David TC Davies yn ystyried swydd gydag AS dan ymchwiliad

David TC DaviesFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae David TC Davies mewn trafodaethau i weithio fel cynorthwyydd i Laura Anne Jones

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-Ysgrifennydd Cymru mewn trafodaethau i weithio fel cynorthwyydd i Aelod o'r Senedd sy'n destun ymchwiliad gan yr heddlu.

Mae David TC Davies yn ystyried rôl flaenllaw o fewn tîm yr aelod Ceidwadol o'r Senedd Laura Anne Jones.

Mae Ms Jones yn destun ymchwiliad i honiadau'n ymwneud â'i threuliau, ac yn gynharach y mis hwn fe ymddiheurodd am ddefnyddio iaith sarhaus mewn sgwrs ar WhatsApp.

Doedd Mr Davies ddim am wneud sylw am y mater. Mae Ms Jones wedi cael cais am sylw hefyd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Laura Anne Jones yn destun ymchwiliad yn sgil honiadau yn ymwneud â'i threuliau

Roedd Mr Davies yn Aelod Seneddol Ceidwadol rhwng 2005 a mis Gorffennaf eleni, pan gollodd ei sedd yn yr etholiad cyffredinol.

Cafodd ei benodi'n Ysgrifennydd Cymru gan gyn-Brif Weinidog y DU, Rishi Sunak.

Mae'r BBC ar ddeall fod Mr Davies yn chwilio am swydd mewn mae y mae'n gyfarwydd ag ef.

Dywedodd yr heddlu bod yr ymchwiliad i'r honiadau yn erbyn Ms Jones yn parhau.

Mae Ms Jones hefyd wedi ymddiheuro am yr iaith "annerbyniol" wnaeth hi ei ddefnyddio.