Arestio gyrrwr ar ôl i ddyn ddioddef anafiadau difrifol ar yr A48

Mae dyn wedi dioddef anafiadau allai newid ei fywyd yn y gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi'i arestio yn dilyn gwrthdrawiad difrifol ar yr A48 yng Nghaerdydd fore Llun.
Cafodd dyn ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru gydag anafiadau allai newid ei fywyd wedi'r gwrthdrawiad ar y ffordd tua'r gorllewin toc cyn 05:00.
Roedd dau gar, fan a lori yn rhan o'r digwyddiad, yn ôl Heddlu'r De.
Mae dyn 30 oed o'r Tyllgoed, Caerdydd, wedi cael ei arestio ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad cyffuriau, gyrru tra nad oedd yn ffit oherwydd diod neu gyffuriau, ac achosi anafiadau difrifol trwy yrru heb ofal a sylw dyladwy.
Roedd rhan o'r ffordd ar gau am gyfnod o bum awr ond mae bellach wedi ailagor.