Pibell wedi'i thrwsio ond dim dŵr i rai am 48 awr arall
- Cyhoeddwyd
Mae Dŵr Cymru wedi cadarnhau bod y gwaith atgyweirio ar y bibell ddŵr oedd wedi byrstio yn Sir Conwy wedi cael ei gwblhau.
Ond mae'r cwmni yn rhybuddio na fydd cyflenwadau pawb sydd wedi'u heffeithio yn cael ei adfer am hyd at 48 awr.
Mae Dŵr Cymru wedi dweud wrth BBC Cymru mai creigiau'n pwyso yn erbyn y bibell oedd yn gyfrifol am y difrod.
Dywedodd Gareth Evans o Dŵr Cymru mai "symudiad ar wely'r afon" sy'n debygol o fod yn gyfrifol, gan achosi "methiant catastroffig un o'r cysylltiadau rhwng y pibellau".
Mae'r prif weithredwr wedi ymddiheuro am yr anhawster, gan alw'r digwyddiad yn "argyfwng sylweddol".
"Symudodd y bibell oherwydd symudiad yn y ddaear, nid oedd yn rhywbeth y byddai modd i ni ei ragweld na'i atal", meddai Peter Perry.
"Mae'r bibell ei hun mewn cyflwr eithaf da, ond mae'r tir wedi achosi amodau sydd wedi gwneud y gwaith trwsio yn anodd iawn."
Dywedodd Alun Shurmer, un o gyfarwyddwyr Dŵr Cymru y bydd cyflenwadau rhai pobl yn yr ardal yn cael eu hadfer nos Wener.
"Mae'r sialens yma wedi bod yn aruthrol... Ni'n weddol ffyddiog y bydd y rhwydwaith yn cael ei ail-lenwi yn saff ac yn gyflawn dros y 48 awr nesaf.
"Mi fydd rhai pobl yn cael eu cyflenwadau yn ôl dros nos, ond wrth gwrs, mi fydd hi'n cymryd bach mwy o amser i gael cyflenwadau pawb yn ôl, ac ry'n ni'n ymddiheuro yn gryf am hynny."
'Mas o'n rheolaeth ni'
Yn ôl Mr Shurmer, roedd yr holl sefyllfa allan o'u rheolaeth nhw ond bod sicrhau iawndal i gwsmeriaid yn "hollbwysig".
"'Da ni wedi ymddiheuro am y drafferth, ond o'dd e mas o'n rheolaeth ni yn anffodus," meddai.
"Ni 'di trio popeth dros y 48 awr ddiwethaf i gael y cyflenwadau nol mor fuan â phosib ac wedi bod yn blaenoriaethu ein cwsmeriaid mwyaf bregus.
"Ry'n ni'n trio gweithio drwy'r rhestr gyflawn a ry' ni wedi llwyddo i gael poteli dwr mas i filoedd o gwsmeriaid.
"'Da ni heb asesu'r holl gost eto, ond ni''n siŵr bod e'n mynd i fod yn gostus iawn."
Roedd degau o ysgolion ar draws Sir Conwy ar gau ddydd Gwener, a miloedd o bobl dal heb ddŵr ers i bibell fyrstio.
Roedd Dŵr Cymru wedi awgrymu y gallai hyd at 40,000 o gartrefi fod heb gyflenwadau ers i'r bibell fyrstio yn safle trin dŵr Bryn Cowlyd, Dolgarrog brynhawn Mercher.
Roedden nhw wedi cadarnhau bod 8,000 o gartrefi wedi colli cyflenwad nos Fercher, a bod hyd at 33,000 o gartrefi mewn perygl o golli eu cyflenwadau ddydd Iau.
'Cyfnod anodd iawn yn y broses'
Mewn datganiad brynhawn Gwener dywedodd Dŵr Cymru: "Gallwn gadarnhau bod y gwaith atgyweirio ar y brif bibell ddŵr wedi byrstio yng Ngwaith Trin Dŵr Bryn Cowlyd, Dolgarrog wedi'i gwblhau amser cinio.
"Rydym nawr yn ail-lenwi'r rhwydwaith.
