Heddlu'n apelio wedi i ddynes farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Gâr

MyddfaiFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw'r ddynes yn dilyn gwrthdrawiad rhwng Myddfai a Llanymddyfri ddydd Iau

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddynes farw wedi gwrthdrawiad yn Sir Gaerfyrddin.

Bu farw'r ddynes - a oedd yn gyrru Ford Fiesta arian - wedi gwrthdrawiad ar ffordd gefn rhwng Myddfai a Llanymddyfri tua 09:15 fore Iau, 27 Mawrth.

Cafodd y ffordd ei hailagor am 14:09.

Dywedodd y llu eu bod yn awyddus i siarad ag unrhyw un a oedd yn yr ardal ar y pryd.

Pynciau cysylltiedig