Cymdeithasau Cymraeg yn rhoi 'cartref' i Gymry ifanc
- Cyhoeddwyd
"Cyn i mi ddod o hyd i'r gymdeithas a fy ffrindiau Cymraeg, doeddwn i ddim yn teimlo fy mod i'n perthyn yma."
Dyna brofiad un fyfyrwraig o ogledd Cymru wrth iddi symud o "dref a chymuned lle mae'r Gymraeg yn gryf" i brifysgol yn Lloegr.
Mae myfyrwyr ar draws y DU wedi rhannu eu profiadau o symud i'r brifysgol fel siaradwyr Cymraeg ifanc gyda Cymru Fyw.
Dywedodd myfyriwr arall o'r Cymoedd bod ymuno â'r gymdeithas Gymraeg wedi rhoi "cartref oddi cartref" iddo, pan oedd o'n teimlo'n ynysig.
'Sylwais arni'n gwisgo siwmper Maes B'
Mae Megan, sy'n wreiddiol o Ruthun yn Sir Ddinbych, bellach yn ei thrydedd flwyddyn yn astudio milfeddygaeth ym Mhrifysgol Nottingham.
"Roedd hi'n deimlad eithaf estron" i symud i ddinas hollol newydd yn Lloegr, meddai.
Dywedodd ei bod hi wedi darganfod cartref trwy ymuno â'r gymdeithas Gymraeg, ac mae hi bellach yn cefnogi myfyrwyr eraill sy'n ymdopi â'r un profiadau.
Un o'r rhai y daeth Megan i'w hadnabod oedd Alys o Gaerdydd, gan sylwi ei bod hi'n gwisgo siwmper Maes B.
Roedd y ddwy wedi gallu uniaethu â'r profiad o fod yn siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf mewn dinas ddieithr.
"Mae cael y Gymraeg yn iaith gyntaf i chi ac yna symud yn brofiad alienating," meddai Alys.
Ond er hynny, dywedodd: "Mae dod i 'nabod pobl sy'n deall hynny wedi bod yn rhan enfawr o helpu fi i ymlacio."
Mae'r ddwy ffrind bellach yn rhedeg pwyllgor y gymdeithas.
Eu nod yw cynorthwyo Cymry ifanc i deimlo'n fwy cartrefol yn y brifysgol.
Maen nhw'n rhedeg boreau coffi sy'n annog siaradwyr Cymraeg o bob gallu i gymdeithasu.
Dywedodd Alys: "Mae pobl yn ei weld fel cymuned... gall prifysgol fod yn ynysig ar adegau felly mae unrhyw gyfle i fod yn rhan o rywbeth yn ddeniadol."
- Cyhoeddwyd7 Awst 2024
- Cyhoeddwyd12 Awst 2024
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2022
Er gwaethaf llwyddiant y gymdeithas, bu'n rhaid i'r merched ymdopi â sylwadau cas gan rai myfyrwyr.
"Byddai Saeson yn cerdded heibio ni [yn ffair y glas] a bod fel 'beth yw hwn?'," meddai Alys.
"Doedd rhai ohonyn nhw ddim yn ddymunol iawn amdanon ni. Roedd hi'n dipyn o jôc iddyn nhw."
Dywedodd y merched fod cynrychioli diwylliant Cymraeg yn rhan fawr o'r gymdeithas, ac un o'r rhesymau pam mae'n bwysig iddyn nhw.
"Dwi'n meddwl bod lot o ddiwylliant Cymreig wedi ei guddio yng Nghymru a heb gymunedau fel yr un yma yn Lloegr, does neb i wybod amdanom ni."
'Cartref oddi cartref'
Ym Mryste, Luca - sy'n wreiddiol o Hengoed yn Sir Caerffili - yw is-lywydd cymdeithas Gymraeg y brifysgol.
Pan gyrhaeddodd y brifysgol, roedd Luca'n teimlo'n unig, ac fel nad oedd yn perthyn.
"Roedd hi'n brofiad hynod ynysig dod yma am y tro cyntaf oherwydd bod y ddemograffeg ym Mryste... wel, roedd rhan fwyaf o bobl o dde Lloegr," meddai.
Ymunodd â'r gymdeithas er mwyn ceisio teimlo'n fwy cyfforddus, ac mae bellach yn disgrifio'r grŵp fel "cartref oddi cartref".
Mae ei hunaniaeth yn bwysig i Luca, yn enwedig fel siaradwr Cymraeg cenhedlaeth gyntaf.
"Rwy'n dod o'r Cymoedd a does dim llawer o gyfleoedd i siarad Cymraeg, a phan fyddwch chi'n colli'r rhwydwaith hwnnw mae'n peryglu eich gallu a'ch cyfleoedd i siarad," meddai.
"Doeddwn i ddim eisiau colli hynny."
Mae'r gymdeithas wedi gwneud ymdrechion "aruthrol" i "godi lefelau o ymwybyddiaeth" yr iaith Gymraeg eleni, meddai Luca.
Mae ganddyn nhw ddau gydlynydd yr iaith, ac maen nhw wedi ymuno â "chaffi iaith" y brifysgol.
'Cadw'r Gymraeg, tu allan i Gymru'
Yn ogystal â chreu hafan i siaradwyr ifanc, mae'r gymdeithas hefyd yn ceisio addysgu myfyrwyr rhyngwladol am yr iaith.
"Roedd pobl yn dod i fyny aton ni a oedd yn dysgu Mandarin, Japaneaidd, Iseldireg ac Almaeneg," meddai Luca.
"Roedd hi'n ddiddorol iawn cael mewnwelediad i'r gwahaniaethau yn yr ieithoedd."
Mae gan gymdeithas Gymraeg Bryste dros 130 aelod hyd yma.
Mae gan Lydia o Gaerdydd brofiad personol o bwysigrwydd cymdeithasau Cymraeg i hybu defnydd yr iaith.
Dysgwr Cymraeg oedd Lydia phan ddechreuodd hi ym Mhrifysgol Bryste yn 2020.
Pedair blynedd yn ddiweddarach, dywedodd bod y cyfle i siarad Cymraeg gyda'i chyfoedion yn y gymdeithas wedi ei helpu i gael swydd.
Cyfaddefodd Lydia ei bod hi wedi ymuno â'r gymdeithas "ond i gael pobl i wylio'r rygbi gyda" i ddechrau.
Ond, fel rhan o'r pwyllgor, defnyddiodd ei Chymraeg yn wythnosol mewn cyfarfodydd ac yn ystod digwyddiadau cymdeithasol.
Dywedodd: "Roedd yn braf cael y gymuned honno a chael rhywbeth roeddwn i'n gyfarwydd gyda.
“Rydw i wedi bod yn ymgeisio am waith ac mae llawer o’r swyddi rwy’n edrych arnynt yn gofyn am y Gymraeg fel maen prawf dymunol.
"Trwy fod rhan o'r gymdeithas rydw i wedi dangos a phrofi fy mod wedi cadw fy Nghymraeg er nad oeddwn i hyd yn oed yng Nghymru."