymddwyn difrifol ac yn ceisio hawlio iawndal ar sail diogelu data. Mae hefyd yn cyhuddo Rhodri Williams o gamweithredu mewn swydd gyhoeddus.

Mae S4C a Rhodri Williams yn gwadu'r cyhuddiadau yn eu herbyn, ac yn dweud i Ms Griffin-Williams gael ei diswyddo am gamymddwyn difrifol.

Yn ôl dogfennau sydd wedi eu hanfon at yr Uchel Lys ar ran y diffynyddion, fe wnaeth tri unigolyn sydd yn gweithio o fewn i'r byd darlledu Cymreig gysylltu â Rhodri Williams i gwyno am ymddygiad honedig Ms Griffin-Williams yn Nantes.

Y tri hynny oedd cadeirydd gweithredol cwmni Tinopolis Ron Jones, cyfarwyddwr gweithredol Whisper Cymru Carys Owens, sydd yn wraig i gyn-gapten Cymru Ken Owens, a thrydydd unigolyn oedd yn gweithio i S4C ar y pryd ond na allwn ni ei enwi.

Negeseuon wedi eu 'gorliwio'

Yn y dogfennau, mae S4C a Rhodri Williams yn honni bod Ms Griffin-Williams wedi anfon negeseuon at Carys Owens a oedd yn cynnwys iaith gref eithriadol.

Mae darnau o'r negeseuon sy'n cael eu dyfynnu yn y dogfennau yn honni bod Ms Griffin-Williams wedi dweud wrth Ms Owens bod "Sian" yn flin iawn gyda hi - mae'r negeseuon, honnir, yn cynnwys rhegfeydd nad ydynt yn cael eu hailadrodd yma gan y BBC.

Honnir hefyd bod y negeseuon yn dangos iddi ddefnyddio rhegfeydd mewn neges a oedd yn mynnu bod Ms Owens yn cael y "talent yma" ac yn dweud wrth Ms Owens nad oes neb yn poeni am y criw.

"Mae angen i chi ddod â'r talent yma. Mae hi eisiau'r talent."

Dywedodd Ms Griffin-Williams fod y negeseuon testun sydd wedi'u dyfynnu wedi'u "gorliwio" ac nad oeddent yn negeseuon oedd yn "bwlio nac yn ymosodol".

Llun o adeilad S4C
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd S4C na fyddai'n addas iddyn nhw wneud sylw ar achos cyfreithiol cyfredol

Mae honiad iddi hefyd ddweud wrth un o uwch-gynhyrchwyr Whisper Cymru na fyddai'r cwmni yn cael gwaith pellach gan S4C am y 12 mis nesaf.

Mae'r dogfennau ar ran Llinos Griffin-Williams yn dweud bod hynny yn "anwiredd."

Mae Ms Griffin-Williams yn ceisio hawlio £565,000 am golledion ariannol a symiau sydd heb eu pennu eto am niwed i'w henw da a niwed i'w hiechyd a'i theimladau.

Dywedodd S4C na fyddai'n addas iddyn nhw wneud sylw ar achos cyfreithiol cyfredol.

Doedd Rhodri Williams ddim am ychwanegu at yr hyn sydd yn y ddogfennaeth ar ei ran yn y llys.

Mae'r achos yn yr Uchel Lys yn parhau.

Mae gohebydd y BBC, Gwyn Loader yn ogystal â Martin Shipton o Nation.Cymru yn cael eu henwi yn nogfennau'r achos fel newyddiadurwyr sydd wedi dilyn a gohebu ar y stori.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig