Dysgu gan y Māori: 'Rhaid ymfalchïo mwy mewn diwylliant Cymreig'
- Cyhoeddwyd
Mae myfyrwyr sydd wedi bod yn Seland Newydd yn dysgu am ddiwylliant Māori yn dweud bod angen i Gymru "ymfalchïo yn ein diwylliant mwy".
Mae myfyrwyr Prifysgol Caerdydd wedi bod yn rhan o brosiect cyfnewid yn Seland Newydd, ac wedi rhannu eu profiadau o ddysgu am iaith a diwylliant y Māori gyda Cymru Fyw.
Dywedon nhw fod y profiad yn "fythgofiadwy", a'u bod wedi dysgu am y tebygrwydd annisgwyl rhwng ieithoedd a diwylliant Cymru a'r Māori.
Er hynny, dywedon nhw fod angen i'r Cymry ddysgu gwersi gan y Māori o ran hybu diwylliant Cymraeg.
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
Ym mis Medi, teithiodd 10 o fyfyriwr israddedig i Brifysgol Waikato i ddilyn cwrs Te Ao Hurihuri.
Mae'r cwrs ar gael i fyfyrwyr o gymunedau brodorol ac o wledydd sydd ag elfennau tebyg ynghylch iaith a diwylliant lleiafrifol.
Dywedodd un o'r rheiny fu ar y daith, Samia Yassine o Gaerdydd, mai un nod oedd dysgu pobl am "yr iaith a diwylliant Cymraeg a sut rydym ni'n ceisio ei adfywio".
Cyflawnwyd hyn yn rhannol trwy roi cyflwyniad i'r brifysgol ar ddiwylliant Cymru.
Penderfynon nhw siarad am Ddydd Gŵyl Dewi, diwrnod Shwmae Su'mae, a chân Yma o Hyd gan Dafydd Iwan.
Yn ystod y daith fe wnaeth y myfyrwyr ddarganfod sawl tebygrwydd annisgwyl rhwng y ddau ddiwylliant.
"Ar y dechrau doedden ni ddim wedi sylweddoli faint o bethau oedd yn cydblethu rhyngon ni," meddai Ffion Jones o Aberteifi, un arall fu ar y daith.
"Un peth diddorol roedd gennym ni yn gyffredin oedd ein llafariad – ac mae lot o’r seiniau sydd gennym ni yn yr un peth.
"Rydyn ni'n dau yn defnyddio’r un sain am ‘ff’."
Roedd y myfyrwyr hefyd yn uniaethu â'r profiadau unigryw sy'n dod o fod yn ddwyieithog, yn enwedig y geiriau sy'n perthyn i rai ieithoedd yn unig.
"Fel hiraeth," meddai Ffion. "Mae gennym ni eiriau penodol sy’n bwysig i ni oherwydd does dim ffordd i'w cyfieithu.
"Roedd hynny'n wir am y Māori hefyd - roedd ganddyn nhw gyfarchion oedd yn amhosib i gyfieithu i ni."
Mae gan yr iaith Gymraeg a'r te reo Māori - iaith y Māori - yr un nod hefyd, sef cael miliwn o siaradwyr.
Yn ôl Samia: "Mae’r ddwy iaith wedi gweld adfywiad sylweddol yn ystod y degawdau diwethaf trwy bolisïau llywodraethol, addysg, ac ar lefel anffurfiol yn gymunedol.
"Mae ymdrechion tebyg mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a kōhanga reo (meithrinfeydd iaith Māori) yn dangos dulliau tebyg o geisio adnewyddu'r ieithoedd.
"Ac mae’r ddwy gymuned yn ystyried yr iaith yn greiddiol i’w hunaniaeth ddiwylliannol."
Roedd y myfyrwyr wedi gallu uniaethu hefyd â'r profiad o fod yn bobl ifanc sy'n siarad iaith leiafrifol.
Dywedodd Ffion: "O ran yr iaith – maen nhw yn union yr un peth â ni - roedd yna gymysgedd o siaradwyr iaith gyntaf, ail iaith ac roedd rhai yn dysgu am y tro cyntaf.
"Mae strwythur ysgolion nhw yr un peth â ni.
"Roedd cymaint o baralelau rhyngom ni – oedd e’n nuts."
'Rhaid i ni gyfathrebu ein diwylliant yn well'
Dywedodd y myfyrwyr fod yn rhaid i'r Cymry ddysgu gwersi gan y Māori ar sail hybu diwylliant Cymraeg.
"Mae rhaid i ni gyfathrebu ein diwylliant yn well i bobl ar draws Cymru – sicrhau fod eisteddfodau a phethau fel twmpath ar gael i bawb", meddai Ffion.
"Weithiau rydym ni fel pobl ifanc Cymraeg yn colli’r aspect ddiwylliannol yn ein bywydau.
"Ond mae'r Māori yn cadw hynny trwy gydol eu bywydau – trwy gerdd a dawns, ac wrth gwrs yr Haka.
"Mae ganddyn nhw fwy o falchder yn eu diwylliant – a dyna pam mae’n tryledu trwy genedlaethau ac ar draws yr holl gymdeithas."
Dywedodd y myfyrwyr bod cael y cyfle i brofi iaith a diwylliant y Māori, wedi rhoi gwerthfawrogiad cryfach o'u hiaith a diwylliant Cymraeg.
"Fe ddysgodd y daith i mi werthfawrogi’n ddyfnach fy mherthynas â’r Gymraeg," meddai Samia.