Menter gymdeithasol yn prynu becws ym Mhen Llŷn
- Cyhoeddwyd
Mae menter gymunedol yn Llŷn wedi llwyddo i brynu siop fara sydd wedi bod yno ers 80 mlynedd.
Ar ôl llwyddo i dderbyn grant o £350,000 gan Lywodraeth y DU drwy gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, mae cwmni Bro Antur Aelhaearn wedi gallu prynu Becws Glanrhyd.
Mae’r siop fara ym mhentref Llanaelhaearn yn cyflogi chwech o bobl.
Ym mis Mawrth, daeth newyddion y gallai’r becws gau ei drysau ar ddiwedd y mis, ond fe barhaodd y perchennog ar agor tan i griw yr Antur gymryd drosodd.
'Rhan annatod o'r pentref'
Dywedodd cadeirydd Antur Aelhaearn bod y “becws wedi bodoli yn Llanaelhaearn ers 80 mlynedd ac mae'n rhan annatod o wead y pentref.”
“Mae'n adnodd pwysig i'r gymuned ac yn rhan o bwy ydym ni," meddai Llŷr ap Rhisiart.
“Mae’r cyfle i ddatblygu'r becws a chynnig cyflogaeth o hyd i bobl leol yn anrhydedd o’r mwyaf, ac rydym yn fwy na pharod i wynebu’r her mewn cyfnod economaidd anodd.”
O fewn y grant, mae arian i brynu system solar i’r becws er mwyn lleihau costau.
Fe fyddan nhw hefyd, mewn amser, yn cynnal cyrsiau pobi ac yn cynnig cyfleoedd i bobl ddod i weld y system solar ar waith.
Mae dau dŷ gyda’r becws, ac wedi’u hadnewyddu, bwriad yr Antur yw eu rhentu i bobl leol.
Menter gymunedol gyntaf Prydain
Sefydlwyd yr Antur ym 1974 gan y diweddar Dr Carl Clowes mewn ymateb i ddiboblogi'r gymuned leol.
Antur Aelhaearn oedd y fenter gymunedol gyntaf ym Mhrydain.
Dros y 50 mlynedd, mae’r fenter wedi bod yn cefnogi sawl busnes, ffurfio mentrau newydd, darparu llu o weithgareddau cymunedol a darparu gofod ar gyfer hyfforddiant a lles cymunedol.
Mae'r fenter yn rhan o nifer o brosiectau cymunedol eraill, gan gynnwys siop newydd agorodd ym mis Mehefin ar safle hen feddygfa'r pentref.
Mae coedlan gymunedol - Coedlan Carl - hefyd wedi’i sefydlu ac mae ‘na gaffi a gweithdy cymunedol sy'n cynnal digwyddiadau ac yn cefnogi saith o fusnesau lleol.
Mae gan yr antur hefyd gynlluniau i ddatblygu'r capel lleol yn gampfa gymunedol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2021