Carcharu dyn o Rydaman am dreisio dynes yn ei chartref

Cafodd Robert Smith ddedfryd o bum mlynedd a phedwar mis o garchar
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Rydaman wedi'i garcharu am bum mlynedd am dreisio dynes yn ei chartref.
Fe wnaeth Robert Smith, 26, o Heol Penygarn gyfaddef mynd i mewn i gartref y dioddefwr a'i threisio wrth iddi gysgu yn ei gwely ar 2 Gorffennaf 2024.
Clywodd Llys y Goron Abertawe bod Smith wedi mynd mewn i gartref y ddynes drwy honni ei fod yn cynnal "ymweliad lles".
Cyn y noson honno, nid oedd Smith a'r dioddefwr yn adnabod ei gilydd.
Roedd y ddau wedi cyfarfod yng nghartref ffrind cyffredin lle'r oedd pobl wedi bod yn yfed alcohol.
Ymosodiad 'annynol'
Mewn datganiad, dywedodd y dioddefwr ei bod hi'n teimlo'n "gorfforol frwnt ac afiach ar ôl yr ymosodiad", gan esbonio ei fod bron yn amhosibl cyfleu mewn geiriau sut oedd y digwyddiad wedi effeithio arni.
Dywedodd y dioddefwr ei bod hi'n teimlo ei bod hi wedi ei thrin fel anifail, gan ddisgrifio'r ymosodiad fel un "annynol" ac yn ymyrraeth â'i hawl i ddewis.
Gan grynhoi effaith parhaol y digwyddiad, dywedodd y dioddefwr: "Ni fyddaf byth yn dianc rhag yr hyn a wnaeth y dyn hwnnw i mi."
Roedd Smith wedi pledio'n euog i gyhuddiad o dreisio, ac fe gafodd ddedfryd o bum mlynedd a phedwar mis o garchar.