"Ni fydd cyflenwadau dŵr yn cael eu hadfer yn llawn i'r holl gwsmeriaid sydd wedi eu heffeithio am hyd at 48 awr.
"Mae hon yn brif bibell ddŵr pwysedd uchel, ac rydym mewn cyfnod anodd iawn yn y broses.
"Mae angen i ni ail-lenwi'r prif gyflenwad dŵr a'r rhwydwaith dŵr ehangach yn ofalus iawn er mwyn osgoi problemau pellach."
Ychwanegodd: "Mae'r rhwydwaith bron yn 900km o hyd ac mae'n cynnwys 13 tanc storio tanddaearol, gyda'n tanc storio mwyaf yn cyfateb i naw pwll nofio maint Olympaidd.
"Bydd cyflenwad dŵr gwahanol gymunedau o fewn ardal y rhwydwaith yn cael ei adfer ar wahanol adegau, wrth i'r rhwydwaith lenwi eto.
"Mae dŵr afliwiedig o'ch tapiau yn normal ar ôl y fath broblemau. Mae hyn fel arfer dros dro ac yn diflannu unwaith y bydd y rhwydwaith wedi setlo.
"Gofynnwn hefyd i gwsmeriaid wirio eu tapiau i sicrhau eu bod ar gau er mwyn helpu i gadw cyflenwadau wrth i ni ail-lenwi'r rhwydwaith."
Dywedodd Dŵr Cymru y bydd cwsmeriaid yn cael ad-daliad o £30 am bob 12 awr heb gyflenwad, tra bydd busnesau yn derbyn £75 am bob 12 awr.
Problemau ar draws y sir
Am 09:00 fore Gwener roedd 40 o ysgolion a chanolfannau addysg yn Sir Conwy, dolen allanol wedi dweud na fyddan nhw ar agor, ac mae rhai ysbytai hefyd wedi eu heffeithio.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr bod problemau yn ysbytai Llandudno, Bar Colwyn a Bryn-y-Neuadd, ond bod tanceri yn sicrhau cyflenwad. Ychwanegodd bod pob meddygfa yn yr ardal ar agor fel arfer.
Mae nifer feithrinfeydd a busnesau ar gau yn y sir hefyd am nad oes ganddyn nhw ddŵr.
Mae canolfan Venue Cymru yn Llandudno wedi gorfod gohirio digwyddiad y London Symphonic Rock Orchestra yno nos Wener oherwydd y sefyllfa.
Ond mae Clwb Pêl-droed Bae Colwyn wedi cadarnhau y bydd eu gêm nhw yn erbyn Bwcle yng nghynghrair y Cymru North yn mynd yn ei blaen nos Wener er gwaetha'r trafferthion.
Mae dŵr yn cael ei ddosbarthu yn Zip World Conwy yn Nolgarrog a Pharc Eirias ym Mae Colwyn.
Yno mae modd cael dŵr potel i'w yfed, a dŵr o danceri er mwyn ei ddefnyddio ar gyfer toiledau, ond mae ciwiau hir i gyrraedd y ddau safle.
Ar leoliad
Ein gohebydd Carwyn Jones yng Nghonwy
Mae safleoedd poteli dŵr wedi agor i'r cyhoedd bellach, a'r un yn Zip World Conwy yn cael ei redeg gan ryw 10 swyddog Dŵr Cymru.
Mae'n broses gyflym iawn - pobl yn gyrru mewn, swyddogion Dŵr Cymru yn rhoi poteli dŵr yng ngheir pobl, cyn iddyn nhw adael y safle.
Mae'n prysuro yma - ciw hir o geir tua hanner milltir lawr y ffordd tuag at gyfeiriad Tal-y-bont, sy'n brawf o faint sydd wedi'u heffeithio.
Mae 'na baledi mawr o ddŵr potel ar y safle, gyda thanciau mawr o ddŵr yfed argyfwng ar gael yma hefyd.
Nes i glywed un aelod o'r cyhoedd yn diolch i swyddogion yna am eu gwaith, ac o fod yn siarad ag aelodau staff ar y safle, mae hi'n amlwg fod rhai staff o Loegr yno'n helpu hefyd.
