Siân Phillips: Dylanwad ei modryb, Saunders Lewis a hel atgofion

Siân PhillipsFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

"Fe fydden i'n pregethu yn yr ardd pan oeddwn i'n saith neu wyth," medd Siân Phillips

  • Cyhoeddwyd

Mae'r actores, y Fonesig Siân Phillips o Wauncaegurwen, wedi bod yn siarad am y profiad o ymweld â'r Llyfrgell Genedlaethol, fel rhan o gyfres deledu Cyfrinachau'r Llyfrgell ar S4C.

Dywedodd iddi gael y cyfle i ddysgu mwy am ei hen fodryb - yr efengyles adnabyddus, Rosina Davies, oedd yn pregethu ddiwedd y 19eg a dechrau'r 20fed ganrif.

Esboniodd Siân fod ganddi "ddiddordeb mawr yn y pulpud".

"Doeddwn i ddim yn gwrando gyment ar beth oedd y pregethwyr yn ei ddweud o ran neges, ond fe fyddem i'n rhoi sylw mawr i sut oedden nhw yn trefnu'r bregeth."

Siân PhillipsFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Siân, yma gyda'r Dr Maredudd ap Huw, gyfle i ddysgu mwy am ei hen fodryb - yr efengyles Rosina Davies

Er bod Siân Phillips yn actores lwyddiannus dywedodd nad oedd yn gwybod rhyw lawer am y theatr yn blentyn.

"Roedd syniad mawr gyda fi fel oedd adrodd a siarad a threfnu pethe, fel bo' fi yn cadw diddordeb pobl - ond wyddwn i ddim am y theatr!"

Ond, roedd ganddi lwyfan personol yn yr ardd gefn yn ei chartref yn y Waun.

"Fe fydden i'n pregethu yn yr ardd pan oeddwn i'n saith neu wyth.

"Roedd gardd fawr gyda ni ac roedd coed afal yng nghefn yr ardd a thu ôl i fan 'na roedd twlc y mochyn a bydde ni'n dringo i ben y wal uchel fan 'na a bydden i'n pregethu i'r cabaits, y ffa a'r pys.

"Bydden i'n mynd i hwyl, yn taranu ac wedyn yn tawelu."

Siân Phillips o flaen y llyfrgellFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae Siân Phillips yn rhan o gyfres newydd Cyfrinachau'r Llyfrgell ar S4C

Wrth edrych yn ôl, mae'n sylweddoli ei bod wedi dysgu techneg actio yn ifanc iawn gan yr hoelion wyth yn y pulpud ers talwm.

"Bydde y pregethwyr ifanc yna wedi bod yn actorion gwych heddi'," meddai gan chwerthin.

"Rwy'n siŵr bo' ni wedi colli gyment o actorion posib yn y cyfnod yna.

"Roedd llawer o dalent yng Nghymru, ond doedd pobl naill ai ddim eisiau mynd i'r theatr, neu heb gael y cyfle."

Er hynny, mae hi'n pwysleisio nad oedd gan ei hen fodryb ddiddordeb o gwbl mewn mentro i'r llwyfan.

"Doedd Rosina ddim eisiau bod yn actores. Ar un adeg roedd hi'n cael llety mewn tŷ mawr yn Llundain a daeth pobl mewn gyda chardiau post ohoni.

"Roedd e'n arferiad bryd hynny i 'neud cardiau fel hyn o actoresau enwog fel Ellen Therry ag ati. Roedden nhw wedi gwneud un ohoni hi.

"Roedd hi fel seren ifanc yn pregethu. Ond roedd colled arni hi: 'Destroy them', medde hi, 'I am here to convey the words of the Lord not my own'."

Siân Phillips gyda Dot DaviesFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Siân gyda chyflwynydd y rhaglen, Dot Davies

Wrth ymweld â'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth mae Siân hefyd yn cyfeirio at ei chysylltiad agos â'r dramodydd Saunders Lewis.

"Roedd Saunders yn bwysig ofnadwy yn fy mywyd i. Roeddwn i'n dwlu arno fe. Cofiwch, roedd ofn Saunders arna'i - roedd ei feddwl e mor wych.

"Bydden ni'n trysori pob amser o'n i gyda fe ac yn sylweddoli mod i mewn presenoldeb mawr - ond roedd e mor gyffredin hefyd."

'Lot o chwerthin gyda Saunders Lewis'

Wrth ddisgrifio eu cyfeillgarwch mae Siân Phillips yn cofio hefyd am ei hiwmor a'i hoffter o fwyd da.

"Fe fuon ni'n chwerthin lot. Fe ddysgodd fi hefyd am fwyd a bwyta. Doedd dim bwyd yng Nghymru ar ôl y rhyfel, gan fod rationing o hyd.

"Doedd pobol ddim yn bwyta bwyd neis o gwbl. Saunders oedd y cynta' i gyflwyno fi i olew a garlleg.

"Fi'n cofio Mam yn dweud: 'Beth yw hwnna te?'"

Ynghanol yr hwyl a'r sbri dywed ei bod hi hefyd yn sylweddoli ei bod ym mhresenoldeb mawredd.

"Roeddwn i'n ymwybodol ei fod e'n ddyn dewr, oedd ar wahân i bawb arall a wnes i gwrdd erioed."

Siân Phillips yn ei chartref yn Llundain, 2004Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Siân Phillips wedi ennill gwobr BAFTA a gwobr y Gymdeithas Deledu Frenhinol yn y gorffennol

Mae hi'n cofio'n arbennig ei chyfnod yn perfformio yn un o ddramâu Saunders Lewis, 'Gymerwch Chi Sigaret?', gyda Herbert Davies yn cynhyrchu.

"Herbert a Saunders gyda'i gilydd wnaeth hala fi i RADA [Royal Academy of Dramatic Art].

"Bydden i ddim 'di bod yn ddigon dewr ar ben fy hun i ddysgu'r rhannau, er enghraifft.

"Roedden nhw wedi fy annog i fynd am ysgoloriaeth: 'Peidiwch mynd heb ysgoloriaeth'."

'Newidiodd fy mywyd'

Wrth gofio'r sgwrs am RADA, mae'n dweud nad oedd hi'n hyderus y byddai'n llwyddo.

"Doeddwn i ddim mor siŵr. Doedd gen i ddim syniad pa mor dda oeddwn i. Bues erioed yn Lloegr cyn hyn!"

Fe wnaeth y dramodydd a'r cyfarwyddwr berswadio'r actores ifanc bod angen iddi ddewis cân fel rhan o'i chyflwyniad wrth geisio am le yn RADA.

"Fe wnaethon nhw ddweud bod rhaid i fi ddysgu cân. 'Dwi ddim yn canu,' medde fi.

"'Dim ots', medden nhw. Dysgwch Willow Song o Othello a chyflwynwch hefyd ddarn o'r Beibl'.

"Ac roedden nhw'n iawn, wrth gwrs, ac fe ges i ysgoloriaeth a mynd i RADA yn 1955 ac fe newidiodd fy mywyd - ac fe ddechreuodd fy mywyd i."

Mae Cyfrinachau'r Llyfrgell ar S4C ar nosweithiau Mawrth am 21:00 tan 7 Hydref. Mae hefyd ar gael ar S4C Clic a BBC iPlayer