Adolygiad barnwrol yn dechrau i gynllun hwb antur Bae Ceibwr

Mae Bae Ceibwr o fewn ardal cadwraeth arbennig
- Cyhoeddwyd
Mae adolygiad barnwrol wedi dechrau yn Hwlffordd i benderfyniad Awdurdod Parc Cenedlaethol i roi caniatâd cynllunio ar gyfer hwb antur newydd.
Cafodd cais cwmni Adventure Beyond, sy'n cynnig tripiau arfordira a chaiacio ym Mae Ceibwr, i godi adeilad deulawr newydd ym mhentref Trewyddel ei gymeradwyo ym mis Hydref y llynedd.
Ond mae gwrthwynebwyr yn herio'r penderfyniad gan boeni am effaith y safle ar fywyd gwyllt lleol.
Fe gafodd y dadleuon yn erbyn y cynllun ei gyflwyno i'r gwrandawiad ddydd Mercher gan y grŵp Wild Justice, sy'n nodi pum sail i'w wrthod.
Mae'r rheiny, medd y grŵp, yn cynnwys methiant i roi gwybodaeth briodol neu ystyriaeth i "risg y datblygiad o achosi effeithiau niwediol tebygol", ynghyd ag amodau cynlluniau "anghyfreithlon" neu "afresymol" a methiant i roi ystyriaeth i safle lleol o ddiddordeb gwyddonol aerbennig (SoDdGA) Aberath Carreg Wylan.
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd3 Awst 2024
Yn ôl bargyfreithiwr yr ymgyrchwyr, David Wolfe KC, ni chafodd rhai dogfennau eu cyhoeddi cyn cyfarfod pwyllgor cynllunio Awdurdod y Parc Cenedlaethol ble gafodd y caniatâd cynllunio ei roi.
Roedd y dogfennau'n cynnwys cytundeb rhwng y datblygwr a pherchennog y bae, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, asesiad adar gan Gyfoeth Naturiol Cymru a dogfennau lobïo.
Dywedodd hefyd na fydd amodau'r caniatâd cynllunio yn sicrhau dim risg i fywyd gwyllt fel morloi llwyd yn Ardal Forol Warchodedog Bae Ceredigion, sy'n cynnwys Bae Ceibwr.
Mae'n dadlau nad yw "lleihau risg" yn mynd yn ddigon pell mewn ardal o'r fath.

Dyma'r safle mae Adventure Beyond am ei ddatblygu ym mhentref Trewyddel
Wrth ddechrau amlinellu achos Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, dywedodd Emyr Jones KC mai anghywir fyddai dadlau y byddai 'na fwy o weithgaredd hamdden ym Mae Ceibwr oherwydd y datblygiad.
Mae'r busnes, meddai, yn bodoli eisoes ac ond yn symud i leoliad newydd yn sgil terfyn prydles.
Dywedodd hefyd mai swyddog cynllunio sy'n penderfynu pa ddogfennau ddylid eu cyhoeddi, ac fe wadodd yr honiad bod yr Awdurdod heb ystyried SoDdGA Aberath Carreg Wylan.
Fe fydd Mr Jones yn parhau i gyflwyno achos yr Awdurdod ddydd Iau.