Roedd y cwmni wedi dweud yn wreiddiol eu bod yn disgwyl i'r atgyweiriadau gael eu cwblhau ddydd Iau, er bod y gwaith yn "anodd a pheryglus".
Eglurodd llefarydd bod y brif bibell ddŵr wedi byrstio dau fetr a hanner o dan wely'r afon, a bod rhaid defnyddio peirianwaith arbenigol i greu argae ac ailgyfeirio'r afon.
Roedd angen gwneud hynny "er mwyn gosod blwch o amgylch y bibell sydd wedi'i difrodi fel y gallwn gloddio a chael mynediad i'r brif bibell ddŵr... tra'n diogelu ein gweithlu a'r amgylchedd".
Ond erbyn diwedd y prynhawn, fe ddywedodd y cwmni bod y gwaith atgyweirio'n cymryd mwy o amser na'r disgwyl.
'Prysur ddod yn argyfwng dyngarol'
Yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn Senedd Cymru, Darren Millar: "Mae'r sefyllfa'n annerbyniol ac yn prysur ddod yn argyfwng dyngarol."
Dywedodd bod "mamau babanod heb ddŵr wedi ei ddiheintio, nifer o gartrefi gofal heb dderbyn dŵr potel ar gyfer y bobl fregus yn eu gofal, ac mae gofalwyr cartref a nyrsys ardal methu golchi pobl na thrin clwyfau".
"Dyw'r trefniadau wrth gefn ddim yn gweithio ac mae diffyg cyfathrebu ar ran Dŵr Cymru i drigolion lleol yn achosi dryswch a gofid diangen."
Ychwanegodd bod yr iawndal sy'n cael ei gynnig i gwsmeriaid "yn bitw".
Dywedodd Charles Owen o Lanrwst, sydd heb gyflenwad dwr ers nos Fercher, ei fod erioed wedi gweld sefyllfa o'r fath yn yr ardal.
"Mae'r siopa wedi rhedeg allan o ddŵr wan a 'da ni'n disgwyl i gael dŵr heddiw rhyw dro, gobeithio," meddai ar Dros Frecwast fore Gwener.
"Be' dwi'n meddwl am ydy'r bobl mewn oed a phobl hefo plant ifanc, ac mae rhaid i ni ddisgwyl wan a gobeithio ceith o'i sortio'n reit sydyn."
Dywedodd Mr Owen ei fod yn cydnabod fod gan Dŵr Cymru "job galed" ac mai "amynedd sydd isio 'ŵan".
Mae'r sefyllfa'n un "ddyrys a chymhleth a heriol", medd un o gynghorwyr sir ardal Llanrwst, Nia Clwyd Owen, sy'n diolch yr holl weithwyr sydd wedi gweithio "rownd y cloc i drio sortio'r broblem yma".
Mae Dŵr Cymru, meddai, wedi trefnu bod tanceri'n cyflenwi'r ysbytai a chartrefi gofal y sir, ac mae hi'n apelio am sicrhau mai yn Llanrwst y bydd un o'r gorsafoedd dŵr a fydd yn cael eu darparu yn ystod y dydd.
Dywedodd bod pobl wedi arfer dygymod â thoriadau trydan ond "dan ni 'rioed wedi gweld problem o'r raddfa yma efo'r cyflenwad dŵr yn Llanrwst o'r blaen".
Gan fod poteli dŵr i'w prynu yn prinhau yn y siopau lleol, dywedodd ei bod yn "hyfryd" gweld y gymuned yn cefnogi ei gilydd, gyda chynigion ar-lein gan bobl sy'n dal â chyflenwad i'w rannu â phobl eraill.
Mater arall, meddai, "yw cael rhywbeth i ddal y dŵr... achos mae'n job anodd cario dŵr o un lle i'r llall".
Dywedodd bod Dŵr Cymru wedi rhoi sicrwydd bod y cyflenwadau sydd heb eu heffeithio yn "saff i'w ddefnyddio... a hefyd mae'n saff i ddefnyddio'r gwres yn eich tŷ".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl