'Falch o raglen Tanwen & Ollie - er sylwadau cas'

Disgrifiad,

Dywedodd Tanwen Cray fod y sylwadau negyddol wedi bod yn "rili anodd a 'di bod yn lot o sioc"

  • Cyhoeddwyd

Mae'r cyflwynydd tywydd Tanwen Cray "yn falch" ei bod wedi cytuno i fod yn rhan o raglen realiti ar gyfer S4C, er iddi dderbyn sylwadau negyddol wedi darllediad y gyfres.

Mae Tanwen & Ollie yn rhoi blas ar fywyd y cyflwynydd a'i chariad, y pêl-droediwr Ollie Cooper, wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer genedigaeth eu plentyn cyntaf.

Mewn cyfweliad emosiynol ar raglen Bore Sul, mae hi'n disgrifio'i "sioc" o ddarllen negeseuon cas ar y cyfryngau cymdeithasol, er ei bod yn derbyn bod sylw negyddol yn rhan o fywyd unrhyw un mewn swydd gyhoeddus.

Apeliodd ar bobl "i fod yn garedig - dim jyst i fi ond i bawb" mewn negeseuon ar wefannau fel Facebook, X ac Instagram oherwydd "chi'n brifo pobl".

Fe gafodd merch Tanwen ac Ollie, Neli, ei geni ddiwedd Ionawr - wyres gyntaf dwy ochr y teulu - ac fe ddechreuodd gwaith ffilmio'r rhaglen rhyw 10 wythnos cyn yr enedigaeth.

Roedd Tanwen eisoes wedi penderfynu ei bod am rannu ei beichiogrwydd ar y cyfryngau cymdeithasol cyn derbyn gwahoddiad y cwmni cynhyrchu i ystyried bod yn destun rhaglen realiti.

Dywedodd wrth Bore Sul bod ei mam - y cyflwynydd teledu, Angharad Mair - "yn keen i fi 'neud e, so nes i 'neud e!"

Roedd canfod ei bod yn feichiog, yn ei 20au cynnar, yn "bach o sioc i fi a Ollie - newyddion grêt a fi'n dwlu, ma' bywyd yn hyfryd erbyn hyn, ond o'dd e yn sioc".

"Fi'n meddwl o'dd e'n lot fawr o sioc i bobl er'ill 'fyd, gan gynnwys teulu a ffrindie.

"'Nes i benderfynu... byse fe'n haws i fi a byse'n well 'da fi rannu popeth fel bod pawb yn gallu gweld bod dim ots 'da fi o gwbl - bod e'n rhan o fywyd nawr a fi'n edrych ymlaen a bod babi bach ar y ffordd."

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Tanwen gyda'i chariad - chwaraewr Abertawe a Chymru, Ollie Cooper

Dywed Tanwen nad oedd hi wedi poeni'n ormodol ynghylch y posibilrwydd o rannu gormod am eu bywydau wrth i'r ffilmio ddigwydd, ond roedd Ollie yn poeni fymryn.

Roedd chwaraewr Abertawe a Chymru'n "ca'l amser anodd gyda phêl-droed ar y pryd so o'dd e ddim mo'yn bo' nhw'n trio ffilmo gormod neu'n trio ca'l gw'bod gormod am ei fywyd e hefyd".

Roedd y ffaith mai ei thad, y dyn camera Joni Cray, oedd un o'r bobl tu ôl i'r camera yn help, meddai, er i sawl un ofyn iddi "nag o'dd e bach yn od ca'l Dad yn dod mewn i weld ti'n ca'l scan?".

"Actually 'naeth e helpu shwt gymaint gallu gweud 'Na, sa i'n licio 'neud 'ny' - a hefyd bod e'n gallu bod yn rhan o'r gyfres ond tu ôl i'r camera," meddai.

"Pan mae e o flaen y camera ma' fe jyst yn mynd bach yn giggly achos dyw e ddim cweit yn gw'bod be' i 'neud!"

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Tanwen bod cael ei thad tu ôl i'r camera yn help mawr ar adegau sy'n gallu bod yn rhai digon preifat

Dywedodd bod yr ymatebion positif i'r gyfres "wedi bod yn anhygoel".

Pan aeth y cwpl ifanc i ŵyl Tafwyl yn ddiweddar, dywedodd llawer wrthyn nhw eu bod "wir wedi mwynhau'r rhaglen - bod teuluoedd yn dweud bod e'n wych bod nhw'n gallu gwylio S4C gyda'u plant nhw achos bod eu plant nhw'n fodlon gwatchad rhaglen ar S4C".

Ond roedd yna "lot o sylwadau negyddol" hefyd ar y cyfryngau cymdeithasol, ac roedd hynny'n heriol i'r fam newydd ifanc.

"Rhwng ca'l babi, ma' popeth yn mynd, a chi jyst yn llefen trwy'r amser..." dywedodd.

"Dwi'n deall bod e'n rhan o'r swydd, os chi'n mynd i rannu lot... chi yn mynd i ga'l pobl yn ymateb yn negyddol.

"Beth oedd yn bach o sioc i fi a 'nath frifo fi lot," meddai yn ei dagrau, "ni'n gymuned mor fach yng Nghymru a fi'n meddwl bod gymaint o bobl yn gweud pethe'... mae'n rili anodd a 'di bod yn lot o sioc."

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Neli Meillionen Awen Cooper yw enw llawn mewn Tanwen, a gafodd ei geni ddiwedd Ionawr

"Ar un pwynt o'dd rhyw 100 o negeseuon ar y post 'ma... nes i just ffonio Mam a gweud 'Mae rhaid i ti ateb nhw - jyst un paragraff'.

"Ond fi hefyd yn falch 'naeth lot o bobl ar y post hefyd dweud 'plîs byddwch yn garedig'.

"Fi mor falch bo 'da fi fam sydd yn gweithio yn y cyfryngau, sy'n gallu gweud 'tha fi shwt i ymdopi gyda negeseuon negyddol.

"Mae e 'di digwydd i hi sawl gwaith - fi'n siŵr neith e ddigwydd i fi yn y dyfodol 'fyd."

Ei neges i'r rhai sy'n ysgrifennu sylwadau cas yw "jyst i fod yn garedig - dim jyst i fi ond i bawb... s'dim pwynt - chi'n brifo pobl".

Ffynhonnell y llun, Tanwen Cray
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tanwen wedi mynd â Neli i weld ei thad, Ollie Cooper, yn chwarae pêl-droed i Abertawe

Mae Tanwen yn dal yn falch ei bod wedi cytuno i'r camerâu eu dilyn oherwydd mae wedi creu cofnod o gyfnod arbennig yn ei bywyd.

"Ni 'di joio 'neud e a mae'n rili neis gallu edrych yn ôl arno fe...

"Ma' bywyd yn hyfryd a fi'n dwlu ar Neli a'n nheulu a fi'n rili falch bo fi dal wedi 'neud y gyfres."

Dyw Tanwen heb glywed unrhyw sïon a fydd yna ail gyfres o Tanwen & Ollie, ond mae hi'n hollol agored i'r syniad.

"Bysen i'n licio bod pobl yn gallu gweld bywyd gyda Neli hefyd," meddai.

"Fi ac Ollie newydd brynu tŷ newydd yn Abertawe felly fi'n teimlo fel bod bywyd bach yn wahanol eto gyda ni."