Yr enwau mwyaf poblogaidd ar fabis Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) wedi cyhoeddi rhestrau o'r 100 enw mwyaf poblogaidd i ferched a bechgyn yng Nghymru a Lloegr yn 2023.
Dyma restrau Cymru Fyw o'r enwau Cymreig mwyaf poblogaidd ar fabis a anwyd yng Nghymru yn 2023.
Enwau'r merched (a'r nifer)
1. Mali (82)
2. Erin (60)
3. Alys (54)
4. Seren (43)
5. Eira (42)
6. Cadi (41)
7. Mabli (39)
8. Ffion (38)
9. Efa (36)
10. Eleri (36)
Mali oedd yr enw Cymraeg fwyaf poblogaidd yn 2022 hefyd.
Yr enwau Cymreig eraill sydd ar y rhestr yw Nansi, Martha, Lili a Gwenllian.
Dyma'r tro cyntaf i'r enw Gwenllian ymddangos ar restr y 100 enw mwyaf poblogaidd dros y blynyddoedd diwethaf.
Isla oedd yr enw mwyaf poblogaidd ar fabis a anwyd yng Nghymru yn 2023, gyda 138 o enethod yn cael eu henwi'n Isla.
Enwau'r bechgyn (a'r nifer)
1. Arthur (179)
2. Osian (129)
3. Jacob (105)
4. Isaac (97)
5. Elis (94)
6. Harri (91)
7. Dylan (82)
8. Macsen (81)
9. Jac (77)
10. Caleb (59)
Arthur oedd yr enw Cymreig fwyaf poblogaidd ar fechgyn ar restr 2022 a 2021 hefyd.
Hefyd yn ymddangos ar y rhestr mae'r enwau Cymreig yma: Ioan, Gruffydd, Morgan, Emrys, Idris, Tomi, Nico a Rhys.
Y tri enw mwyaf poblogaidd ar fechgyn a anwyd yng Nghymru yn 2023 yw Noah, Oliver a Luca.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd11 Mehefin