Cadarnhau mai ci XL Bully wnaeth ladd babi naw mis oed

Y lleoliad
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw bachgen naw mis oed yn y fan a'r lle nos Sul

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi cadarnhau mai ci XL Bully wnaeth ladd babi naw mis oed yn Sir Fynwy.

Dywedodd Heddlu Gwent eu bod wedi "derbyn adroddiad o ymosodiad gan gi" mewn tŷ ar stryd Crossway ym mhentref Rogiet ger Cil-y-coed tua 18:00 nos Sul.

Fe gafodd swyddogion heddlu a pharafeddygon y Gwasanaeth Ambiwlans eu hanfon i'r cyfeiriad, ble cadarnhawyd bod bachgen naw mis oed wedi marw yn y fan a'r lle.

Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Vicki Townsend: "Er bod y ci yn yr achos hwn wedi'i gofrestru fel XL Bully, cafodd hynny ei wneud yn rhagweithiol cyn i'r gwaharddiad ddod i rym.

"Wrth baratoi ar gyfer y gyfraith newydd, wrth ofyn am dystysgrif eithriad, nid oedd yn ofynnol i berchnogion nodi brîd y ci yn ffurfiol."

Fe wnaeth Swyddog Deddfwriaeth Cŵn gadarnhau'r brîd ddydd Mercher, gan ddweud ei fod yn gi chwech oed ac wedi derbyn tystysgrif eithriad yn 2024.

Gan fod y math yma o gŵn wedi cael eu gwahardd yng Nghymru a Lloegr, mae'n rhaid cael tystysgrif arbennig i fod yn berchen arnyn nhw.

Roedd y ci dan sylw hefyd wedi cael ei gofrestru gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig y llywodraeth.

Fe gafodd y ci, oedd yn eiddo i aelod o'r teulu, ei ddifa gan filfeddyg wedi'r digwyddiad.

Swyddogion heddlu yn Crossway, Rogiet fore LlunFfynhonnell y llun, PA Media

Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Vicki Townsend: "Nid oes unrhyw un wedi'u cael eu harestio ar hyn o bryd, mae'r ymchwiliad yn parhau ac roedd angen adnabod y ci yn swyddogol.

"Rydym yn deall bod cryn dipyn o ddiddordeb a phryder ynghylch y digwyddiad yma ac rydym wedi gweld y gymuned yn dod at ei gilydd yn yr amser anodd hwn."

Pynciau cysylltiedig